Etholiad Senedd Cymru, 2021

Hwn oedd chweched etholiad cyffredinol ers sefydlu Senedd Cymru ym 1999. Ar yr un diwrnod, cynhaliwyd hefyd etholiadau lleol eraill yn yr Alban a Lloegr, ac etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr. Hwn oedd yr etholiad cyntaf lle caniataodd y Senedd i bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio, sef estyniad mwyaf yr etholfraint yng Nghymru ers 1969. Roedd y newid yn ganlyniad i Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020.[2] Hwn, felly, oedd yr etholiad cyntaf lle gall pobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio, ar ôl i deddf newydd dod i rym ym mis Ionawr 2020.[2] Pleidleisiodd 47% o'r etholwyr - y ganran uchaf erioed mewn etholiad yng Nghymru, a'r Blaid Lafur enillodd fwyaf o seddi.

Etholiad Senedd Cymru, 2021

← 2016 6 Mai 2021 Etholiad Senedd nesaf →

Pob un o 60 sedd y Senedd
31 seddi sydd angen i gael mwyafrif
Polau piniwn
Y nifer a bleidleisiodd46.5% increase1.2%
  Plaid cyntaf Yr ail blaid Y drydedd blaid
 
Blank
Blank
Blank
Arweinydd Mark Drakeford Andrew R. T. Davies Adam Price
Plaid Llafur Sosialaidd Ceidwadwyr Cymru Plaid Cymru
Arweinydd ers 6 Rhagfyr 2018 24 Ionawr 2021[1] 28 Medi 2018
Sedd yr arweinydd Gorllewin Caerdydd Canol De Cymru Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
Etholiad ddiwethaf 29 sedd 11 sedd 12 sedd
Seddi a enillwyd 30 16 13
Newid yn y seddi increase1 increase5 increase1
Pleidlais yr etholaethau 443,047 289,802 225,376
% a godwydd 39.9% increase5.2% 26.1% increase5.0% 20.3% Decrease0.2%
Pleidlais Ranbarthol 401,770 278,560 230,161
% a godwydd 36.2% increase4.7% 25.1% increase6.3% 20.7% Decrease0.1%

Canlyniadau cynnar: nid yw'r cyfan wedi eu cyhoeddi hyd yma.

Prif Weinidog cyn yr etholiad

Mark Drakeford
Llafur

Etholwyd Prif Weinidog

Mark Drakeford
Llafur

Roedd gan saith plaid aelodau yn y pumed Cynulliad/Senedd: Llafur Cymru dan arweiniad y Prif Weinidog Mark Drakeford, Ceidwadwyr Cymru dan arweiniad Andrew R. T. Davies, Plaid Cymru dan arweiniad Adam Price, Plaid Diddymu Cynulliad Cymru dan arweiniad Richard Suchorzewski, UKIP Cymru dan arweiniad Neil Hamilton, Y Democratiaid Rhyddfrydol Cymraeg dan arweiniad Jane Dodds a Propel (gynt y Welsh Nation Party) dan arweiniad Neil McEvoy.

Y canlyniad yn gryno golygu

Enillodd y Blaid Lafur 30 o seddi a chadw'u statws fel y blaid fwyaf, gyda'r Ceidwadwyr yn ail a Phlaid Cymru'n drydydd. Dyma buddugoliaeth mwyaf Llafur erioed, yng Nghymru. Roedd y canlyniad dros y ffin, yn bur wahanol gyda'r Blaid Lafur yn colli siroedd a'u harweinydd Keir Starmer, dridiau wedi'r drin yn cael gwared a'i ganghellor Anneliese Dodds, fel bwch dihangol.[3] Roedd y gwahaniaeth rhwng y ddwy wlad, Cymru a Lloegr, yn syfrdannol, gyda'r rhan fwyaf o wleidyddion yn nodi mai llwyddiant Llafur yng Nghymru, oedd y modd gonest a diymffrost y deliodd Mark Drakeford gyda'r pandemic COVID-19. Ond er y llwyddiant, oherwydd y system gyfrannol, roedd y blaid yn brin o un aelod i gael mwyafrif, ac i lywodraethu heb gymorth plaid arall.[4]

Newidiodd tair sedd etholaethol: yn Nyffryn Clwyd, cipiodd y Ceidwadwyr y sedd oddi wrth Llafur; ac unig sedd y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Cipiodd y Blaid Lafur sedd cyn-arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood yn y Rhondda.

