Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, 2020

Cynhaliwyd Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau 2020 ar Ddydd Mawrth 3 Tachwedd 2020 i ethol Arlywydd ac Is-arlywydd Unol Daleithiau America. Hwn oedd y 59fed etholiad arlywyddol pedairblyneddol. Roedd pleidleiswyr yn dewis etholwyr arlywyddol a fydd yn eu tro yn pleidleisio ar 14 Rhagfyr 2020, fe wnaethant ethol arlywydd ac is-arlywydd newydd, Joe Biden a Kamala Harris, gan drechu'r deiliad Donald Trump a Mike Pence. Fe wnaeth enillwyr etholiad 2020 cael eu urddo ar Ionawr 20, 2021.[1]

Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, 2020
← 2016 3 Tachwedd 2020 2024 →

538 aelod o'r Coleg Etholiadol
270 pleidlais i ennill
Y nifer a bleidleisiodd66.2% (amcangyfrif)
 
Nominee Joe Biden Donald Trump
Plaid Democratiaid Gweriniaethwyr
Home state Delaware Florida
Partner Kamala Harris Mike Pence
Projected electoral vote 306 232
States carried 25 + DC + NE-02 25 + ME-02
Poblogaidd boblogaith 81,268,924 74,216,154
Canran 51.3% 46.8%

CaliforniaOregonWashington (state)IdahoNevadaUtahArizonaMontanaWyomingColoradoNew MexicoNorth DakotaSouth DakotaNebraskaKansasOklahomaTexasMinnesotaIowaMissouriArkansasLouisianaWisconsinIllinoisMichiganIndianaOhioKentuckyTennesseeMississippiAlabamaGeorgiaFloridaSouth CarolinaNorth CarolinaVirginiaWest VirginiaDosbarth ColumbiaMarylandDelawarePennsylvaniaNew JerseyNew YorkConnecticutRhode IslandVermontNew HampshireMaineMassachusettsHawaiiAlaskaDosbarth ColumbiaMarylandDelawareNew JerseyConnecticutRhode IslandMassachusettsVermontNew Hampshire
Y map etholiadol ar gyfer etholiad 2020, yn seiliedig ar boblogaethau Cyfrifiad 2010.

Arlywydd cyn yr etholiad

Donald Trump
Gweriniaethwyr

Etholwyd Arlywydd

Joe Biden
Democratiaid

Lansiodd Donald Trump, y 45fed ac Arlywydd presennol, ymgyrch ail-ddewis ar gyfer y Gweriniaethwyr; fe wnaeth sawl sefydliad Plaid Weriniaethol y wladwriaeth canslo eu etholiadau mewn cefnogaeth i'w ymgeisyddiaeth. Daeth yn enwebai tybiedig ym mis Mawrth 2020.[2]

Lansiodd 27 o ymgeiswyr ymgyrchoedd ar gyfer yr enwebiad Democrataidd, a ddaeth yn faes mwyaf yr ymgeiswyr i unrhyw blaid wleidyddol yng ngwleidyddiaeth fodern America. Ym mis Ebrill 2020, daeth y cyn Is-lywydd Joe Biden yn enwebai tybiedig ar ôl curo’r Seneddwr Bernie Sanders.[3]

Dewiswyd Biden Kamala Harris ar yr 11 Awst 2020 i fod yn ymgeisydd ar gyfer fod yn Is-arlywydd America. Pan gafwyd ei hethol hi oedd yr Is-Arlywydd benywaidd cyntaf yn ogystal â'r cyntaf o dras Affricanaidd a De Asia Americanaidd.[4]

Biden a Trump yn y drefn honno yw'r enwebion arlywyddol hynaf ac ail-hynaf yn hanes yr Unol Daleithiau; ac os oedd y naill neu'r llall yn cael eu hethol a'u urddo, nhw hefyd oedd yr arlywydd hynaf sy'n gwasanaethu gan dybio eu bod yn gwasanaethu eu tymor llawn.[5]

Materion golygu

Prif faterion yr etholiad oedd effaith y pandemig COVID-19 parhaus, a laddodd dros 220,000 o Americanwyr; protestiadau mewn ymateb i ladd George Floyd ac Americanwyr duon eraill; marwolaeth barnwr y Llys Goruchaf Ruth Bader Ginsburg ac enwebu Amy Coney Barrett, a’r Ddeddf Gofal Fforddiadwy, gyda Biden eisiau ei amddiffyn a’i ehangu a Trump yn pwyso am ddod â hi i ben.

