Duw serch ym mytholeg Roeg oedd Eros (Groeg: Ἔρως). Roedd yn cyfateb i Giwpid ym mytholeg Rufeinig. Yng ngherdd Hesiodos, Theogonia, roedd yn un o dduwiau'r cynfyd, yn fab i Chaos, ond yn nhraddodiad hwyrach daeth yn fab i Aphrodite, duwies cariad; Zeus, Ares neu Hermes oedd ei dad. Roedd Anteros yn frawd iddo.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Eros. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Ionawr 2015.