Enseffalitis arbofirws

Enseffalitis a achosir gan haint arbofirws yw enseffalitis arbofirws. Caiff ei achosi gan grŵp o firysau sy'n cael eu cario a'u trosglwyddo drwy bigiadau gan rai arthropodau, yn cynnwys mosgitos a throgod.[1]

Enseffalitis arbofirws
Dosbarthiad ac adnoddau allanol
ICD-10 A83.-A84.
MeSH [1]

Mae'r pryfed sy'n trosglwyddo enseffalitis arbofirws yn dal y firysau drwy bigo mamaliaid bychain, anifeiliaid domestig, ac adar. Mae enghreifftiau o enseffalitis arbofirws yn cynnwys:[1]

  • Enseffalitis Gorllewin Nîl/Twymyn Gorllewin Nîl)
  • Enseffalitis Japaneaidd
  • Enseffalitis sy'n cael ei gludo gan drogod
  • Enseffalitis Dyffryn Murray
  • Enseffalitis Califfornia
  • Enseffalitis St Louis
  • Enseffalitis ceffylaidd gorllewinol
  • Enseffalitis ceffylaidd dwyreiniol
  • Twymyn trogod Colorado

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1  Enseffalitis: Achosion. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.