Etholiad Senedd Ewrop, 2019

Cynhaliwyd Etholiad Senedd Ewrop rhwng Mai 23 a 26, y nawfed etholiad seneddol ers yr etholiadau uniongyrchol cyntaf ym 1979. Mae cyfanswm o 751 o Aelodau Senedd Ewrop (ASEau) yn cynrychioli mwy na 512 miliwn o bobl o 28 aelod-wladwriaeth. Ym mis Chwefror 2018, roedd Senedd Ewrop wedi pleidleisio i leihau nifer yr ASEau o 751 i 705 pe bai'r Deyrnas Unedig yn tynnu'n ôl o'r Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawth 2019. [3] Fodd bynnag, cymerodd y Deyrnas Unedig ran ochr wrth ochr ag aelod-wladwriaeth eraill yr UE ar ôl etyniad Erthygl 50 i 31 Hydref; felly, arhosodd dyraniad y seddi i'r aelod-wladwriaeth a'r nifer cyfan o seddi yr un fel y bu yn 2014. [4] Cafodd Nawfed Senedd Ewrop ei sesiwn lawn gyntaf ar 2 Gorffennaf 2019. [5]

Etholiad Senedd Ewrop, 2019

← 2014 23–26 May 2019[1] 2024 →

Yr holl 751 o seddi i Senedd Ewrop
353 seddi sydd angen i gael mwyafrif
Y nifer a bleidleisiodd50.66%[2] increase 8.01 pp
  Weber looking sideways A closeup of Timmermans
Arweinydd Manfred Weber Frans Timmermans Margrethe Vestager
Cynghrair EPP S&D Renew
Sedd yr arweinydd Yr Almaen Yr Iseldiroedd Denmarc
Etholiad ddiwethaf 221 o seddi, 23.8% 191 o seddi, 24.4% 67 o seddi, 7.0%
Seddi cynt 216 185 69
Seddi a enillwyd 187 147 98
Newid yn y seddi Decrease 34 Decrease 31 increase 39
Poblogaidd boblogaith 41,211,023 35,421,084 23,788,652
Canran 21.0% 18.5% 13.0%
Gogwydd Decrease 2.8% Decrease 5.9% increase 6.0%

  Zahradil's face
Arweinydd Bas Eickhout
Ska Keller
Marco Zanni Jan Zahradil
Cynghrair Gwyrddion/EFA ID ECR
Sedd yr arweinydd Yr Iseldiroedd
Yr Almaen
Gogledd-Orllewin Yr Eidal Y Weriniaeth Tsiec
Etholiad ddiwethaf 50 o seddi, 7.3% Grŵp newydd 70 o seddi, 5.2%
Seddi cynt 52 36 77
Seddi a enillwyd 67 76 62
Newid yn y seddi increase 22 increase 37 Decrease 15
Poblogaidd boblogaith 19,886,513 20,980,853 14,207,477
Canran 11.7% 10.8% 8.2%
Gogwydd increase 4.4% Grŵp newydd increase 3.0%

  A portrait of Tomić Cué looking toward the camera
Arweinydd Violeta Tomić
(heb ei ethol)
Nico Cué
(heb ei ethol)
Cynghrair EUL/NGL
Sedd yr arweinydd Slofenia
Gwlad Belg (Ffrangeg)
Etholiad ddiwethaf 52 o seddi, 5.6%
Seddi cynt 52
Seddi a enillwyd 39
Newid yn y seddi Decrease 11
Poblogaidd boblogaith 10,219,537
Canran 6.5%
Gogwydd increase 0.9%

The leading parliamentary group in Malta, Sweden, Portugal, and Spain is S&D; in UK it is EFDD; in Belgium, Czechia, Denmark, Estonia, Luxembourg, and the Netherlands it is ALDE; in France and Italy it is ENF; in Poland it is ECR; and in the other 14 it is EPP.
Map o Ewrop yn dangos y grŵp seneddol Ewropeaidd yn arwain ym mhob Etholiaeth. Mewn etholiaethau lle cafodd rhai grwpiau'r un nifer o seddi, arddangosir y grwpiau sydd â'r rhan fwyaf o'r seddi gyda streipiau.

