Eryr bronddu

rhywogaeth o adar. Un o adar Y Wladfa
Eryr bronddu
Geranoaetus melanoleucus

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Falconiformes
Teulu: Accipitridae
Genws: Geranoaetus[*]
Rhywogaeth: Geranoaetus melanoleucus
Enw deuenwol
Geranoaetus melanoleucus
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Eryr bronddu (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: eryrod bronddu) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Geranoaetus melanoleucus; yr enw Saesneg arno yw Black-chested buzzard eagle. Mae'n perthyn i deulu'r Eryr (Lladin: Accipitridae) sydd yn urdd y Falconiformes.[1]

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn G. melanoleucus, sef enw'r rhywogaeth.[2]

Mae'r eryr bronddu (Geranoaetus melanoleucus) yn aderyn ysglyfaethus o deulu'r gweilch a'r eryrod (Accipitridae). Mae'n byw mewn rhanbarthau agored yn Ne America. Gelwir y rhywogaeth hon hefyd yn 'boda-eryr' du, boda-eryr llwyd neu'n gyfatebol gyda "eryr" neu eryr-foda, neu fel eryr glas Chile. Fe'i gosodir weithiau yn y genws Buteo. Mae'n un o adar Y Wladfa.
Gellir ei adnabod yn hawdd wrth iddo hedfan wrth ei gynffon byr siâp lletem sydd prin yn dangos heibio ei adenydd hir, llydan. Fel arfer, mae'n hawdd gweld rhannau golau cyffredinol odditano gyda'r band tywyll ar y frest a'r gynffon dywyll os yw'r adar yn oedolion. Gan y gwelir yr aderyn hwn amlaf yn y gwyllt pan fydd yn uch-hedeg, rydych yn llai tebygol o weld ei fannau uchaf llwydaidd.

Teulu golygu

Mae'r eryr bronddu yn perthyn i deulu'r Eryr (Lladin: Accipitridae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Gwalch Caledonia Newydd Accipiter haplochrous
 
Gwalch Frances Accipiter francesiae
 
Gwalch Gray Accipiter henicogrammus
 
Gwalch Gundlach Accipiter gundlachi
 
Gwalch Marth Accipiter gentilis
 
Gwalch Ynys Choiseul Accipiter imitator
Gwalch cefnddu Accipiter erythropus
 
Gwalch glas Accipiter nisus
 
Gwalch glas y Lefant Accipiter brevipes
 
Gwalch llwyd a glas Accipiter luteoschistaceus
Gwalch torchog Awstralia Accipiter cirrocephalus
 
Gwalch torchog Molwcaidd Accipiter erythrauchen
 
Gwalch torchog Prydain Newydd Accipiter brachyurus
Gwyddwalch Henst Accipiter henstii
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Ecoleg golygu

Mae eryrod bronddu i'w canfod ar dir mynyddig neu fryniog gyda llystyfiant gwasgaredig, llwyni neu (yn ne ei diriogaeth) goedwig Nothofagus, lle mae'n treulio llawer o amser yn esgyn i'r awyr mewn thermalau a drafftiau fertigol wrth chwilio am ysglyfaeth. Mae angen tiriogaethau mawr gyda chynefin addas arno; mae'r páramos yn y gogledd, er enghraifft, er eu bod yn darparu cynefin addas, yn methu â darparu digon digon ohono, ac felly dim ond yn y clytiau mwyaf o gynefin o'r math y mae wedi'i gofnodi, megis Páramo de Frontino[3]. Mae'n fwyaf cyffredin rhwng tua 5,000 troedfedd (1,500 m) a 15,000 troedfedd (4,600 m) uwchben y môr, anaml y bydd yn mentro i'r iseldir[4]

Fe'i gwelir amlaf yng nghanol y bore a’r prynhawn, pan fydd unigolion yn chwilio am leoedd sy’n darparu’r esgynfeydd gorau, megis llethrau a chribau sy’n wynebu’r gogledd a’r gorllewin. Mae'n debyg mai eu prif ddiddordeb ar yr adegau hyn yw chwarae ac arddangos o'r awyr; maent yn dueddol o anwybyddu mannau lle mae mwy o fwyd neu lle mae'n hawdd ei hela, a hynny er mwyn codi i'r entrychion ar eu pen eu hunain neu mewn parau mewn cerrynt aer cryf[5]

Mae bwyd y cigysydd hwn yn cynnwys mamaliaid canolig eu maint yn bennaf; mae'n ymddangos bod y gwningen Ewropeaidd a gyflwynwyd yno (Oryctolagus cuniculus) wedi dod yn eitem bwyd allweddol iddo. Dywedir bod yr eryr bronddu yn helpu ffermwyr gadw niferoedd y cwningod i lawr, anifail a all fod yn bla amaethyddol difrifol. Ymhlith y ffawna cynhenid sydd ar gael iddo, mae'r degws brodorol (Octodon) a'r drewfil trwyn mochyn (Conepatus) yn ysglyfaeth bwysig, ond mae mamaliaid mor bwerus ag yw llwynog llwyd (Urocyon cinereoargenteus) - dwy neu fwy na thair gwaith mor drwm â'r adar ac yn sicr ddim yn ddiamddiffyn - yn cael eu hela a'u lladd gan yr eryr hwn. Yn achlysurol fe gymer ambell aderyn - gan gynnwys rhywogaethau cigysol fel y dylluan dyrchol (Athene cunicularia) ac ysglyfaeth o faint sylweddol fel y guan Penelope neu'r tinamŵ o Chile (Nothoprocta perdicaria) -, sgwamates mawr, ac os oes angen hefyd, arthropodau a chelanedd[6]

