Datganiad neu gyhuddiad athrodus neu anghywir am berson arall a wneir gyda'r bwriad o ostwng ei barch neu bardduo ei enw yn y gymuned yw enllib. Yng nghyfraith Cymru a Lloegr gwahanieithir rhwng enllib yn yr ystyr gyffredinol (difenwad / defamation), enllib mewn cyfrwng parhaol, e.e. mewn ysgrifen, mewn rhaglen deledu (enllib / libel), ac mewn cyfrwng byrhoedlog, fel arfer ar lafar (athrod / slander). Mae enllib yn fater i'r llysoedd sifil fel rheol ond mewn achosion lle y credir y gallai arwain at dor-heddwch mae'n gallu bod yn fater i'r gyfraith droseddol.

Eginyn erthygl sydd uchod am y gyfraith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.