Mae Ethan Kwame Colm Raymond Ampadu (ganed 14 Medi 2000) yn chwaraewr pêl-droed rhyngwladol dros Gymru sy'n chwarae hefyd i glwb Chelsea. Mae'n chwarae gan amlaf mewn safle canol cae amddiffynnol, ond gall hefyd chwarae fel amddiffynnwr canol.

Ethan Ampadu
GanwydEthan Kwame Colm Raymond Ampadu Edit this on Wikidata
14 Medi 2000 Edit this on Wikidata
Caerwysg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpêl-droediwr Edit this on Wikidata
Taldra182 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau78 cilogram Edit this on Wikidata
TadKwame Ampadu Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auExeter City F.C., Chelsea F.C., RB Leipzig, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru dan 17 oed, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru dan 19 oed, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, Sheffield United F.C., Venezia F.C., Spezia Calcio, Leeds United A.F.C. Edit this on Wikidata
Safleamddiffynnwr, canolwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonLloegr, Cymru Edit this on Wikidata

Mae'n fab i'r cyn-chwaraewr pêl-droed proffesiynol Kwame Ampadu.[1] Chwaraeodd ei gem gyntaf dros Gymru ym mis Tachwedd 2017.

Gyrfa glwb golygu

Dinas Caerwysg golygu

Yn enedigol o Gaerwysg, Dyfnaint, roedd Ampadu yn perthyn i academi ieuenctid Dinas Caerwysg. Ar 9 Awst 2016, pan oedd yn 15 blwydd 10 mis a 26 diwrnod, chwaraeodd gyntaf yn rownd agoriadol cystadleuaeth Cwpan Cynghrair Lloegr yn erbyn Brentford ym  Mharc St James, gan chwarae 120 munud llawn yn y fuddugoliaeth o 1–0.[2] Cafodd ei enwi'n seren y gem, ac ef oedd chwaraewr ieuengaf y clwb erioed, yn torri record Cliff Bastin a oedd wedi sefyll ers 87 o flynyddoedd.[3][4][5] Wythnos yn ddiweddarach, chwaraeodd ei gem gynghrair gyntaf, pan drechwyd Caerwysg adref o 1-0 yn erbyn Tref Crawley yng Ail Adran Cyngrair Bel-droed Lloegr.[6]

Chelsea golygu

Ar 1 Gorffennaf 2017, arwyddodd Ampadu gytundeb gyda Chelsea, clwb yn Uwch-Gynghrair Lloegr.

Ar 20 Medi, chwaraeodd Ampadu ei gem gyntaf i Chelsea mewn gem drydedd rownd yng Nghwpan Cynghrair Lloegr yn erbyn Nottingham Forest, gan ddod ymlaen ar ôl 55 munud yn lle Cesc Fàbregas.[7] Gyda hynny, daeth Ampadu yn y cyntaf a oedd wedi'i eni yn y 2000au i chwarae i Chelsea. Yn 17 blwydd a 6 diwrnod, ef hefyd oedd yr ieuengaf i chwarae i'r clwb er dros ddegawd.[8] Ar 12 Rhagfyr, chwaraeodd ei gem gyntaf i Chelsea yn yr Uwch-Gynghrair, pan ddaeth ymlaen fel eilydd yn erbyn Huddersfield Town ar ôl 80 munud.[9]

Gyrfa ryngwladol golygu

Mae Ampadu yn chwarae pêl-droed rhyngwladol i dim cenedlaethol Cymru. Gallai hefyd fod wedi chwarae i Loegr, Gweriniaeth Iwerddon neu Ghana.[10]

Ar 26 Mai 2017, pan oedd yn 16 oed, cafodd Ampadu ei alw i garfan Cymru wrth iddynt baratoi ar gyfer gem ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2018, a hynny yn erbyn Serbia.[11] Cafodd ei alw eto ar 1 Tachwedd ar gyfer gemau cyfeillgar yn erbyn Ffrainc a Panama,[12] a chwaraeodd am y tro cyntaf ar 10 Tachwedd yn Stade de France, pan ddaeth i'r cae fel eilydd i Joe Ledley ar ôl 63 o funudau. Enillodd y Ffrancwyr o 2–0.[13]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Exeter City 1–0 Brentford". BBC Sport. 9 Awst 2016. Cyrchwyd 10 Awst 2016.
  2. "Exeter City 1–0 Brentford". BBC Sport. 9 Awst 2016. Cyrchwyd 11 Tachwedd 2017.
  3. @officialecfc (9 Awst 2016). "15-year-old Ethan Ampadu wins the man-of-the-match award on his full debut for the club. Well done, Ethan!" (Trydariad) (yn Saesneg) – drwy Twitter.
  4. "Exeter City vs Brentford: Ethan Ampadu to become Exeter City's youngest ever player". ExeterExpressandEcho.co.uk. 9 Awst 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Awst 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. Abbandonato, Paul (10 Awst 2016). "The 15-year-old wonderkid England want to poach has just become big news". Wales Online.
  6. "Exeter City 0–1 Crawley Town". BBC Sport. 16 Awst 2016. Cyrchwyd 11 Tachwedd 2017.
  7. "Chelsea 5–1 Nottingham Forest". BBC Sport. 20 Medi 2017. Cyrchwyd 20 Medi 2017.
  8. "Ethan Ampadu becomes youngest Chelsea player in over a decade". Goal. 20 Medi 2017.
  9. "Huddersfield Town 1–3 Chelsea". BBC Sport. 12 Rhagfyr 2017. Cyrchwyd 21 Rhagfyr 2017.
  10. Rogers, Gareth (7 Ebrill 2016). "Why Man Utd target Ethan Ampadu chose Wales over England". WalesOnline.co.uk.
  11. "Ethan Ampadu: Exeter City youngster included in Wales squad". BBC Sport. Cyrchwyd 26 Mai 2017.
  12. Byrom, David (1 Tachwedd 2017). "Chelsea starlet Ethan Ampadu included in Wales squad for Tachwedd friendlies". Devon Live. Cyrchwyd 11 Tachwedd 2017.
  13. "France 2–0 Wales". BBC Sport. 10 Tachwedd 2017. Cyrchwyd 11 Tachwedd 2017.