Yn ôl y sylwebydd gwleidyddol yr Athro Richard Wyn Jones, un o gerrig milltir mwyaf yr etholiad oedd y ffaith mai ychydig iawn o bleidleisiau a gafodd y pleidiau gwrth-Gymreig, Plaid Diddymu Cynulliad Cymru ac UKIP, ac ni chafodd y naill na'r llall unrhyw sedd nac aelod. Dywedodd mai dyma hoelen olaf yn arch y syniad fod y Senedd yn amherthnasol.

Etholwyd hefyd y ferch gyntaf o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig, sef Natasha Asghar, i'r Senedd. Mae Ashgar yn olynu ei thad, Mohammad Asghar (Medi 1945 – Mehefin 202), i’w hen sedd, Dwyrain De Cymru.

Yn yr Alban, ar yr un diwrnod, enillodd yr SNP fwy nag erioed o aelodau: 64.

Y system etholiadol golygu

Mewn etholiadau ar gyfer y Senedd, mae gan bob pleidleisiwr ddwy bleidlais yn y system aelodau ychwanegol. Y bleidlais gyntaf yw ar gyfer yr ymgeisydd sy'n dod yn aelod dros etholaeth y pleidleisiwr, a etholwyd gan y system 'y cyntaf i'r felin'. Mae'r ail bleidlais ar gyfer yr ymgeisydd sy'n dod yn aelod rhanbarthol drwy restr caeedig pleidiol. Mae seddau aelodau ychwanegol yn cael eu dyrannu o'r rhestrau trwy ddull D'Hondt, gyda chanlyniadau'r etholaethau yn cael eu hystyried yn y dyraniad. Mae'r canlyniad cyffredinol yn fras yn gyfrannol.

Yn unol â Deddf Cymru 2014, caniatawyd i ymgeisydd sefyll mewn etholaeth, yn ogystal â rhestr ranbarthol. Fodd bynnag, mae dal mandad deuol gyda Thŷ’r Cyffredin yn anghyfreithlon, sy’n golygu na all Aelod o Senedd fod yn Aelod Seneddol yn San Steffan hefyd.

Cefndir golygu

Etholiad Senedd Ewrop 2019 oedd yr olaf o'i fath. Daeth y Blaid Brexit, a oedd newydd ei ffurfio, i'r brig yng Nghymru, gyda Plaid Cymru'n ail, gan nodi’r tro cyntaf iddi erioed guro Llafur mewn etholiad yng Nghymru.[5] Fe wnaeth Plaid Brexit hefyd ffurfio grŵp seneddol yn y Cynulliad a oedd yn cynnwys 4 aelod blaenorol Plaid Annibyniaeth y DU, dan arweiniad Mark Reckless.[6] Galwyd etholiad cyffredinol ar fyr rhybydd ar 12 Rhagfyr 2019. Dioddefodd Llafur Cymru gwymp o 8% yn eu pleidlais a chawsant eu dileu yn llwyr o Ogledd Cymru, ar wahân i un sedd, Alyn a Glannau Dyfrdwy. Yn y diwedd, collodd Llafur 6 sedd seneddol i'r Ceidwadwyr ym muddugoliaeth ysgubol Boris Johnson. Roedd y seddi hyn yn cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, a gynrychiolwyd ar lefel y cynulliad gan gyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ers 1999. Enillodd y Ceidwadwyr hefyd Brycheiniog a Sir Faesyfed oddi wrth arweinydd Y Democratiaid Rhyddfrydol Cymraeg Jane Dodds.[7]

Ar 31 Ionawr 2020, gadawodd y Deyrnas Unedig yr Undeb Ewropeaidd. Roedd hyn yn dilyn refferendwm ar y mater lle pleidleisiodd Cymru i adael yr UE.[8] Mae De Cymru wedi tynnu sylw llawer fel tystiolaeth bod Brexit yn fater trawsbleidiol, gan fod yr ardaloedd hynny fel rheol yn pleidleisio’n llethol dros Lafur. Pleidleisiodd Blaenau Gwent, Torfaen, a Chaerffili i gyd yn llethol o blaid Brexit, ond maent i gyd yn cael eu cynrychioli yn Nhŷ Cyffredin y Deyrnas Unedig gan ASau Llafur.

