Eos

rhywogaeth o adar
Mae'r erthygl yma yn trafod yr aderyn. Am ystyron eraill, gweler Eos (gwahaniaethu)
Eos
Eos
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Muscicapidae
Genws: Luscinia
Rhywogaeth: L. megarhynchos
Enw deuenwol
Luscinia megarhynchos
(Brehm, 1831)
Luscinia megarhynchos

Aderyn sy'n aelod o deulu'r Gwybedogion (Muscicapidae) yw'r Eos (Luscinia megarhynchos). Arferid ei ystyried yn aelod o deulu'r bronfreithod (Turdidae). Mae'n aderyn gweddol gyffredin ar draws y rhan fwyaf o Ewrop a de-orllewin Asia.

Mae'r Eos yn aderyn mudol sy'n treulio'r gaeaf yn rhan ddeheuol Affrica. Aderyn brown ydyw, gyda'r bol yn wyn, heb unrhyw nodwedd drawiadol. Y peth mwyaf nodweddiadol am yr aderyn yw ei gân soniarus; ac yn wahanol i'r rhan fwyaf o adar, mae'n canu yn y nos yn ogystal ag yn y dydd.

Er bod yr eos yn aderyn prin yng Nghymru, mae'r gair "Eos" yn bur gyffredin mewn enwau lleoedd, a hefyd yn gyffredin mewn ffugenwau cantorion a beirdd e.e. Huw Morus (Eos Ceiriog) a Siôn Eos.

Y Gân golygu

  • Ymddangosodd y sylw hwn ym mhapur newydd Y Dydd 22 Mai 1874: "Y mae un o naturiaethwyr enwog Germany wedi cyfieithu can yr Eos (nightingale) i'r ffurf a ganlyn: — Zozozozozozozozozo— Sirhading—Hezez zezezez ezezeze cowar he dze hoi~Hi gai gai gai gai gai gai gai guai gai—Coricor dzio dzio pi. Ac OS oes awydd ar rai o'n darllenwyr i efelychu yr Eos, ac ymgystadlu a chantor y gwyll, bydded iddynt ymarfer digon ar y gân uchod. Os cyfieithiad yw yr uchod o ganiad yr Eos, pa beth yn eu ffurf wreiddiol? Dymunol fyddai ei chael mewn gwisg Gymreig."[1]
  • Anaml y cynebir mydr, traw a sigl cân yr eos sydd i’w clywed trwy‘r enwog Ode to a Nightingale gan John Keats.
  • Roedd eosiaid yn canu gyda’r nos yn destun rhialtwch yn aml yng Nghymru ac yn dipyn o sioe a chyfle i gymdeithasu a phartïo:
Iaith anweddus noswyl yr eosiaid
How He "Heard" the Nightingale
At Aberavon on Monday William Charles, Taibach, was charged with using indecent language in Brombil Valley, Margam. P.S. Hawten said defendant was one of six hundred who visited the Brombil Valley to hear the nightingale. Defendant and another person were walking up the valley, one playing a melodion and the other singing. Defendant then made use of the language. Defendant admitted using the language. "It slipped out, sir," he declared.—Fined 10s. and costs.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. E. Y. Williams, Dolgellau ym Mwletin Llên Natur 69
  2. Cambrian 26 Mai 1905