Erasmus Jones

nofelydd

Llenor, awdur llyfrau hanes, a gweinidog ymneilltuol oedd Erasmus Jones (17 Rhagfyr 18179 Ionawr 1909). Ysgrifennodd sawl nofel â chefndir Cymreig a llyfrau ar hanes y Cymry yn yr Unol Daleithiau.

Erasmus Jones
Ganwyd17 Rhagfyr 1817 Edit this on Wikidata
Bu farw9 Ionawr 1909 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed Erasmus Jones ym mhlwyf Llanddeiniolen, Arfon (Gwynedd), yn 1817. Yn 1833, yn ddyn ifanc 16 oed, ymfudodd i'r Unol Daleithiau i geisio gwella ei amgylchiadau, fel sawl Cymro tlawd arall yn y cyfnod yna. Daeth yn weinidog yn yr Eglwys Fethodistaidd Esgobol yn nhalaith Efrog Newydd cyn symud i fyw yn Utica, un o ganolfannau pwysicaf y Cymry alltud yn yr Unol Daleithiau (UDA).

Yn ogystal â sawl nofel yn y Saesneg, nad oes lawer o werth llenyddol iddynt, ysgrifennodd ddau lyfr ar hanes yr ymfudwyr Cymreig yn UDA, yn cynnwys hanes eu rhan yn y Gold Rush. Roedd yn eisteddfodwr brwd a enillodd wobrau yn "Eisteddfod Ffair y Byd" (Chicago, 1893), eisteddfod Pittsburgh, ac eraill.

Llyfryddiaeth golygu

Nofelau golygu

  • The Captive Youths of Judah (1856)
  • The Adopted Son of the Princess (1870)
  • Llangobaith: a story of north Wales (1886)

Llyfrau hanes golygu

  • The Welsh in America (1876)
  • Gold, Tinsel and Trash (1890)

Dolenni allanol golygu