Etholiadau cyffredinol Denmarc 2019

Cynhaliwyd etholiadau cyffredinol yn Nenmarc ar 5 Mehefin 2019 i ethol pob un o'r 179 aelod o Llyodraeth Denmarc (Y Folketing) [1] 175 yn Nenmarc, dau yn yr Ynysoedd Faroe a dau yn yr Ynys Las . Cynhaliwyd yr etholiadau ddeng niwrnod ar ôl etholiadau Senedd Ewrop . [2]

Mette Frederiksen bydd Prif Weinidog nesaf Denmarc

Arweiniodd yr etholiadau at fuddugoliaeth i'r "bloc coch", sydd yn cynnwys partïon sydd yn cefnogi Mette Frederiksen arweinydd y Democratiaid Cymdeithasol fel ymgeisydd ar gyfer y Prif Weinidog. Enillodd y "bloc coch" 93 o'r 179 sedd, gan sicrhau mwyafrif seneddol. Yn y cyfamser, gostyngwyd y glymblaid lywodraethol bresennol i 76 sedd.

Ar 6 Mehefin 2019, cyflwynodd y Prif Weinidog Lars Løkke Rasmussen ei ymddiswyddiad i'r Frenhines Margrethe II, gan ganiatáu iddi benodi Frederiksen i ffurfio llywodraeth newydd. [3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Denmark's prime minister calls election to be held on June 5 Reuters, 7 May 2019
  2. Lindqvist, Andreas (7 May 2019). "EP-spidskandidater uenige: Er Folketingsvalgkamp godt eller skidt for EU-debatten?". DR (yn Danish). Cyrchwyd 7 May 2019.CS1 maint: unrecognized language (link)
  3. "Denmark's PM Lars Loekke Rasmussen resigns after election disappointment". CBC. 6 June 2019. Cyrchwyd 6 June 2019.