Cyfri'r pleidleisiau golygu

Oherwydd y pandemig coronafirws annogwyd pleidleiswyr Democrataidd i bleidleisio yn gynnar a drwy'r post yn hytrach nac ar y diwrnod. Mewn rhai taleithiau nid oedd yn bosib cyfrif y papurau pleidleisio hynny cyn i ddiwrnod yr etholiad orffen. Roedd miliynau o bleidleisiau i'w cyfri a cymerodd hyn drwy'r wythnos i'w cyfri a gwirio. Cyfrifiwyd pleidleisiau a fwriwyd ar y diwrnod i ddechrau, a roedd mwyafrif y rheiny ar gyfer yr Arlywydd Trump. Felly roedd Trump i weld yn arwain y ras mewn sawl talaith nes i'r pleidleisiau post gael eu cyfri.[6]

Bu llawer o oedi wrth gyfrif y pleidleisiau, am nifer o resymau, gan gynnwys y nifer uchel a bleidleisiodd, cyfran uchel o bleidleisiau post a chanlyniadau agos iawn mewn rhai ardaloedd. Wrth i'r pleidleisiau post gael eu cyfri a rhifau Biden gynyddu, gwnaeth Trump sawl honiad o 'dwyll etholiadol' er na chyflwynodd unrhyw dystiolaeth o hyn. Bygythiodd gymeryd camau cyfreithiol mewn sawl talaith lle nad oedd yn ennill y ras.[7]

 
Donald Trump yn dweud yn anghywir ar Drydar ei fod wedi ennill.

Erbyn prynhawn ddydd Sadwrn, 7 Tachwedd 2020 daeth cyhoeddiad am bleidleisiau a gyfrwyd yn Philadelphia, Pennsylvania. Cyfrifwyd felly fod Biden a Harris wedi ennill y dalaith gyda mwyafrif o dros 0.5%. Datganodd y cyfryngau a dadansoddwyr ystadegol fod Biden wedi ennill digon o bleidleisiau ac felly wedi sicrhau dros 270 pleidlais yn y coleg etholiadol.[8] Er hynny ni ildiodd Trump, a parhaodd i ddadlau ei fod wedi 'ennill' yr etholiad[9] er bod gwleidyddion ar draws y byd wedi llongyfarch Biden.[10] Dywedodd Biden fod ennill yn anrhydedd ac y byddai'n ceisio uno'r wlad.[8]

Cyflwynwyd nifer o heriau cyfreithiol i'r canlyniadau gan Trump, gydag achos yn cael ei chyflwyno i'r Llys Goruchaf yr UDA. Methodd pob achos oherwydd diffyg tystiolaeth gan sicrhau llwybr clir i Biden i'r Arlywyddiaeth.[11]

Ardystio pleidleisiau'r Coleg Etholiadol golygu

 
Nwy dagrau yn cael ei ddefnyddio yn erbyn protestwyr y tu allan i adeilad y Capitol.

Ardystiwyd canlyniadau'r etholiad ym mhob talaith ac ardal DC erbyn 9 Rhagfyr. Ar 14 Rhagfyr 2020, daeth cadarnhad o'r canlyniad wrth i'r coleg etholiadol bleidleisio, gyda pob talaith yn cyfarfod i gyfri pleidleisau eu etholwyr. Cadarnahwyd fod Joe Biden wedi cael 306 pleidlais a Donald Trump wedi cael 232. Bydd y canlyniad yn cael ei ddanfon ymlaen i'r Gyngres ar 6 Ionawr 2021.[12] Mae Biden a Harris wedi’u hamserlennu i'w gael eu hurddo ar 20 Ionawr, 2021.[13]

Mewn cyfarfod o Gyngres yr Unol Daleithiau ar 6 Ionawr 2021, y bwriad oedd casglu a chyfri'r pleidleisiau gan etholwyr bob talaith, er fod disgwyl i sawl aelod o'r Gweriniaethwyr i wrthod pleidleisiau rhai taleithiau. Yn gynharach yn y diwrnod, roedd yr Arlywydd Trump wedi annerch torf o'i gefnogwyr o flaen y Tŷ Gwyn, a'i annog i orymdeithio i adeilad Capitol Hill i brotestio mai fod yr Etholiad yn 'dwyll' ac mai ef oedd yn fuddugol. Tra fod y Gyngres yn cyfarfod, llwyddodd nifer o gefnogwyr Trump i dorri fewn a meddiannu adeilad y Capitol, gan falurio swyddfeydd y Seneddwyr. Symudwyd y gwleidyddion a'i staff i lefydd diogel. Bu farw un fenyw yn y gwrthdaro gyda'r heddlu a phedwar person arall o “argyfyngau meddygol”, gan gynnwys swyddog heddlu.[14][15]