     Grŵp Plaid Pobl Ewrop (EPP)      Cynghrair Flaengar y Sosialwyr a'r Democratiaid (S&D)      Renew Europe (RE)      Gwyrddion/Cynghrair Rhydd Ewrop (G/EFA)      Hunaniaeth a Democratiaeth (ID)      Ceidwadwyr a Diwygwry Ewrop (ECR)      Chwith Unedig Ewropeaidd/Chwith Gwyrdd Nordig (GUE/NGL)

     Aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp pleidiau (NI)

Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd cyn yr etholiad

Jean-Claude Juncker
EPP

Etholwyd Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd

Ursula von der Leyen
EPP

Ar 26 Mai 2019, enillodd Plaid Pobl Ewrop dan arweiniad Manfred Weber y rhan fwyaf o'r seddi yn Senedd Ewrop, gan wneud Weber yn Lywydd nesaf y Comisiwn Ewropeaidd. [6][7] Er gwaethaf hyn, penderfynodd y Cyngor Ewropeaidd ar ôl yr etholiad enwebu Ursula von der Leyen fel Llywydd newydd y Comisiwn. Dioddefodd y pleidiau chiwth-canol a de-canol golledion sylweddol, tra gwnaeth pleidiau canolbleidiol, rhyddfrydol ac amgylcheddol o blaid yr UE a phleidiau poblyddol asgell-dde ac estrongasol gwrth-UE enillion sylweddol. [8][9]

Deddfwriaeth newydd golygu

Ar 7 Mehefin 2018, cytunodd y Cyngor ar lefel llysgenhadon i newid cyfraith etholiadol yr UE a diwygio hen ddeddfau o Ddeddf Etholiadol 1976. Diben y diwygiad yw cynyddu'r nifer o bobl sydd yn pleidleisio mewn etholiadau, codi dealltwriaeth eu cymeriad Ewropeaidd ac atal pleidleisio afreolaidd ac ar yr un pryd parchu traddodiadau cyfansoddiadol ac etholiadol yr aelod-wladwriaethau.[10] Gwahardda'r diwygiad bleidleisio dwbl a phleidleisio mewn trydydd gwledydd, felly gwella gwelededd pleidiau Ewropeaidd.[10] Er mwyn osgoi pleidleisio dwbl, mae'n rhaid i awdurdodau gyfnewid data pleidleiswyr.[10]

Rhoddodd Senedd Ewrop ei chydsyniad ar 4 Gorffennaf 2018 a mabwysiadwyd y Ddeddf gan y Cyngor ar 13 Gorffennaf 2018. Fodd bynnag, ni chadarnhaodd pob aelod-wladwriaeth y Ddeddf cyn etholiadau 2019, a felly digwyddodd yr etholiad hwn yn unol â'r rheolau blaenorol. [11][12]

Grwpiau gwleidyddol ac ymgeiswyr golygu

Mae proses y Spitzenkandidat yn cynnwys enwebiad ymgeiswyr gan bleidiau gwleidyddol Ewropeaidd ar gyfer rôl Llywydd y Comisiwn, gyda'r blaid yn ennill y rhan fwyaf o'r seddi yn Senedd Ewrop yn cael y cyfle cyntaf i geisio ffurfio mwyafrif ar gyfer cefnogi eu hymgeiswyr (yn debyg i sut yr etholwyd pennaeth llywodraeth mewn democratiaethau seneddol gwladol). Defnyddiwyd y broses hon am y tro cyntaf yn 2014 a'i gwrthwynebwyd gan rhai yn y Cyngor Ewropeaidd. Mae dyfodol y broses yn ansicr, ond mae Senedd Ewrop wedi ceisio codeiddio y broses ac mae'r pleidiau bron yn sicr i ddewis yr ymgeiswyr yn y ffordd hon eto.[13] Ar 23 Ionawr 2018, mabwysiadodd y Pwyllgor ar Faterion Cyfansoddiadol destun yn dweud na ellir gwrthdroi proses y Spitzenkandidat, ac y bydd y Senedd "yn barod i wrthod unrhyw ymgeisydd yng ngweithdrefn arwisgo Llywydd y Comisiwn na phenodwyd fel Spitzenkandidat yn y cyfnod cyn yr etholiadau Ewropeaidd".[14]