Ymgyrchodd Plaid Cymru dros bleidlais aros yn refferendwm 2016 ar aelodaeth y DU o'r UE.[9] Yn ddiweddarach, cefnogodd Plaid, yn ystod camau olaf proses Brexit, ail refferendwm ar y mater.[10][11] Dadleuodd Plaid y dylid cael refferendwm ar annibyniaeth i Gymru ar ôl Brexit, fel y gallai Cymru wneud cais am aelodaeth o’r UE.[12] Mewn arolwg barn ar yr mater yn Medi 2019 dywedodd 41% o'r ymatebion bod nhw eisiau Cymru Annibynnol er mwyn atal Brexit.[13]

Aelodau wedi Ymddeol golygu

Ymddeolodd sawl aelod cyn yr etholiad:

Etholaeth / Rhanbarth Yr aelod sy'n Ymadael Plaid
Pen-y-bont ar Ogwr Carwyn Jones [14] Llafur
Dwyrain De Cymru David Melding [15] Ceidwadwyr
Dwyfor Meirionnydd Dafydd Elis-Thomas [16] Annibynnol
Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro Angela Burns[17] Ceidwadwyr
Gorllewin De Cymru Bethan Sayed[18] Plaid Cymru
Brycheiniog a Sir Faesyfed Kirsty Williams[19] Democratiaid Rhyddfrydol
Dyffryn Clwyd Ann Jones[20] Llafur

Seddi targed golygu

Isod, rhestrir yr holl etholaethau a oedd angen gogwydd o lai na 10% o ganlyniad 2016 i newid plaid.

Targedau Llafur golygu

Safle Etholaeth Plaid enillodd yn 2016 Mwyafrif Gogwydd i ennill Safle Llafur yn 2016 Canlyniad
1 Aberconwy Ceidwadwyr 1,609 3.35 3ydd Ceid yn cadw
2 Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro Ceidwadwyr 3,373 5.75 2ail Ceid yn cadw
3 Preseli Penfro Ceidwadwyr 3,930 6.8 2ail Ceid yn cadw
4 Rhondda Plaid Cymru 3,459 7.35 2ail Llafur yn ennill
5 Mynwy Ceidwadwyr 5,147 16.4 2ail Ceid yn cadw

Targedau Plaid Cymru golygu

Safle Etholaeth Plaid enillodd yn 2016 Mwyafrif Gogwydd i ennill Safle PC yn 2016 Canlyniad
1 Llanelli Llafur 382 0.65 2ail Llafur yn cadw
2 Blaenau Gwent Llafur 650 1.55 2ail Llafur yn cadw
3 Aberconwy Ceidwadwyr 754 1.7 2ail Ceid yn cadw
4 Gorllewin Caerdydd Llafur 1,176 1.85 2ail Llafur yn cadw
5 Caerffili Llafur 1,575 2.9 2ail Llafur yn cadw
6 Castell-nedd Llafur 2,923 5.75 2ail Llafur yn cadw

Targedau Ceidwadwyr golygu

Safle Etholaeth Plaid enillodd yn 2016 Mwyafrif Gogwydd i ennill Safle Ceid yn 2016 Canlyniad
1 Bro Morgannwg Llafur 777 1.05 2ail Llafur yn cadw
2 Dyffryn Clwyd Llafur 768 1.55 2ail Ceid yn ennill
3 Gŵyr Llafur 1,829 3.05 2ail Llafur yn cadw
4 Wrecsam Llafur 1,325 3.25 2ail Llafur yn cadw
5 Gogledd Caerdydd Llafur 3,667 4.9 2ail Llafur yn cadw
6 De Clwyd Llafur 3,016 6.8 2ail Llafur yn cadw
7 Delyn Llafur 3,582 7.7 2ail Llafur yn cadw

Targedau Democratiaid Rhyddfrydol golygu

Safle Etholaeth Plaid enillodd yn 2016 Mwyafrif Gogwydd i ennill Safle Dem Rhyd yn 2016 Canlyniad
1 Canol Caerdydd Llafur 817 1.55 2ail Llafur yn cadw
2 Ceredigion Plaid Cymru 2,408 4.1 2ail Plaid yn cadw
3 Maldwyn Ceidwadwyr 3,339 7.05 2ail Ceid yn cadw

Enwebiadau etholaethol golygu

Nodyn: Mae ASau mewn swydd cyn yr etholiad yn print trwm. Amlygir enillwyr gyda lliwiau'r plaid.