Yn ddiweddarach, wedi i'r heddlu a swyddogion arfog gael y sefyllfa dan reolaeth, dychwelodd y gwleidyddion i'r Gyngres, gan gyfri gweddill y pleidleisiau a chymeradwyo etholiad Joe Biden fel yr Arlywydd nesaf.[16]

Ymgyrch etholiadol 2020
 
Logo ymgyrch Donald Trump a Mike Pence
Logo ymgyrch Donald Trump a Mike Pence 
 
Logo ymgyrch Joe Biden a Kamala Harris
Logo ymgyrch Joe Biden a Kamala Harris 
 
Pencadlys Trump yn Ohio
Pencadlys Trump yn Ohio 
 
Biden yn ymgyrchu yn Iowa yn ystod cyfnod dewis ymgeisydd ar gyfer ei blaid
Biden yn ymgyrchu yn Iowa yn ystod cyfnod dewis ymgeisydd ar gyfer ei blaid 

Urddo Biden ac Harris golygu

 
Biden yn cymeryd y llw

Digwyddodd urddo Joe Biden fel 46ain arlywydd yr Unol Daleithiau ar 20 Ionawr 2021. Dyma ddechrau tymor pedair blynedd Joe Biden fel arlywydd a Kamala Harris yn is-Arlywydd.[17]

Digwyddodd seremoni gyhoeddus ar Ffrynt Orllewinol Adeilad y Capitol yr Unol Daleithiau yn Washington, D.C. Dyma'r 59fed urddo arlywyddol.

Cymerodd Biden y llw fel arlywydd y diwrnod hwnnw a chymerodd Harris y llw fel is-Arlywydd.

Rhoddodd y Prif Farnwr John Roberts lw Biden a rhoddodd yr ynad Sonia Sotomayor lw i Harris.

Ni wnaeth yr Arlywydd blaenorol, Donald Trump, mynychu gan dorri draddodiad 152 mlwydd oed. Ond roedd yr Is-Arlywydd blaenorol Mike Pence a'i wraig Karen Pence yn bresennol.[18]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "All you need to know about US election". BBC News (yn Saesneg). 2020-05-19. Cyrchwyd 2020-07-29.
  2. "Etholiad yn dod ar yr amser anghywir i Donald Trump?". Golwg360. 2020-07-26. Cyrchwyd 2020-07-29.
  3. "Joe Biden yn ennill cefnogaeth yn etholiad De Carolina". Golwg360. 2020-03-01. Cyrchwyd 2020-07-29.
  4. "Y ddynes groenddu Kamala Harris fyddai Dirprwy Arlywydd Joe Biden". Golwg360. 2020-08-12. Cyrchwyd 2021-06-11.
  5. Alter, Charlotte (2020-05-13). "How old should a president be?". Vox (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-07-29.
  6. "Joe Biden gam yn nes at hawlio buddugoliaeth yn yr etholiad arlywyddol". Golwg360. 2020-11-05. Cyrchwyd 2020-11-07.
  7. Donald Trump yn dweud bod yr etholiad “ymhell o fod drosodd” , Golwg360, 7 Tachwedd 2020.
  8. 8.0 8.1 "Joe Biden yw enillydd ras arlywyddol yr Unol Daleithiau". Golwg360. 2020-11-07. Cyrchwyd 2020-11-07.
  9. "Donald Trump yn dweud bod yr etholiad "ymhell o fod drosodd"". Golwg360. 2020-11-07. Cyrchwyd 2020-11-07.
  10. "US election results: World leaders react to news that Joe Biden will be the next president". Sky News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-07.
  11. "Goruchaf Lys America'n gwrthod apêl Trump". Golwg360. 2020-12-12. Cyrchwyd 2021-01-05.
  12. Electoral college confirms Joe Biden's presidential victory (en) , BBC News, 14 Rhagfyr 2020.
  13. "Canlyniad etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau'n dal i hollti barn y Gweriniaethwyr". Golwg360. 2021-01-02. Cyrchwyd 2021-01-05.
  14. Washington: Pedwar wedi marw mewn protestiadau treisgar gan gefnogwyr Trump , Golwg360, 7 Ionawr 2021.
  15. "Swyddog yr heddlu gafodd ei anafu yn ystod terfysgoedd Washington wedi marw". Golwg360. 2021-01-08. Cyrchwyd 2021-01-09.
  16. Donald Trump yn addo “trosglwyddiad trefnus” o’r awenau i’r darpar Arlywydd Joe Biden , Golwg360, 7 Ionawr 2021.
  17. "Joe Biden wedi ei urddo'n Arlywydd yr Unol Daleithiau". Golwg360. 2021-01-20. Cyrchwyd 2021-06-11.
  18. Fortin, Jacey (2021-01-19). "Trump Is Not the First President to Snub an Inauguration". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2021-06-11.