Enoch Powell

gwleidydd Prydeinig (1912-1998)

Aelod Seneddol gyda chysylltiadau teuluol Cymreig oedd John Enoch Powell (16 Mehefin 19128 Chwefror 1998) a ddaeth yn un o wleidyddion mwyaf dadleuol ei oes.

Enoch Powell
GanwydJohn Enoch Powell Edit this on Wikidata
16 Mehefin 1912 Edit this on Wikidata
Birmingham Edit this on Wikidata
Bu farw8 Chwefror 1998 Edit this on Wikidata
Ysbyty'r Brenin Edward VII Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, ieithydd, bardd, ysgrifennwr, academydd, swyddog milwrol, ysgolhaig clasurol Edit this on Wikidata
SwyddYsgrifennydd Gwladol dros Iechyd, Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Amddiffyn, Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Conservative Research Department
  • Prifysgol Sydney Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol, Plaid Unoliaethol Ulster Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE, Porson Prize Edit this on Wikidata

Gyrfa gynnar golygu

Yn ddyn hynod alluog a deallus, erbyn 1945, ac yntau heb gyrraedd ei 35 oed, yr oedd eisoes wedi bod yn Athro Groeg ym Mhrifysgol Sydney, Awstralia, ac yn Frigadydd ym myddin Prydain yn yr India wedi iddo ymuno â'r fyddin fel preifat ym 1939. Roedd yn ieithydd penigamp, gan feistroli'r Almaeneg a'r Eidaleg, yn ogystal ag ieithoedd y Clasuron a'r Beibl. Yn ddiddorol iawn, o gofio iddo fod yn enwog yn nes ymlaen am wrthwynebu'r presenoldeb Asiaidd y Deyrnas Unedig, pan oedd yn yr India fe ddaeth yn rhugl yn yr iaith Wrdw, gan ei defnyddio bob dydd yno, ac yn achlysurol wedyn yn ei etholaeth yn Wolverhampton. (Yn wir, fe honnodd Powell iddo ddefnyddio pob un o'r chwe iaith yr oedd yn rhugl ynddynt wrth ganfasio yn y dref yn ystod Etholiad Cyffredinol 1950). Roedd ganddo rywfaint o grap ar y Gymraeg, ac yn 1942 cydolygodd gyda Stephen J. Williams gyfrol o gyfreithiau Hywel Dda o'r llawysgrif Llyfr Blegywryd (Llyfr Blegywryd: Caerdydd, 1942). Fe wnaeth o leiaf un cyfweliad yn Gymraeg ar y teledu, er iddo ddweud ar y pryd ei fod yn fwy cyffyrddus yn darllen yr iaith na'i siarad.[1]

Dechrau ei yrfa wleidyddol golygu

Roedd ganddo uchelgais dod yn Rhaglaw Prydeinig yr India, ond pan roddwyd y swydd i Louis Mountbatten yn 1945, penderfynodd Powell ddilyn gyrfa mewn gwleidyddiaeth Seneddol. Roedd yn ei weld ei hunan yn Dori naturiol, a chanddo barch mawr at sefydliadau traddodiadol Prydeinig fel Eglwys Loegr, Tŷ'r Arglwyddi, a'r Frenhiniaeth. Fel rhan o hyn, ac er gwaethaf ei fagwraeth ddosbarth gweithiol, drefol, fe dreuliodd lawer o'i amser hamdden yn hela llwynogod ar gefn ceffyl.

Ei syniadau economaidd golygu

Roedd yn bleidiol iawn i estyn y sector preifat a lleihau rhan y wladwriaeth ym mywyd y wlad, ac mae rhai'n honni hefyd iddo osod seiliau Thatcheriaeth yn bell cyn i Margaret Thatcher ymddangos, yn enwedig ym maes economeg. Roedd e'n un o gefnogwyr cynnar Monetariaeth, sef polisi o osgoi chwyddiant trwy gyfyngu ar faint o arian oedd ar gael. Tocio ar wariant cyhoeddus oedd y prif ddull i wneud hyn, ac fel Margaret Thatcher ar ei ôl, roedd Powell o blaid torri'n ôl ar wasanaethau cyhoeddus er mwyn rheoli chwyddiant. Cymaint oedd ei frwdfrydedd dros y syniadau hyn nes iddo ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Cyllid y Trysorlys yn 1958 gan nad oedd ei gyd-weinidogion yn rhannu ei sêl fonetaraidd. O ganlyniad i'w frwdfrydedd dros gyfalafiaeth, roedd e'n elyniaethus iawn i bob awgrym o sosialaeth: ym 1968 pan gwynodd Harold Wilson am "firws Powelliaeth", atebodd Powell yn chwyrn, "Firws ydw i. Fi yw'r firws sy'n lladd sosialwyr."

