Epona

duwies y ceffyl

Roedd Epona yn dduwies Geltaidd a addolid yng Ngâl ac ardaloedd Celtaidd eraill. Roedd yn amddiffynnydd ceffylau, mulod ac asynnod, ac yn dduwies ffrwythlondeb. Awgrymodd H. Hubert fod y dduwies a'i cheffylau yn arwain eneidiau'r meirw. Ceir cerfluniau o Epona trwy'r Ymerodraeth Rufeinig, y rhan fwyaf ohonynt, ond nid y cyfan, wedi eu cysegru iddi gan Geltiaid. Dangosir y dduwies yn marchogaeth mewn llawer o'r cerfluniau.

Epona, 3edd g. OC, o Freyming (Moselle), Ffrainc (Musée Lorrain, Nancy)

Daw'r enw Galeg Epona ‘caseg ddwyfol’ o'r Gelteg *epos ‘ceffyl’ - cymharer yr Hen Gymraeg eb ‘march, cadfarch’ (a roes y Gymraeg ebol, cyfeb, ebran). Ceir yn elfen i enwau ambell i le, megis Epynt, yn ogystal. Mae nifer o ysgolheigion wedi ei chysylltu â Rhiannon ym Mhedair Cainc y Mabinogi. Y dduwies gyfatebol ym mytholeg Iwerddon yw Macha, duwies tra-arglwyddiaetj a gysylltir â defodau'n ymwneud â cheffylau.

Dichon fod cysylltiad rhwng cwlt Epona a'r cerflun sialc o geffyl gwyn anferth a welir yn Uffington, de Lloegr heddiw, yn ogystal.

Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato