Portmanteau neu gywasgiad o'r geiriau 'gêm erotig:' (エロチックゲー erochikku mu) ydy eroge (エロゲー or エロゲ erogē) neu Ero-ga, a gêm gyfrifiadurol neu fideo erotig o Japan. Mae'r gwaith celf yn cynnwys arddull tebyg i anime ac mae'n cynnwys pobl noeth neu lled-noeth a rhyw. Weithiau mae'n cael ei alw'n H-games neu "Hentai-game".

Daethant i fodolaeth yn yr adeg pan oedd cwmniau cyfrifiadurol (ee Sharp X1, Fujitsu FM-7, MSX, a NEC PC-8801) o Japan yn brwydro am farchnad ehangach. Y gêm eroge cyntaf i ymddangos oedd Night Life, a gafodd ei gyhoeddi gan Koei yn 1982.[1]

Mae gameplay eroge wedi'i sylfaenu ar fath arall: y gêm bishōjo, ond y gwahaiaeth yw fod cymeriadau gemau eroge yn cael rhyw. Mae'r fformat yn debyg i nofel amlddewis ac fel arfer, ar ddiwedd y stori, mae'r prif gymeriad yn cael ei ffordd ei hun!

Cyfeiriadau golygu

  1. Retro Japanese Computers: Gaming's Final Frontier, Hardcore Gaming 101, ailgyhoeddwyd o Retro Gamer, Rhif 67, 2009