Erzsébet Báthory

Cowntes Hwngaraidd oedd Erzsébet Báthory (Hwngareg: Erzsébet Báthory; Slofaceg: Alžbeta Bátoriová; Tsieceg: Alžběta Báthoryová; Pwyleg: Elżbieta Batory; hefyd Elisabeth Bathory neu Elizabeth Báthory, 7 Awst 156021 Awst 1614), aelod o'r teulu Báthory sy'n enwog am amddiffyn Hwngari yn erbyn ymosodiadau Ymerodraeth yr Otomaniaid. Mae hi'n adnabyddus fel un o'r llofruddesau cyfresol mwyaf mewn hanes y cyfeirir ati yn aml fel y "Gowntes Waedlyd" neu "Arglwyddes Waedlyd Csejte", ar ôl y castell ger Trencsén (Trenčín), yn Nheyrnas Hwngari (Slofacia heddiw), lle treuliodd y rhan fwyaf o'i hoes fel oedolyn.

Erzsébet Báthory
Ganwyd7 Awst 1560 Edit this on Wikidata
Nyírbátor Edit this on Wikidata
Bu farw21 Awst 1614 Edit this on Wikidata
Castell Čachtice Edit this on Wikidata
Man preswylCastell Čachtice Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Hwngari Edit this on Wikidata
Galwedigaethpendefig Edit this on Wikidata
TadGeorge Báthori Edit this on Wikidata
MamAnna Báthory Edit this on Wikidata
PriodFerenc II Nádasdy Edit this on Wikidata
PlantGraf Pál Nádasdy de Nádasd et Fogarasföld, Katalin, Gräfin Nádasdy de Nádasd et Fogarasföld Edit this on Wikidata
LlinachBáthory family Edit this on Wikidata
Y Gowntes Erzsébet Báthory

Priododd Ferenc Nádasdy yn 16 oed a symudodd i fyw yng Nghastell Csejte (Castell Čachtice) ym mynydyddoedd y Carpatiau. Roedd hi'n ferch ddysgedig a fedrai ddarllen Lladin, Groeg ac Almaeneg. Ar ôl marwolaeth ei gŵr, cafodd hi a phedair merch yn ei gwasanaeth eu cyhuddo o arteithio a lladd rhai cannoedd o forwynion a merched ifainc, gyda un tyst yn ei chyhuddo o ladd dros 600, er iddi gael ei dyfarnu yn euog mewn 80 cyhuddiad yn unig. Dywedir i hynny ddigwydd dros gyfnod o ryw ugain mlynedd, o tua 1590 hyd 1610. Yn 1610, cafodd ei charcharu yng Nghastell Csejte, lle arosodd mewn asgell o stafelloedd wedi'u bricio i mewn hyd at ei farwolaeth 4 mlynedd yn ddiweddarach yn 54 oed. Ni safodd mewn brawf llys swyddogol.

O ganlyniad i hanes Erzsébet Báthory, cafwyd sawl adroddiad, hanesyn a chwedl gwerin amdani yn honno ei bod yn ymdrochi mewn gwaed morwynion er mwyn cadw ei hieuenctid, ond ymddengys nad oes sail hanesyddol i'r adroddiadau hyn o gwbl. Mae'r chwedlau hyn wedi arwain at ei chymharu â Vlad III Dracula (Vlad the Impaler) o Wallachia, y cymeriad y seilir ffigwr y fampir ffuglennol Cownt Draciwla arno, yn rhannol, ac i lysenwau poblogaidd diweddar fel "Cowntes Draciwla".

Ond mae llawer sy'n ansicr ynghylch hanes y llofruddiaethau. Mae rhai haneswyr yn barnu fod rhesymau gwleidyddol-grefyddol am y cyhuddiadau am fod Erzsébet yn aelod amlwg o deulu Protestant grymus mewn gwlad gyda'r mwyafrif yn Gatholigion. Dywedir hefyd fod dyddiadur y Gowntes dan glo hyd heddiw yn archifdy'r wladwriaeth yn Budapest, ond does dim modd cadarnhau hynny.

Fel cymeriad ffuglennol, mae'r Gowntes wedi cael ei phortreadu mewn sawl ffilm a llyfr arswyd neu wedi eu ysbrydoli, yn cynnwys y ffilm Hammer Countess Dracula.