Esteban Echeverría

Bardd a llenor straeon byrion Archentaidd yn yr iaith Sbaeneg ac ymgyrchydd gwleidyddol a diwylliannol oedd Esteban Echeverría (2 Medi 180519 Ionawr 1851). Roedd ganddo ran hynod o bwysig yn natblygiad llên yr Ariannin yn y 19g, ac mae'n nodedig fel un o'r llenorion Rhamantaidd gwychaf yn llên America Ladin.

Esteban Echeverría
Ganwyd2 Medi 1805 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Bu farw19 Ionawr 1851 Edit this on Wikidata
o diciâu Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Colegio Nacional de Buenos Aires Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
MudiadRhamantiaeth Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin. Treuliodd y cyfnod 1825–30 ym Mharis, Ffrainc, ac yno cafodd ei ddylanwadu'n gryf gan ysbryd a meddylfryd y Rhamantwyr. Yn 1838, Echeverría oedd un o'r deallusion Archentaidd ifainc a sefydlodd yr Asociación de Mayo.[1]

Campwaith Echeverría ydy'r stori fer El matadero, gwaith sy'n nodweddiadol o'r gwrthdaro rhwng y gwareiddiad Ewropeaidd a chyntefigiaeth y Byd Newydd sy'n diffinio llên America Ladin yn y 19g. Cafodd ei hysgrifennu ganddo tua 1838, ond ni chyhoeddwyd nes wedi ei farwolaeth, rhyw 30 mlynedd yn ddiweddarach. Ymhlith ei weithiau eraill mae'r gerdd draethiadol hir La cautiva, sy'n adrodd hanes merch groenwen a gâi ei chipio gan y Mapuche.

Yn 1840, bu'n rhaid iddo ffoi i Wrwgwái oherwydd ei wrthwynebiad i unbennaeth Juan Manuel de Rosas. Bu farw ym Montevideo yn 45 oed.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Esteban Echeverría. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Ebrill 2019.