Etholaeth Hannover

Etholaeth Hannover (Almaeneg: Kurfürstentum Hannover) yw'r enw arferol ond answyddogol ar Etholaeth Braunschweig-Lüneburg (Almaeneg: Kurfürstentum Braunschweig-Lüneburg). Roedd mewn bodolaeth o 1692 hyd 1814, pan ffurfiwyd Teyrnas Hannover. Safai yn nhiriogaethau sy'n awr yn rhan o dalaith ffederal Niedersachsen yn yr Almaen.

Ffurfiwyd yr Etholaeth yn 1692, pan benodwyd Ernst August yn Etholwr o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Yn 1714, etifeddodd yr Etholwr Georg Ludwig orsedd Lloegr fel y brenin Siôr. Ni unwyd Lloegr a Hannover yn wleidyddol, ond teyrnasai yr un person arnynt nes i'r Frenhines Victoria ddod i orsedd Prydain Fawr yn 1837. Dim ond gwrywod oedd a'r hawl i orsedd Hannover, felly daeth Ernst August i'r orsedd honno.