Etholaeth Llafur Plaid Cymru Ceidwadwyr Dem Rhyd Gwyrdd Diddymu Eraill ac annibynwyr
Aberavon[21] David Rees Victoria Griffiths[22] Liz Hill O'Shea Helen Clarke Sarah Allen Ceri Golding (Gwlad)

Scott Jones

Jim Jenkins (UKIP)

Dennis Mai (Reform UK)

Aberconwy[23] Dawn McGuinness Aaron Wynne Janet Finch-Saunders Rhys Jones Rachel Bagshaw (Reform)

Sharon Smith (No More Lockdowns)

Alun a Glannau Dyfrdwy[24] Jack Sargeant Jack Morris Abigail Mainon Chris Twells Felix Aubel (UKIP)

Richard Purviss (Reform)

Lien Davies (Freedom Alliance)

Arfon[25] Iwan Wyn Jones Sian Gwenllian Tony Thomas Callum Davies Martin Bristow

Andrew Haigh (Reform)

Blaenau Gwent[26] Alun Davies Peredur Owen Griffiths[27] Edward Dawson Paula Yates Richard Taylor Robert Beavis (Reform)

Mandy Moore

Brycheiniog a Sir Faesyfed[28] Gethin Jones Grenville Ham James Evans William Powell Emily Durrant Claire Mills Sam Jones (Gwlad)

John Muir (Reform)

Pen-y-bont ar Ogwr[29] Sarah Murphy[30] Leanne Lewis Rachel Nugent-Finn Harvey Jones Steven Bletsoe

Caroline Jones[31]

Geraint Jones (Gwlad)

Christine Roach (Reform)

Caerffili[32] Hefin David Delyth Jewell Steven Mayfield Steve Aicheler Steve Jones Tim Price (Reform)
Canol Caerdydd [33] Jenny Rathbone Wiliam Rees Calum Davies Rodney Berman Ceri Davies Muanawar Mughal Clem Thomas (Gwlad)

Julian Bosley (Reform)

Brian Johnson (Plaid Gominyddol Prydain)

Thomas Franklin (Freedom Alliance)

Gogledd Caerdydd [34] Julie Morgan Fflur Elin Joel Williams Rhys Taylor Debra Cooper Lawrence Gwynn Haydn Rushworth (Reform)

Akil Kata (Propel)

Virginia Kemp (Freedom Alliance)

De Caerdydd a Phenarth [35] Vaughan Gething Nasir Adam[36] Leighton Rowlands Alex Wilson Helen Westhead Lisa Peregrine Angus Hawkins (Gwlad)

Paul Campbell (UKIP)

Alan Pick (Reform)

Alan Golding (Freedom Alliance)

Matt Friend (Propel)

David Rolfe (ANN)

Gorllewin Caerdydd [37] Mark Drakeford Rhys ab Owen[38] Sean Driscoll Heath Marshall David Griffin Lee Canning Neil McEvoy
(Propel)
Nick Mullins (Refrom)

Captain Beany (ANN)

Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr [39] Rob James Adam Price Havard Hughes Monica M French Karl Pollard (Reform)
Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro [40] Riaz Hassan Cefin Campbell[41] Sam Kurtz Alistair Cameron Paul Dowson (UKIP)

Peter Prosser (Reform)

Ceredigion[42] Dylan Lewis-Rowlands Elin Jones Amanda Jenner Cadan ap Tomos Harry Hayfield Gethin James (Reform)
De Clwyd[43] Ken Skates Llyr Gruffydd Barbara Hughes Leena Farhat Jonathan Harrington Jeanette Bassford-Barton (UKIP)

Mandy Jones (Reform)

Gorllewin Clwyd[44] Joshua Hurst Elin Walker Jones Darren Millar David Wilkins Euan McGivern Rhydian Hughes (Gwlad)

Jeanie Barton (UKIP)

Clare Eno (Reform)

Cwm Cynon[45] Vikki Howells Geraint Benney Mia Rees Gerald Francis Martyn Ford Gareth Bennett

Peter Hopkins (Reform)

Delyn[46] Hannah Blythyn Paul Rowlinson Mark Isherwood Andrew Parkhurst Anthony Williams (Gwlad)