Er nad yw'n ymosodol o dan amgylchiadau arferol, gall eryrod bronddu ymosod yn ffyrnig ar bobl os ydynt yn ystyried ei hunain neu eu hepil dan fygythiad. Mae'n agos at frig y gadwyn fwyd yn ei diriogaeth arferol, yn rhannol gan mai dyma'r unig eryr o'r Andes sydd i'w ganfod y tu allan i gynefinoedd coediog. Mae'n bosibl y bydd yn cystadlu am gelanedd gyda'r condor Andes llawer mwy.

Mae'n nythu mewn coed uchel neu ar glogwyni creigiog, neu os nad yw'r rhain ar gael, defnyddiant goed uchel neu hyd yn oed cacti. Os nad oes lle uchel priodol ar gael bydd y rhywogaeth hon yn nythu mewn llwyni neu hyd yn oed ar y ddaear. Yn Ecwador, gwelir nythu trwy gydol y flwyddyn; mewn mannau eraill efallai y bydd ganddo dymor bridio mwy cyfyngedig ond mae'r ffeithiau yn brin ac yn gwrth-ddweud ei gilydd.
Mae sylfaen y nyth yn enfawr wedi ei wneud o briciau tua 85 centimetr (33 modfedd) mewn diamedr. Mae yr un mor debygol o ailddefnyddio nyth sy'n bodoli eisoes ag yw i adeiladu un newydd, ac mae sawl nyth hen ymadawedig i'w cael yn aml yng nghyffiniau un cyfredol. Mae'r gwryw a'r fenyw yn cyd-hedfan, ac yn paru dros gyfnod hir o sawl wythnos wrth iddynt fondio. Ychydig a wyddys am y nythu fel y cyfryw; mae'r adar yn dodwy 2 ond weithiau 1 neu 3 wy, sy'n cael eu gori am tua mis. Mae'n debyg bod y nythod wedi'u gorchuddio â manblu gwyn fel sydd hefyd yn wir am ei berthnasau.

Statws Cadwriaethol golygu

Oherwydd ei amrediad cyffredinol eang mae Geranoaetus melanoleucus yn cael ei ystyried yn Rhywogaeth o Bryder Lleiaf gan yr IUCN. Tra ei fod yn brin ac yn prinhau mewn mannau – e.e. yn Rio Grande do Sul a thaleithiau Santa Catarina ym Mrasil, neu mewn rhannau o’r Ariannin – mae ei ofynion o ran cynefin yn golygu y bydd yn elwa i ryw raddau ar ddatgoedwigo a bu iddo, er enghraifft, wladychu ardaloedd o hen goedwig Mata Atlântica yn Alagoas. Mae'r dirywiad yn yr Ariannin wedi'i briodoli i wenwyno gan abwydydd fel strycnin a ddefnyddir gan ffermwyr defaid yn ceisio cael gwared ar blâu[7].

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
  3. Krabbe, Niels; Flórez, Pablo; Suárez, Gustavo; Castaño, José; Arango, Juan David & Duque, Arley (2006). "The birds of Páramo de Frontino, western Andes of Colombia" (PDF). Ornitologıá Colombiana. 4: 39–50. Archived from the original (PDF) on 20 August 2008. Retrieved 19 December 2008
  4. Bierregaard, Richard O. (1994): 170. Black-chested Buzzard-Eagle. In: del Hoyo, Josep; Elliott, Andrew & Sargatal, Jordi (eds.): Handbook of the Birds of the World (Vol.2: New World Vultures to Guineafowl): 175, plate 16. Lynx Edicions, Barcelona. ISBN 84-87334-15-6
  5. Bierregaard, Richard O. (1994): 170. Black-chested Buzzard-Eagle. In: del Hoyo, Josep; Elliott, Andrew & Sargatal, Jordi (eds.): Handbook of the Birds of the World (Vol.2: New World Vultures to Guineafowl): 175, plate 16. Lynx Edicions, Barcelona. ISBN 84-87334-15-6
  6. Raptor Foundation (2003): Black-chested Eagle-buzzard Archived 8 September 2008 at the Wayback Machine. Retrieved 2008-SEP-
  7. BirdLife International (2016). "Geranoaetus melanoleucus". IUCN Red List of Threatened Species. 2016: e.T22695845A93530287. doi:10.2305/IUCN.UK.2016-3.RLTS.T22695845A93530287.en. Retrieved 11 November 2021
  Safonwyd yr enw Eryr bronddu gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.