Ym mis Mai 2018, awgrymodd pôl Eurobaromenter bod 49% o'r 27,601 o unigolion o bob 28 gwlad yr UE yn meddwl y bydd proses y Spitzenkandidat yn eu helpu i bleidleisio yn yr etholiadau Ewropeaidd nesaf, tra mae 70% hefyd yn meddwl bod angen dadl iawn ar faterion Ewropeaidd ar y broses.[15]

Plaid Pobl Ewrop (EPP) golygu

Dywedodd y deiliad Jean-Claude Juncker na fyddai'n ceisio ail dymor fel Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd.[16]

Ceisiodd dau ymgeisydd enwebiad yr EPP:

Yn eu Cyngres 2018 yn Helsinki, etholodd yr EPP Manfred Weber fel eu Spitzenkandidat ar gyfer Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd.[19]

Plaid y Sosialwyr Ewropeaidd (PES) golygu

Gadawodd yr ymgeisydd blaenorol Martin Schulz Senedd Ewrop yn 2017 i arwain Plaid Ddemocrataidd Gymdeithasol yr Almaen, ond rhoddodd y gorau i'r swydd olaf yn 2018.

Enwebwyd dau ymgeisydd gan aelod-bleidiau a sefydliadau:

  • Cyhoeddodd Maroš Šefčovič (Is-lywydd y Comisiwn) ei ymgais i arwain y Comisiwn ym mis Medi.[20]
  • Cyhoeddodd Frans Timmermans (Is-lywydd cyntaf y Comisiwn, cyn Weinidog Materion Tramor yr Iseldiroedd) ei ymgais i arwain y Comisiwn ym mis Hydref.[21]

Cynullodd y blaid mewn Cyngres eithriadol yn Libon i gadarnhau etholiad yr ymgeisydd ac i bleidleisio ar y maniffesto.

Ceidwadwyr a Diwygwyr Ewrop (ECR) golygu

Jan Zahradil, ASE dros Blaid Ddemocrataidd Ddinesig y Weriniaeth Tsiec, yw Spitzenkandidat y Ceidwadwyr a Diwygwyr Ewrop.

Plaid Werdd Ewrop (Gwyrddion) golygu

Fel yn 2014, mabwysiadodd Plaid Werdd Ewrop yr egwyddor o ddewis dau ymgeisydd blaenllaw ar gyfer Etholiadau Ewrop 2019.[22] Yn wahanol i 2014, lle dewiswyd yr ymgeiswyr trwy ragetholiadau agored ar-lein, etholwyd y ddau ymgeisydd gan y blaid ym Merlin ym mis Tachwedd 2018.[23] Four people, two of them being currently MEPs, have declared their candidacy:[23]

Yn eu Cyngres 2018 ym Merlin, etholodd y blaid Ska Keller a Bas Eickhout fel eu Spitzenkandidaten ar gyfer Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd.

Cynghrair Rhydd Ewrop (EFA) golygu

Oriol Junqueras, hanesydd ac academydd Catalanaidd a chyn Is-lywydd Catalwnia a garcharwyd o achos ei ran yn refferendwm ar annibyniaeth Catalwnia 2017, oedd Spitzenkandidat Cynghrair Rhydd Ewrop.[24][25]

Cynghrair o Ryddfrydwyr a Democratwyr (ALDE) golygu

Yn hytrach na chyflwyno un ymgeisydd, cyflwynodd grŵp yr ALDE Dîm Ewrop o saith person fel ymgeiswyr blaenllaw y gynghrair:[26]

Plaid Chwith Ewrop golygu

Violeta Tomič o Slofenia ac undebwr llafur Belgaidd Nico Cué oedd yr ymgeiswyr dynodedig.[30]

Grwpiau Poblyddol ac Ewrosgeptig golygu

Roedd disgwyl i'r grŵp Ewrop dros Ryddid a Democratiaeth Uniongyrchol ddiddymu ar ôl yr etholiad. Un rheswm oedd bod ei ran fwyaf o ASEau yn dod o'r Deyrnas Unedig, a ddisgwylwyd ers tro i adael yr UE cyn yr etholiad. Yr ail reswm oedd bod yr ail bartner mwyaf, Mudiad Pum Seren (M5S), yn teimlo'n anesmwyth am y gynghrair hon beth bynnag, wedi ceisio'n aflwyddiannus ymuno y Gwyrddion/EFA neu grŵp ALDE yn lle. Ym mis Chwefror 2019, cyflwynodd M5S, ochr yn ochr â phartneriaid o Groatia, y Ffindir, Gwlad Groeg a Gwlad Pwyl, cynghrair newydd o bleidiau gwrth-sefydliad sydd yn honni nad ydynt yn chwith nac yn dde.[31]