Mary Davies (UKIP)

Aiden Down (Reform)

Dwyfor Meirionnydd[47] Cian Ireland Mabon ap Gwynfor [48] Charlie Evans Stephen Churchman Glyn Daniels (Llais Gwynedd)

Peter Read (Propel)

Louise Hughes (Reform)

Michelle Murray (Freedom Alliance)

Gŵyr[49] Rebecca Evans John Davies Myles Langstone Michael Sheehan Anna Pigott David Erasmus (Gwlad)

Byron John (Reform)

Islwyn[50] Rhianon Passmore Rhys Mills [51] Gavin Chambers Oliver Townsend Mike Ford Kevin Etheridge
Llanelli[52] Lee Waters Helen Mary Jones Stefan Ryszewski Jon Burree Sian Caiach (Gwlad)

Howard Lillyman (UKIP)

Gareth Beer (Reform)

Merthyr Tudful a Rhymni[53] Dawn Bowden Ian Gwynne Donna Gavin Jez Becker Hugh Moelwyn Hughes
Mynwy[54] Catrin Maby Hugh Kocan Peter Fox[55] Jo Watkins Ian Chandler Mark Reckless Laurence Williams (Gwlad)

Nick Ramsay

Maldwyn[56] Kait Duerden Elwyn Vaughan Russell George Alison Alexander Gwyn Evans (Gwlad)

Oliver Lewis (Reform)

Castell-nedd[57] Jeremy Miles Sioned Williams Mathew Williams Iain Clamp Megan Poppy Lloyd Simon Rees James Henton (Propel)
Dwyrain Casnewydd[58] John Griffiths Daniel Llewellyn Gareth Rhys Hughes Mike Hamilton Rob Steed
Gorllewin Casnewydd[59] Jayne Bryant Jonathan Clark Michael Enea John Miller Amelia Womack
Ogwr[60] Huw Irranca-Davies Luke Fletcher [61] Nathan Adams Cameron Shippam Robin Hunter-Clarke Tim Thomas (Propel)

Glenda Davies (Reform)

Pontypridd[62] Mick Antoniw Heledd Fychan Joel James Steven Rajam Ken Barker Mike Hughes Jamie Jenkins (Reform)
Preseli Penfro[63] Jackie Jones Cris Tomos[64] Paul Davies Tina Roberts
Rhondda[65] Elizabeth Buffy Williams[66] Leanne Wood Dai Fussell Jackie Charlton Ian McClean Jeff Gregory (Propel)

Steve Bayliss (Reform)

Dwyrain Abertawe[67] Mike Hedges Rhiannon Barrar Cameron Brennan Sam Bennett Cameron Edwards Darren Rees (Reform)
Gorllewin Abertawe[68] Julie James Dai Lloyd Samantha Chohan Chloe Hutchinson Chris Evans James Cole
Torfaen[69] Lynne Neagle Lyn Ackerman Gruff Parry Veronica German Alfie Best
Dyffryn Clwyd[70] Jason McLellan Glenn Swingler Gareth Davies Lisa Davies Peter Dain (Reform)

David Thomas (Anninynnol)

Bro Morgannwg[71] Jane Hutt Richard Grigg Matt Smith Sally Stephenson Anthony Slaughter Stuart Field Karl-James Langford(Gwlad)

Michael Hancock (Reform)

Wrecsam[72] Lesley Griffiths Carrie Harper Jeremy Kent Timothy Sly Paul Ashton Aaron Norton (Gwlad)

Sebastian Ross (UKIP)

Charles Dodman (Reform)

Ynys Môn[73] Samantha Egelstaff Rhun ap Iorwerth Lyn Hudson Christopher Jones Emmett Jenner (Reform)

Enwebiadau rhanbarthol golygu

Nodyn: Mae ASau mewn swydd cyn yr etholiad yn print trwm. Amlygir enillwyr gyda lliwiau'r plaid.

