Endaf Emlyn

cynhyrchydd a chyfansoddwr a aned ym Mangor yn 1944

Canwr, cyfansoddwr a chyfarwyddwr ffilm yw Endaf Emlyn Jones (ganwyd 31 Gorffennaf 1944).[1] Roedd yn aelod o'r grwpiau Injaroc a Jîp.

Endaf Emlyn
Ganwyd31 Gorffennaf 1944 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
Man preswylPwllheli, Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr, cyfansoddwr, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr ffilm, cyfarwyddwr, cerddor Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amGaucho Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Emlyn ym Mangor a'i magwyd ym Mhwllheli. Yn ei arddegau bu'n aelod o gerddorfa ieuenctid Cymru ar yr un pryd a Karl Jenkins a John Cale, gan chwarae'r ffidil. Fe'i hyfforddwyd fel athro ond daeth yn adnabyddus ar ddiwedd y 1960au fel cyhoeddwr teledu gyda HTV Cymru.[1][2]

Gyrfa golygu

Cerddoriaeth golygu

Bu'n cyfansoddi ers y 1960au ac ymunodd â chwmni cyhoeddi Tony Hatch, M&M Music. Ym 1967/8 cyhoeddwyd ei record gyntaf, Paper Chains ar label Parlophone, yr un label â'r Beatles ar y pryd. Dewiswyd y gân yn record yr wythnos gan Tony Blackburn ar BBC Radio 1. Ar ail ochr y record sengl oedd Madryn a gafodd ei recordio yn stiwdio'r Beatles yn Abbey Road. Cyhoeddodd ddwy record sengl arall ar Parlophone, All My Life / Cherry Hill, a Starshine / Where were You?.[2]

Rhyddhawyd ei albwm gyntaf, Hiraeth yn 1973, albwm oedd yn cyfuno dehongliadau o hen alawon gwerin a chaneuon gwreiddiol telynegol eu naws.[1]

Y grŵp cyntaf iddo fod yn aelod ohono oedd Yr Eiddoch Yn Gywir gyda Hywel Gwynfryn a Derek Boote. Aeth ymlaen i fod yn aelod o'r swper grŵp Injaroc yn 1977 a'r grŵp Jîp.[1]

Yn 1974 cyfansoddodd gerddoriaeth agoriadol opera sebon Gymraeg y BBC, Pobol y Cwm, ac mae'r thema wedi ei ddefnyddio mewn sawl fersiwn ers hynny.[1]

Ffilm a theledu golygu

Cychwynnodd ei yrfa deledu fel sgriptiwr â chyhoeddwr gyda BBC Cymru ac yna fel cyhoeddwr gyda HTV Cymru yn 1968, Yn 1972 aeth i weithio tu ôl y llenni, fel rheolwr llawr. Yn ddiweddarach, roedd yn gyfarwyddwr/gynhyrchydd y rhaglen gerddoriaeth Sêr ar HTV Cymru ar ddiwedd y 1970au. Yn 1982 cyfarwyddodd y rhaglen ddogfen Shampŵ, a enillodd wobr Ysbryd yr Ŵyl yn yr Ŵyl Ffilm a Theledu Geltaidd.

Daeth yn gyfarwyddwr ffilmiau llwyddiannus ac arobryn yn cychwyn gyda'r ffilm Gaucho yn 1984. Sefydlodd gwmni ffilm a theledu Gaucho oedd yn weithgar iawn yn y 1990au.[3]

Yn Mai 2017 derbyniodd Wobr John Hefin am Gyfraniad Oes - cyflwynyd y wobr iddo yng ngŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin.[4]

Recordiau golygu

  • Hiraeth (1974, Albwm Feinyl 12", Recordiau'r Dryw WRL 537)
  • Salem (1974, Albwm Feinyl 12", Recordiau Sain 1012M)
  • Syrffio Mewn Cariad (1976, Albwm Feinyl 12", Recordiau Sain 1051M)
  • Halen Y Ddaear - gyda Injaroc (1977, Albwm Feinyl 12", Recordiau Sain 1094M)
  • Dawnsionara (1981, Albwm Feinyl 12", Recordiau Sain 1206M)
  • Dilyn Y Graen - casgliad (2001, Albwm 4 CD, Recordiau Sain SCD 2287)
  • Deuwedd (2009, Albwm CD, Recordiau Sain SCD 2603)

Ffilmiau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4  BBC Cymru Bywyd - Endaf Emlyn. BBC. Adalwyd ar 1 Mai 2016.
  2. 2.0 2.1  BBC Cymru - Cerddoriaeth - Endaf Emlyn. BBC Cymru. Adalwyd ar 1 Mai 2016.
  3.  Porth - Endaf Emlyn. Coleg Cymraeg Cenedlaethol (18 Awst 2013). Adalwyd ar 1 Mai 2016.
  4. Beti George i dderbyn gwobr cyfraniad oes , Golwg360, 26 Mawrth 2018.

Dolenni allanol golygu