Eric McCormack

cyfarwyddwr ffilm a sgriptiwr ffilm a aned yn Toronto yn 1963

Mae Eric James McCormack (ganwyd 18 Ebrill, 1963) yn actor, cerddor, ysgrifennydd a chynhyrchydd rhaglenni teledu Americanaidd-Canadaidd. Mae ef wedi ennill Gwobr Emmy.

Eric McCormack
GanwydEric James McCormack Edit this on Wikidata
18 Ebrill 1963 Edit this on Wikidata
Toronto Edit this on Wikidata
Man preswylVancouver Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, Canada Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Ryerson
  • Sir John A. Macdonald Collegiate Institute Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor teledu, sgriptiwr, actor llwyfan, actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Emmy, Gwobr 'Walk of Fame' Canada, Primetime Emmy Award for Outstanding Lead Actor in a Comedy Series, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, GLAAD Vanguard Award Edit this on Wikidata

Mae'n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Will Truman yn y rhaglen gomedi sefyllfa Will & Grace.

Ei fywyd cynnar golygu

Ganwyd McCormack yn Toronto, Ontario, Canada, yn fab i wraig tŷ, Doris a dadansoddwr ariannol i gwmni olew, Keith McCormack. Mae ganddo linach Cherokee ac Albanaidd. Mynychodd Athrofa Colegol Syr John A. Macdonald yn Scarborough, Ontario. Aeth McCormack i'r un ysgol uwchradd a David Furnish, gwr Elton John. Cafodd McCormack ei addysg a'i hyfforddiant actio yng Nghanada yn y Ryerson University School of Theatre yn Toronto,ac mae McCormack wedi bod yn ymddangos mewn cynyrchiadau teledu ers iddo ddechrau'i yrfa ym 1986.

Ei yrfa fel actor golygu

Chwaraeodd McCormack ran y Cadfridog Francis Clay Mosby yn y gyfres deledu fer Lonesome Dove: The Series (1994), a Lonesome Dove: The Outlaw Years (1995). Chwaraeodd ran yr anfarwol Matthew McCormick yn Highlander: The Series, rhaglen "Manhunt" (1996). Ym 1997, ymddangosodd mewn rhaglen o The Outer Limits mewn pennod o'r enw "Tempests". Ym 1998 actiodd McCormack mewn ffilm gwlt o'r enw Free Enterprise gyda William Shatner. Chwaraeodd gymeriad a oedd yn seiliedig ar fywyd cyd-ysgrifennydd y ffilm Mark A. Altman. Mae ffilm ddilynol yn cael ei chynllunio ar hyn o bryd a disgwylir y bydd McCormack yn cymryd y rôl fel Mark.

Daeth enwogrwydd ac adnabyddiaeth i McCormack yn sgîl ei rôl fel y cyfreithiwr hoyw Will Truman yng nghomedi sefyllfa NBC Will & Grace o 1998 hyd 2006.