Ei frwydr yn erbyn y diwydiant tybaco golygu

Yn 1963, pan oedd yn Weinidog Iechyd yn llywodraeth Harold Macmillan, fe geisiodd lansio ymgrych posteri ar sail y slogan syml: Cigarettes cause lung cancer. Cafodd ei rwystro rhag gwneud hynny gan fod yr awdurdodau hysbysebu yn mynnu nad oedd y cyswllt rhwng smygu a chancr wedi’i brofi’n iawn eto, ac ni chafwyd hysbysebu cyhoeddus di-flewyn-ar-dafod am effeithiau tybaco am ddeugain mlynedd gan y llywodraeth.

Amddiffyn Tŷ'r Arglwyddi golygu

Ar sawl achlysur, fe siaradodd Powell yn Nhŷ'r Cyffredin yn erbyn cynlluniau i ddiwygio Tŷ'r Arglwyddi. Yn fwyaf nodedig, yn 1969, fe lwyddodd Enoch Powell a'r sosialydd Michael Foot i ddifetha cynlluniau Harold Wilson ac Edward Heath i greu ail siambr wedi'i llenwi'n rhannol â rhai oedd wedi'u hethol yn ddemocrataidd, ond yn bennaf â phobl oedd wedi'u henwebu gan y pleidiau. Dadleuodd Powell y byddai'r fath gorff yn llawn "sbwriel y ddwy Senedd ddiwethaf," ac yn debyg o fod yn gi bach dof i arweinwyr y prif bleidiau. O'i ran ef, roedd Foot am ddiddymu Tŷ'r Arglwyddi'n gyfan gwbl. Er bod y ddau ddyn yn gwadu eu bod yn cydweithio ar y mater, rhyngddyn nhw, fe lwyddasant i gadw'r mesur diwygio'n sownd yn Nhŷ'r Cyffredin nes bod yr amser ar ei gyfer wedi pallu.

Cyhuddiadau o hiliaeth golygu

Daeth yn eilun i rai ac yn bennaf casddyn i eraill yn 1968 pan areithiodd yn ei ddinas enedigol, Birmingham, ar bwnc mewnfudo i wledydd Prydain o'r India. Yn ei araith, fe ddywedodd ei fod, "Fel y Rhufeiniwr, yn gweld Afon Tiber yn llifo gyda llawer o waed," pe bai pobl o Asia'n dal i fewnfudo i'r Deyrnas Unedig i'r un graddau â hyd hynny. Soniwyd am yr araith hon am flynyddoedd wedyn fel ei araith "afonydd gwaed". Yn sgil yr araith hon, daeth yn darged cyson i brotestwyr oedd yn ei gyhuddo o hiliaeth a hyd yn oed Natsïaeth. Er bod y ddau ddyn yn hen gyfeillion, fe aeth Tony Benn mor bell â honni bod "Y faner sydd wedi'i chodi uwchben Wolverhampton yn dechrau edrych yn debyg i'r faner fu yn chwifio uwchben Belsen a Dachäu," (dau o wersylloedd marwolaeth enwocaf y Natsïaid). Gan fod Powell wedi gwirfoddoli i ymladd yn erbyn Yr Almaen Natsïaidd, roedd e'n gweld yr ail o'r cyhuddiadau hyn yn sarhaus iawn. O ran y cyhuddiad o hiliaeth, roedd Powell yn mynnu nad oedd ganddo ddim byd yn erbyn Asiaid fel hil neu genedl, ond ei fod yn credu bob presenoldeb cynifer o bobl o ddiwylliant gwahanol yn y Deyrnas Unedig yn tanseilio hen ffyrdd Prydeinig o fyw. Nid oedd yn credu chwaith y dylai Asiaid gael eu cymathu â'r diwylliant Prydeinig gan honni y byddai hynny'n tanseilio eu diwylliant gwerthfawr nhw - diwylliant roedd e wedi dwli arno pan oedd e'n byw yn yr India.