Y Mudiad yw cynghrair o bleidiau poblyddol a sefydlwyd gan Steve Bannon yn 2018 gyda'r diben o gystadlu'r etholiadau Ewropeaidd. Roedd y pleidiau cyfrannog yn cynnwys, o leiaf dros dro, Lega Nord, Plaid Pobl Gwlad Belg a Brodyr yr Eidal, ac efallai Cynulliad Cenedlaethol Ffrainc. Bwriadwyd yn wreiddiol fel ymdrech i uno'r pleidiau poblyddol yn Ewrop, hyd yn hyn anwybyddwyd Y Mudiad gan Amgen ar gyfer yr Almaen,[32] Plaid dros Ryddid Awstria[33] a Plaid Annibyniaeth y DU.[34] Ym mis Mawrth 2019, aseswyd newyddiadurwyr brosiect Bannon fel methiant.[35][36] Ychydig cyn yr etholiad, ymbellhaodd Marine Le Pen o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc oddi wrth Bannon, yn egluro na chwaraeodd e unrhyw ran yn ymgrych ei phlaid.[37]

Ym mis Ebrill 2019, lansiodd Matteo Salvini o Lega'r Eidal y Gynghrai Ewropeaidd o Bobloedd a Chenhedloedd fel clymblaid newydd o bleidiau poblyddol, ewrosgeptig caled a gwrth-fewnfudo. Fe'i ymunwyd gan y rhan fywaf o aelodau'r hen grŵp Ewrop o Genhedloedd a Rhyddid (gan gynnwys Lega, Cynulliad Cenedlaethol Ffrainc, Plaid dros Ryddid Awstria a Phlaid dros Ryddid yr Iseldiroedd yn ogystal â rhai cyn bleidiau yr EFDD (Amgen ar gyfer yr Almaen) a'r ECR (Plaid Pobl Denmarc a Plaid y Ffiniaid). Fe'i ragwelwyd dod yn y pedwerydd grŵp mwyaf yn y Senedd gyda amcangyfrif o fwy na 80 o ASEau.[38]

Pleidiau Newydd golygu

Gwelodd 2019 yr ymddangosiad cyntaf o bleidiau newydd fel Wiosna Gwlad Pwyl, Plaid Môr-ladron Gweriniaeth Tsiec, USR-PLUS Rwmania, Tarian Ddynol a Most Croatia, ĽSNS a Slofacia Flaengar Slofacia. Mae rhai o'r pleidiau newydd eisoes wedi ymuno â phleidiau Ewropeaidd, e.e. aelod o ALDE yw LMŠ Slofenia.

Y blaid newydd fwyaf yw La République En Marche! (LREM) Arlywydd Ffrainc Emmanuel Macron a ffurfiwyd yn 2016 ac enillodd etholiadau arlywyddol a seneddol Ffrainc y flwyddyn wedyn. Yn wreiddiol, ymwrthododd hi ag ymuno unrhyw un o'r grwpiau plaid presennol, yn lle ceisio ffurfio grwp seneddol newydd o ganolbleidwyr sydd yn cefnogi cynlluniau Macron i ddiwygio sefydliadau yr UE, yn denu aelodau oddi wrth ALDE, EPP a S&D.[39][40] Roedd disgwyl i ddarpar bartneriaid ar gyfer prosiect o'r fath gynnwys Ciudadanos Sbaen, Slofacia Flaengar a Mudiad Momentwm Hwngari.[39] Fodd bynnag, ystyriwyd bod y grŵp damcaniaethol yn cael anawsterau i ddod o hyd i ASEau o saith aelod-wladwriaethau o leiaf sydd eu hangen er mwyn ffurfio grŵp newydd.[39] Ym mis Tachwedd 2018, penderfynodd LREM gydweithio gyda'r grŵp rhyddfrydol ALDE yn lle. Serch hynny, pwysleisiodd Macron taw dim ond cynghrair rhydd oedd hyn ac nid aelod o'r Ewroblaid ALDE oedd ei blaid. Beirniadodd e ALDE am dderbyn rhoddion oddi wrth y grŵp cemegol Bayer-Monsanto yn blaen wrth i bennaeth ymgyrch LREM fygwth i alw'r gynghrair yn ôl.[41] Ym mis Ebrill a Mai 2019, parhaodd LREM ei hymdrechion i adeiladu grŵp ehangach, gan gynnwys yr ALDE, ond hefyd pleidiau canolbleidiol a chwith-canol y tu allan i'r ALDE.[42][43]