Rhanbarth Llafur Plaid Cymru Ceidwadwyr Dem Rhydd Gwyrdd Eraill
Canolbarth a Gorllewin Cymru[74] Eluned Morgan Cefin Campbell Tomos Davies Jane Dodds Emily Durrant UKIP,Diddymu, Reform UK, Plaid Gominyddol, Freedom Alliance, Gwlad, Propel, Christian, TUSC
Joyce Watson Helen Mary Jones Amanda Jenner William Powell Tomos Barlow
Helen Taylor Elwyn Vaughan Liz Lesnianski Alistair Cameron Harry Hayfield
Ben Gwalchmai Cris Tomos Aled Davies Stephen Churchman Marc Pearton
Gogledd Cymru[74] Carolyn Thomas Llyr Gruffydd Mark Isherwood Chris Twells Iolo Jones UKIP,Diddymu, Reform UK, Plaid Gominyddol, Freedom Alliance, Gwlad, Propel, TUSC Michelle Brown (ANN)
Andy Short Carrie Harper Sam Rowlands David Wilkins Ducan Rees
Diane Green Elin Walker Jones Barbara Hughes Leena Farhat Adam Turner
Ryan O’Gorman Paul Rowlinson Gareth Davies Gavin Scott Linda Rogers
Canol De Cymru [75] Ruba Sivagnanam Rhys ab Owen Andrew RT Davies Rodney Berman Anthony Slaughter UKIP,Diddymu, Reform UK, Plaid Gominyddol, No More Lockdowns, Gwlad, Propel, TUSC, Workers Party, Alan Coulthard (ANN)
Dan De’Ath Heledd Fychan Joel James Rhys Taylor Helen Westhead
Maliika Kaaba Fflur Elin Calum Davies Sally Stephenson David Griffin
Owain Williams Sahar Al-Faifi Chris Thorne Steven Rajm Debra Cooper
Dwyrain De Cymru[76] Helen Cunningham Delyth Jewell Laura Anne Jones Jo Watkins Amelia Womack UKIP,Diddymu, Reform UK, Plaid Gominyddol, No More Lockdowns, Gwlad, Propel, TUSC,
Peter Jones Peredur Owen Griffiths Natasha Asghar Veronica German Ian Chandler
Mary Ann Brocklesby Lindsay Whittle Matthew Evans Oliver Townsend Lauren James
Majid Rahman Rhys Mills Nick Evans Jez Becker Stephen Priestnall
Gorllewin De Cymru[77] Sian James Sioned Williams Tom Giffard Chloe Hutchinson Megan Poppy Lloyd UKIP,Diddymu, Reform UK, Plaid Gominyddol, Freedom Alliance, Gwlad, Propel, TUSC, Caroline Jones (ANN)
Kevin Pascoe Luke Fletcher Altaf Hussain Sam Bennett Chris Evans
Neelo Farr John Davies Samantha Chohan Harvey Jones Alex Harris
Mahaboob Basha Jamie Evans Liz Hill O'Shea Helen Ceri Clarke Tom Muller

Pleidleisio barn golygu

Pleidlais etholaethol golygu

Prif erthygl:Arolygon barn ar gyfer etholiad nesaf Senedd Cymru§Pleidlais etholaethol

Pleidlais ranbarthol golygu

Prif erthygl:Arolygon barn ar gyfer etholiad nesaf Senedd Cymru§Pleidlais ranbarthol

Cyfeiriadau golygu

  1. "Andrew RT Davies returns as Welsh Conservatives leader". BBC News (yn Saesneg). 2021-01-24. Cyrchwyd 2021-01-24.
  2. 2.0 2.1 "Bil i gyflwyno enw newydd a gostwng oed pleidleisio yn dod yn Deddf". Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cyrchwyd 2020-04-17.[dolen marw]
  3. theguardian.com; adalwyd 10 Mai 2021.
  4. bbc.co.uk; adalwyd 10 Mai 2021.
  5. "Etholiad Ewrop: Dwy sedd i Blaid Brexit". BBC Cymru Fyw. 2019-05-27. Cyrchwyd 2020-04-17.
  6. "Cydnabod Plaid Brexit fel grŵp swyddogol". BBC Cymru Fyw. 2019-05-20. Cyrchwyd 2020-04-17.
  7. "Etholiad 2019: 'Wal goch' yn troi'n fricsen". BBC Cymru Fyw. 2019-12-13. Cyrchwyd 2020-04-17.
  8. Perraudin, Frances (2019-09-22). "English people living in Wales tilted it towards Brexit, research finds". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-04-17.
  9. "Plaid Cymru, SNP a'r Gwyrddion yn uno dros Ewrop". Golwg360. 2016-05-23. Cyrchwyd 2020-04-17.
  10. "Plaid Cymru eisiau ail refferendwm Brexit ar ôl fôt San Steffan". Golwg360. 2019-01-30. Cyrchwyd 2020-04-17.
  11. "Pobol Cymru wedi "newid meddwl" tros Brexit meddai Jill Evans". Golwg360. 2019-03-23. Cyrchwyd 2020-04-17.
  12. "Maniffesto Plaid Cymru: Gwrth-droi Brexit". BBC Cymru Fyw. 2019-05-13. Cyrchwyd 2020-04-17.
  13. "41% eisiau Cymru Annibynnol er mwyn atal Brexit". Golwg360. 2019-09-13. Cyrchwyd 2020-04-17.
  14. "Prifysgol Aberystwyth yn penodi Carwyn Jones yn Athro'r Gyfraith". Golwg360. 2020-01-15. Cyrchwyd 2020-04-17.
  15. ""Pencampwr democratiaeth a datganoli" yn cefnu ar y Cynulliad". Golwg360. 2020-02-28. Cyrchwyd 2020-04-17.
  16. "Dafydd Elis-Thomas ddim am geisio adennill ei sedd". BBC Cymru Fyw. 2020-04-12. Cyrchwyd 2020-04-17.
  17. "Llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn gadael y Senedd". BBC Cymru Fyw. 2020-07-16. Cyrchwyd 2020-07-16.
  18. "Bethan Sayed AS ddim am sefyll yn Etholiad 2021". BBC Cymru Fyw. 2020-08-28. Cyrchwyd 2020-08-28.
  19. "Kirsty Williams i sefyll lawr fel AS yn 2021". BBC Cymru Fyw. 2020-10-27. Cyrchwyd 2020-10-27.
  20. "Ann Jones AS wedi penderfynu peidio sefyll eleni". BBC Cymru Fyw. 2021-01-29. Cyrchwyd 2021-01-29.
  21. "Senedd 2021 Aberavon Statement of Persons Nominated" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-04-18. Cyrchwyd 2021-04-18.
  22. "Victoria Griffiths - Plaid Cymru Candidate for Aberafan". www.facebook.com. Cyrchwyd 2021-02-17.
  23. "Aberconwy Senedd 2021 Statement of Persons Nominated" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-04-18. Cyrchwyd 2021-04-18.
  24. "Alyn and Deeside 2021 Senedd SoPN" (PDF).
  25. "Arfon 2021 Senedd SoPN" (PDF).
  26. "Blaenau Gwent Senedd 2021 SoPN" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-04-18. Cyrchwyd 2021-04-18.
  27. "Candidate - Peredur Owen Griffiths". Blaenau Gwent - Plaid Cymru - The Party of Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-07-12.
  28. "Brecon and Radnor 2021 Senedd SoPN" (PDF).[dolen marw]
  29. "Bridgend Senedd 2021 Statement of Persons Nominated" (PDF).
  30. "Sarah Murphy 🌹 (@sarah4bridgend) | Trydar". twitter.com.
  31. "Cyn-AS UKIP a'r Blaid Brexit yn targedu sedd Carwyn Jones". Golwg360. 2020-09-04. Cyrchwyd 2020-09-19.
  32. "Caerphilly Senedd 2021 SoPN".
  33. "Cardiff Central Senedd 2021 SoPN" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-04-21. Cyrchwyd 2021-06-07.
  34. "Cardiff North Senedd 2021 SoPN" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-04-09. Cyrchwyd 2021-06-07.
  35. "Cardiff South and Penarth 2021 Senedd SoPN" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-10-04. Cyrchwyd 2021-06-07.
  36. "https://twitter.com/plaid_cymru/status/1278290944564105216". Twitter (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-07-12. External link in |title= (help)
  37. "Cardiff West Senedd 2021 SoPN" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-10-04. Cyrchwyd 2021-06-07.
  38. 16 Ebrill 2020, Posted on; Pm, 4:06. "Rhys ab Owen - Cardiff West". Plaid Cymru Cardiff (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-07-14. Cyrchwyd 2020-07-12.CS1 maint: numeric names: authors list (link)
  39. "Carmarthen East and Dinefwr Senedd 2021 SoPN". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-05-12. Cyrchwyd 2021-06-07.
  40. "Statement of Persons Nominated CARMARTHEN WEST & SOUTH PEMBROKESHIRE CONSTITUENCY". Pembrokeshire Council Website.
  41. Team, Design (2021-02-16). "Candidate bows out due to Covid commitments". The Carmarthenshire Herald (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-02-16. Cyrchwyd 2021-02-17.
  42. "Ceredigion Senedd 2021 SoPN" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-04-09. Cyrchwyd 2021-06-07.
  43. "Clwyd South Senedd 2021 SoPN" (PDF).
  44. "Clwyd West Senedd 2021 Statement of Persons Nominated" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-06-10. Cyrchwyd 2021-06-07.
  45. "Cynon Valley Senedd 2021 Statement of Persons Nominated" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-04-29. Cyrchwyd 2021-06-07.
  46. "Delyn 2021 Senedd SoPN" (PDF).
  47. "Dwyfor Meirionnydd 2021 Senedd SoPN" (PDF).
  48. "Ŵyr Gwynfor Evans i geisio am y Cynulliad". BBC Cymru Fyw. 2019-07-06. Cyrchwyd 2020-04-17.
  49. "Gower Senedd 2021 SoPN" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-06-07. Cyrchwyd 2021-06-07.
  50. "Islwyn Senedd 2021 SoPN".
  51. "Plaid Cymru announce Rhys Mills as candidate for Islwyn". South Wales Argus. Cyrchwyd 13 Mai 2020.
  52. "Llanelli Senedd 2021 SoPN". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-05-09. Cyrchwyd 2021-06-07.
  53. "Merthyr Senedd 2021 SoPN" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-10-04. Cyrchwyd 2021-06-07.
  54. "Monmouth Senedd 2021 SoPN" (PDF).
  55. "Nick Ramsay ddim i sefyll ar ran y Ceidwadwyr". BBC Cymru Fyw. 2021-03-12. Cyrchwyd 2021-03-13.
  56. "Montgomeryshire Senedd 2021 SoPN" (PDF).[dolen marw]
  57. "Senedd 2021 Neath Statement of Persons Nominated" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-04-09. Cyrchwyd 2021-06-07.
  58. "Newport East Senedd 2021 SoPN" (PDF).
  59. "Newport West Senedd 2021 SoPN" (PDF).
  60. "Ogmore Senedd 2021 SoPN" (PDF).
  61. "Parties begin selection process for 2021 Senedd Election". Oggy Blog Ogwr. Cyrchwyd 13 Mai 2020.
  62. "Senedd 2021 Pontypridd Statement of Persons Nominated" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-04-29. Cyrchwyd 2021-06-07.
  63. "Preseli Pembrokeshire Senedd 2021 SoPN".
  64. "Cris selected as Plaid's Preseli Pembrokeshire Senedd and Westminster candidate". County Echo (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-07-12.
  65. "Rhondda Senedd 2021 SoPN" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-10-02. Cyrchwyd 2021-06-07.
  66. https://twitter.com/WelshLabour/status/1282640867023560706
  67. "Swansea East Senedd 2021 SoPN" (PDF).[dolen marw]
  68. "Swansea West Senedd 2021 SoPN" (PDF).[dolen marw]
  69. "Torfaen Senedd 2021 SoPN" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-04-09. Cyrchwyd 2021-06-07.
  70. "Vale of Clwyd Senedd 2021 SoPN" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-04-08. Cyrchwyd 2021-06-07.
  71. "Vale of Glamorgan Senedd 2021 SoPN" (PDF).
  72. "Wrexham Senedd 2021 SoPN" (PDF).
  73. "Anglesey Senedd 2021 SoPN" (PDF).[dolen marw]
  74. 74.0 74.1 "Datganiad o'r Ymgeiswyr Unigol a Enwebwyd a'r Pleidiau Gwleidyddol Cofrestredig sydd wedi cyflwyno Rhestr Plaid a'r Hysbysiad o Bleidlais Etholiad Senedd Cymru: Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru" (PDF). line feed character in |title= at position 100 (help)
  75. "South Wales Central 2021 Senedd Statement of Persons Nominated" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-06-07. Cyrchwyd 2021-06-07.
  76. "South Wales East 2021 Senedd Statement of Persons Nominated" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-04-09. Cyrchwyd 2021-06-07.
  77. "Statement of persons and parties nominated and Notice of poll (South Wales West)" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-04-11. Cyrchwyd 2021-06-07. line feed character in |title= at position 48 (help)