Roedd Powell yn gwneud yn fawr o ystadegau'n dangos bod y mewnfudwyr newydd yn cenhedlu mwy o blant na Phrydeinwyr gwyn, gan beri i Leo Abse, Aelod Seneddol Pont-y-pŵl, honni bod gan Powell ddiddordeb afiach mewn faint o weithiau'r wythnos yr oedd dynion duon yn cael rhyw, a hynny oherwydd ei ansicrwydd rhywiol ef ei hunan.

Enoch Powell a'r Rhyfel Oer golygu

Trwy gydol ei yrfa yr oedd yn benderfynol o dorri ei gwŷs ei hunan, ac yr oedd rhai o'i ddaliadau fe'n annisgwyl. Er enghraifft, yn wahanol i'r rhan fwyaf o bobl ar y dde, yr oedd yn gweld Unol Daleithiau America yn fwy o fygythiad i'r Deyrnas Unedig na'r Undeb Sofietaidd. Fel y dywedodd yn ffraeth iawn unwaith, os oedd y Rwsiaid mor awyddus i goncro Gorllewin Ewrop, yr oeddynt wedi bod "hynod ddiog ac aflwyddiannus yn y gwaith." Roedd ei syniadau am yr Unol Daleithiau yn deillio o'i brofiad weld yr Americanwyr yn ehangu eu dylanwad yn y Dwyrain Pell wrth i Ymerodraeth Prydain ymddatod. Cymaint oedd ei ddrwgdybiaeth at yr Unol Daleithiau nes iddo ddod i gredu mai asiantiaid cudd America, yn hytrach na Gweriniaethwyr Gwyddelig, a lofruddiodd yr Arglwydd Louis Mountbatten yn 1979.

Yn wahanol i lawer ar y dde, roedd e'n wfftio'r syniad y gellid ennill rhyfel niwclear yn Ewrop trwy ddefnyddio arfau niwclear tactegol. Yn ei dyb e, roedd defnyddio arfau niwclear yn sicr o arwain ar ddinistrio holl boblogaeth y Cyfandir, a gwell fyddai i'r Deyrnas Unedig ddatblygu ei lluoedd confensiynol.

Ei genedlaetholdeb Prydeinig golygu

Yn anad dim, cenedlaetholwr Prydeinig mawr oedd e, gan wrthwynebu unrhyw beth a allai beryglu statws ac undod y Deyrnas Unedig, gan gynnwys datganoli grym i Gymru a'r Alban, ac ildio grym i'r Undeb Ewropeaidd. Nid oedd yn syndod, felly, yn 1974, pan adawodd y Blaid Geidwadol, a dod yn Aelod Seneddol dros Blaid Unoliaethol Wlster yng Ngogledd Iwerddon. Roedd yn credu'n ddi-droi'n ôl bod rhaid i Ogledd Iwerddon aros yn rhan o Brydain, a chyhuddodd Margaret Thatcher o frad am drafod dyfodol y dalaith gyda llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon. Ond hyd yn oed yng Ngogledd Iwerddon, nid oedd e'n cydymffurfio â disgwyliadau pobl. Byddai'n dadlau'r gryf yn erbyn awydd rhai Unoliaethwyr am reoli'r dalaith ei hunan, gan gredu y dylai Gogledd Iwerddon gael ei llywodraethu gan San Steffan fel unrhyw ran arall o'r Deyrnas. At hynny, efe oedd Aelod Seneddol cyntaf erioed Plaid Unoliaethol Wlster i wrthod ymuno â'r Urdd Oren.

Ei farwolaeth golygu

Er ei fod mor bell i'r asgell-dde, enillodd barch gan rai ar y chwith, a bu'n gyfeillgar gyda'r sosialydd mawr Tony Benn. Wedi iddo farw'r 8 Chwefror, 1998, fe ddaeth pobl o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol i'w angladd.

Cyfeiriadau golygu

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros Dde-orllewin Wolverhampton
19501974
Olynydd:
Nicholas Budgen
Rhagflaenydd:
Lawrence Orr
Aelod Seneddol dros South Down
19741987
Olynydd:
Eddie McGrady