Enillodd y Blaid Brexit newydd 29 o seddi yn y Deyrnas Unedig.[44]

Safodd y Gwanwyn Ewropeaidd, a gychwynwyd o Fudiad Democratiaeth yn Ewrop 2025 (DiEM25), fel cynghrair plaid Ewrop gyfan gyda un weledigaeth ar gyfer Ewrop, y Fargen Newydd Werdd Ewropeaidd.[45] Y ffigur amlycaf yw cyn weinidog Gwlad Groeg Yanis Varoufakis, a safodd fel ymgeisydd yn etholaeth yr Almaen, ond methodd sicrhau sedd.[46] Er gwaethaf casglu tuag un a hanner miliwn o bleidleisiau, ni etholwyd unrhyw gynrychiolydd a safodd ar gyfer DiEM25, oherwydd yr oedd y pleidleisiau ar wasgar ledled gwledydd gwahanol yr UE.[47]

Fel plaid newydd Ewrop gyfan, sefydlwyd Volt Europa mewn gwledydd Ewropeaidd gwahanol ddwy flynedd cyn yr etholiadau ac ymgyrchodd yn llwyddiannus mewn wyth gwledydd yr UE ar gyfer yr etholiadau gydag un rhaglen drawswladol.[48] Er nad oedd ganddi y nod i greu grŵp seneddol ar ei phen ei hun, tua hanner miliwn o bleidleisiau oedd digon i anfon un o'r sefydlydd, Damian Boeselager, i Senedd Ewrop trwy restr Volt yr Almaen.[49] Since June 2019, Volt is part of the group of the Greens/EFA.[50]

Dadlau ar y teledu golygu

 
Ymgeiswyr llywyddiaeth Comisiwn Ewropeaidd yn Dadl Eurovision (Mai 2019). O'r chwith i'r dde: Zahradil, Cué, Keller, Vestager, Timmermans, Weber
Tabl o ddadlau ar y teledu
Dyddiad Amser

(CEST)

Sefydliad Cyfranogwyr Lleoliad Iaith Prif gyflwynydd(ion)
17 Ebrill 2019 21:00 France 24 a RFI[51] Timmermans a Weber Strasbwrg Ffrangeg Caroline de Camaret (France 24) a Dominique Baillard (RFI)
17 Ebrill 2019 22:00 France 24[52][53] Timmermans a Weber Strasbwrg Saesneg Catherine Nicholson (France 24)
29 Ebrill 2019 19:00 Politico Europe[54] Eickhout, Timmermans, Tomić, Verhofstadt a Zahradil Maastricht Saesneg Ryan Heath (Politico Europe) a Rianne Letschert (Maastricht University)
2 Mai 2019 18:00 Financial Times[55] Keller, Timmermans, Verhofstadt a Weber Fflorens Saesneg Martin Sandbu (Financial Times)
7 Mai 2019 20:15 ARD[56] Timmermans a Weber Cwlen Almaeneg Ellen Ehni ac Andreas Cichowicz (both ARD)
15 May 2019 21:00 EBU[57] Cué, Keller, Timmermans, Vestager, Weber, a Zahradil Brwsel Saesneg Emilie Tran Nguyen (France Television), Markus Preiss (ARD Germany), ac Annastiina Heikkilä (YLE Finland)
16 Mai 2019 20:15 ZDF and ORF[58] Timmermans a Weber Berlin Almaeneg Peter Frey (ZDF) ac Ingrid Thurnher (ORF)
21 Mai 2019 22:00 NOS and NTR[59] Timmermans a Weber Hilversum Almaeneg ac Iseldireg Jeroen Wollaars (NOS)

