Emmeline Pethick-Lawrence

Ffeminist a swffragét o Loegr oedd Emmeline Pethick-Lawrence, y farwnes Pethick-Lawrence (21 Hydref 1867 - 11 Mawrth 1954) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros hawliau merched.[1] Sefydlodd Pethick-Lawrence y papur newydd Pleidleisiau i Fenywod gyda'i gŵr ym 1907.

Emmeline Pethick-Lawrence
Ganwyd21 Hydref 1867 Edit this on Wikidata
Bryste, Clifton, Bryste Edit this on Wikidata
Bu farw11 Mawrth 1954 Edit this on Wikidata
Gomshall Edit this on Wikidata
Man preswylBryste, Weston-super-Mare, Llundain, Dorking Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethnewyddiadurwr, swffragét, ymgyrchydd dros hawliau merched, golygydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Votes for Women Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
TadHenry Pethick Edit this on Wikidata
PriodFrederick Pethick-Lawrence, barwn 1af Pethick-Lawrence Edit this on Wikidata
PerthnasauHenrietta Lawes Edit this on Wikidata

Magwraeth golygu

Fe'i ganed ym Mryste ar 21 Hydref 1867 a bu farw yn Gomshall, Surrey. Dyn busnes oedd ei thad a hi oedd yr ail blentyn o 13 o blant; fe'i danfonwyd i aros mewn ysgol breswyl pan oed yn 8 oed.[2][3][4][5][6][7]

Priododd Frederick Pethick-Lawrence, barwn 1af Pethick-Lawrence yn 1901, wedi iddi newid ei agwedd wleidyddol, gyda gogwydd tuag at y Rhyddfrydwyr. Roedd gan y ddau gyfrifon banc ar wahân, rhywbeth prin iawn yr adeg honno.[8]

O 1891 tan 1895 gweithiodd Pethick fel "chwaer y bobl" dros Genhadaeth Gorllewin Llundain yn Cleveland Hall, ger Sgwâr Fitzroy. Helpodd Mary Neal redeg clwb merched yn y genhadaeth. Yn hydref 1895, gadawodd hi a Mary Neal y genhadaeth i gyd-sefydlu'r Espérance Club, clwb i fenywod a merched ifanc na fyddent yn ddarostyngedig i gyfyngiadau'r genhadaeth, lle gallent arbrofi gyda dawns a drama. Dechreuodd Pethick hefyd Maison Espérance, cydweithfa gwneud gwisgoedd gydag isafswm cyflog, diwrnod wyth awr a chynllun gwyliau.[9] [10][11]

Ymgyrchydd dros hawliau merched golygu

 
Y papur newydd Votes for Women, a gychwynwyd gan Pethick-Lawrence a'i gŵr
 
Pethick-Lawrence, chwith, gyda Women at the Hague yn 1915, gan gynnwys Jane Addams ac Annie E. Malloy

Roedd Pethick-Lawrence yn aelod o Gymdeithas yr Etholfraint (the Suffrage Society) ac fe'i cyflwynwyd i Emmeline Pankhurst ym 1906. Daeth yn drysorydd Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod (WSPU), a sefydlwyd gan Pankurst ym 1903, a chododd £134,000 dros gyfnod o chwe blynedd.

Arestiwyd y pâr a'u garcharu yn 1912 am gynllwynio, yn dilyn protest a oedd yn cynnwys torri ffenestri, er eu bod ill dau wedi anghytuno â'r math treisgar hwn o weithredu. Ar ôl cael eu rhyddhau o'r carchar, cafodd y Pethick-Lawrences eu disodli o'r WSPU gan Emmeline Pankhurst a'i merch Christabel, oherwydd eu hanghytundeb ynglŷn ag ymgyrchu mwy radical, mwy milwriaethus.

Anrhydeddau golygu


Cyfeiriadau golygu

  1. "Emmeline Pethick-Lawrence © Orlando Project". cambridge.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-13. Cyrchwyd 2019-04-13.
  2. Cyffredinol: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/. Oxford Dictionary of National Biography.
  3. Rhyw: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/. Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/ Oxford Dictionary of National Biography.
  4. Dyddiad geni: "Emmeline Pethick-Lawrence, Baroness Pethick-Lawrence". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Emmeline Pethick-Lawrence". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  5. Dyddiad marw: "Emmeline Pethick-Lawrence, Baroness Pethick-Lawrence". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Emmeline Pethick-Lawrence". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  6. Man geni: Oxford Dictionary of National Biography.
  7. Tad: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/ Oxford Dictionary of National Biography.
  8. Brian Harrison, 'Lawrence, Emmeline Pethick-, Lady Pethick-Lawrence (1867–1954)', Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, Sept 2004; arlein Mai 2006 accessed 17 Tachwedd 2007
  9. Judge, Roy (1989). "Mary Neal and the Espérance Morris". Folk Music Journal 5 (5): 548. http://www.maryneal.org/file-uploads/files/file/1989s1a.pdf. Adalwyd 28 Awst 2013.
  10. Galwedigaeth: Oxford Dictionary of National Biography. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  11. Aelodaeth: https://spartacus-educational.com/Wpethick.htm. dyddiad cyrchiad: 21 Awst 2023. https://spartacus-educational.com/Wpethick.htm. dyddiad cyrchiad: 21 Awst 2023. https://spartacus-educational.com/Wpethick.htm. dyddiad cyrchiad: 21 Awst 2023. https://spartacus-educational.com/Wpethick.htm. dyddiad cyrchiad: 21 Awst 2023. https://womenvotepeace.com/women/emmeline-pethick-lawrence-bio/. dyddiad cyrchiad: 21 Awst 2023. https://womenvotepeace.com/women/emmeline-pethick-lawrence-bio/. dyddiad cyrchiad: 21 Awst 2023. https://www.encyclopedia.com/women/encyclopedias-almanacs-transcripts-and-maps/pethick-lawrence-emmeline-1867-1954. dyddiad cyrchiad: 21 Awst 2023.