Cyfeiriadau golygu

  1. "European elections: 23-26 May 2019" (yn Saesneg). European Parliament. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 February 2019. Cyrchwyd 11 March 2019.
  2. "Turnout | 2019 European election results | European Parliament". election-results.eu (yn Saesneg).
  3. "Size of Parliament to shrink after Brexit" (yn Saesneg) (Press release). Senedd Ewrop. 7 February 2018. http://www.europarl.europa.eu/news/en/press-room/20180202IPR97025/size-of-parliament-to-shrink-after-brexit. Adalwyd 28 May 2018.
  4. "Brexit delayed until 31 October - UK and EU agree" (yn Saesneg). BBC News. 11 April 2019. Cyrchwyd 11 April 2019.
  5. "European elections 2019: what's next? (infographic)". European Parliament (yn Saesneg). 30 April 2019. Cyrchwyd 8 June 2019.
  6. "EU center-right claims European Commission presidency" (yn Saesneg). 27 May 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-27. Cyrchwyd 2021-05-13 – drwy Japan Times Online.
  7. "Center-right candidate for EU Commission chair says ready to..." (yn Saesneg). 28 May 2019 – drwy www.reuters.com.
  8. Smith, Alexander (27 May 2019). "European Parliament elections: 5 takeaways from the results". NBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 May 2019.
  9. Mudde, Cas (2019-10-11). "The 2019 EU Elections: Moving the Center" (yn en). Journal of Democracy 30 (4): 20–34. doi:10.1353/jod.2019.0066. ISSN 1086-3214. https://muse.jhu.edu/article/735456.
  10. 10.0 10.1 10.2 "European Parliament elections: Council reaches agreement on a set of measures to modernise EU electoral law - Consilium". Consilium (yn Saesneg).
  11. "Reform of the Electoral Law of the EU" (yn Saesneg). European Parliament. Cyrchwyd 14 April 2019.
  12. mq86mq. "mq86mq on Twitter: "#Direktwahlakt: Stand der Ratifikation. Meine Beschwerde gegen Geheimhaltung hat der @EUCouncil wegen technical inconvenience verschlampt, aber nach erneuter Beschwerde hab ich die Liste gekriegt, offenbar ohne formellen Ratsbeschluss. #Sperrklausel #Europawahl @hotstegs_recht‌ t.co/2gbRzcM0HC"" (yn Saesneg). Twitter.com. Cyrchwyd 2019-06-05.
  13. Wieland: "Spitzenkandidat genie is well and truly out of the bottle", Euractiv 11 May 2016.
  14. Spitzenkandidat system here to stay, MEPs warn capitals, EU Observer 23 Ionawr 2018 (yn Saesneg).
  15. "Countdown to 2019 European Elections - The Malta Independent". Independent (yn Saesneg).
  16. EU chief Jean-Claude Juncker 'will not seek second term', BBC, 11 February 2017 (yn Saesneg).
  17. "Finland's fitness fiend ready for exhausting EU race". Financial Times (yn Saesneg). 2018-10-01. Cyrchwyd 2018-10-01.
  18. "Merkel backs Bavarian ally as center-right's EU Commission candidate: media | Reuters" (yn Saesneg). 2018-08-31. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-31. Cyrchwyd 2018-08-31.
  19. "Europe's conservatives nominate Manfred Weber for EU top job". POLITICO (yn Saesneg). 2018-11-08. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 November 2018. Cyrchwyd 2018-11-08.
  20. Slovakia's Sefcovic announces bid to head European Commission, Reuters 17 Medi 2018 (yn Saesneg)
  21. Juncker's Dutch deputy bids to succeed him as EU chief, Reuters 10 October 2018 (yn Saesneg)
  22. "Procedure for 2019 Green leading candidates". European Greens (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-21. Cyrchwyd 2018-09-29.
  23. 23.0 23.1 "Four Greens enter race to become European Green Party leading candidates". European Greens (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-21. Cyrchwyd 2018-09-29.
  24. "Oriol Junqueras elected as EFA Lead Candidate for European elections". European Free Alliance (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-05-05.
  25. "Junqueras chosen as EFA party candidate to head European Commission in upcoming election". Catalan News Agency (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-05-05.
  26. Leading liberals join EU election fray, Politico.EU, 19 April 2019
  27. Race is on for Commission president in 2019, Politico 13 February 2017
  28. "Macron ♥ Vestager" (yn Saesneg). 14 November 2017.
  29. The race to succeed Juncker begins, Euractiv 17 January 2018
  30. "European Left party elects two 'Spitzenkandidaten'". EUobserver (yn Saesneg). 28 January 2019. Cyrchwyd 30 January 2019.
  31. Piotr Kaczyński (18 February 2019). "The Five Star Movement's attempt to create a European Parliament group". Euractiv.com (yn Saesneg)./
  32. "German far Right rebuffs Steve Bannon's effort to forge Europe-wide populist movement". The Telegraph (yn Saesneg). Agence France-Presse. 11 August 2018. Cyrchwyd 9 September 2018.
  33. "Austria's far-right unwilling to collaborate with Bannon". The Times of Israel (yn Saesneg). Agence France-Presse. 12 September 2018. Cyrchwyd 19 September 2018.
  34. James, William (21 September 2018). "UKIP will not join Steve Bannon's anti-EU movement, says leader". Reuters (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 September 2018.
  35. Maïa de La Baume; Silvia Sciorilli Borrelli (5 March 2019). "Steve Bannon's stuttering European adventure". Politico.
  36. Daniel DePetris (6 March 2019). "How Steve Bannon tried – and failed – to crack Europe". Spectator (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-27. Cyrchwyd 2021-06-02.
  37. Adam Nossiter; Jason Horowitz (24 May 2019). "Bannon's Populists, Once a 'Movement,' Keep Him at Arm's Length". The New York Times (yn Saesneg).
  38. Alexander Sarti (8 April 2019). "European Alliance of Peoples and Nations: What we know so far". Europe Elects.
  39. 39.0 39.1 39.2 Maïa de La Baume (9 February 2018). "Macron's opening European gambit". Politico.
  40. Cécile Barbière (15 February 2018). "Macron's plans for a party in the European Parliament". Euractiv (yn Saesneg).
  41. Maïa de La Baume; Rym Momtaz. "Cash clash strains Macron's liberal love-in" (yn Saesneg).
  42. Aline Robert (10 May 2019). "Macron's Renaissance to reveal allies in Strasbourg". Euractiv.com.
  43. Aline Robert (15 May 2019). "Why centrists in European Parliament are prepared to drop the term 'liberal'". Euractiv.com.
  44. "The UK's European elections 2019". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-01-02.
  45. "European Spring" (yn Saesneg).
  46. Tobias Wilczek (10 June 2019). "Tobias Wilczek: Young people are exerting a greater influence on world politics". Vancouver Sun (yn Saesneg).
  47. "2019 European election results | European Parliament". European Parliament (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-02-12.
  48. "Volt wants to become the first pan-EU political party". The Economist. Cyrchwyd 2 November 2018.
  49. Lorène Weber (18 July 2019). "MEP Damian Boeselager: "We Need More Transnational Politics"". The New Federalist.
  50. "Movers and Shakers". The Parliament Magazine (yn Saesneg). 14 June 2019.
  51. "Présidence de la Commission européenne : revivez le débat des candidats sur France 24". france24.com. 17 April 2019. Cyrchwyd 17 April 2019.
  52. "EU Commission Clash: The Candidates' Debate - Part 1". france24.com. 17 April 2014. Cyrchwyd 17 April 2019.
  53. "EU Commission Clash: The Candidates' Debate - Part 2". france24.com. 17 April 2014. Cyrchwyd 17 April 2019.
  54. "The Maastricht Debate". Politico Europe. 29 April 2014. Cyrchwyd 29 April 2019.
  55. "The Florence Debate". European University Institute. 2 May 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 May 2019. Cyrchwyd 2 May 2019.
  56. "Wahlarena zur Europawahl - Europawahl 2019 - ARD | Das Erste". Das Erste (yn Almaeneg). Cyrchwyd 2019-05-07.
  57. "EBU - Eurovision Debate". European Broadcasting Union. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 June 2019. Cyrchwyd 6 May 2019.
  58. "TV-Duell und Schlagabtausch: Europawahl-Abend im ZDF: Was Sie wissen müssen". ZDF (yn Almaeneg). Cyrchwyd 2019-05-17.
  59. "Debat tussen Spitzenkandidaten Timmermans en Weber maandag bij Nieuwsuur". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-25. Cyrchwyd 2019-05-24.