Eva Gore-Booth

llenor ac ymgyrchydd Gwyddelig (1870-1926)

Ffeminist o Iwerddon oedd Eva Gore-Booth (22 Mai 1870 - 30 Mehefin 1926) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, chwyldroadwr, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched a dramodydd.[1]

Eva Gore-Booth
GanwydEva Selina Laura Gore-Booth Edit this on Wikidata
22 Mai 1870 Edit this on Wikidata
Swydd Shligigh Edit this on Wikidata
Bu farw30 Mehefin 1926 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Galwedigaethbardd, chwyldroadwr, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, ymgyrchydd dros hawliau merched, dramodydd, ysgrifennwr, swffragét, golygydd Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolByddin Dinasyddion Iwerddon Edit this on Wikidata
TadHenry Gore-Booth Edit this on Wikidata
MamGeorgina Mary Hill Edit this on Wikidata
PriodEsther Roper Edit this on Wikidata
PartnerEsther Roper Edit this on Wikidata

Ganed Eva Selina Laura Gore-Booth mewn plasty o'r enw "Lissadell House" yn Swydd Sligo (Gwyddeleg: Contae Shligigh), Iwerddon ar 22 Mai 1870. Roedd yn chwaer iau i Constance Gore-Booth, a adnabyddid, yn ddiweddarach, fel yr Iarlles Markievicz.[2][3][4][5][6]

Teulu golygu

Ganwyd Eva Selina Gore-Booth yn Sir Sligo, Iwerddon, i Syr Henry a'r Fonesig Georgina Gore-Booth o Lissadell. Hi oedd y trydydd o bump o blant a anwyd i'r 5ed Barwnig a'i wraig a'r cyntaf o'i brodyr a'i chwiorydd i'w geni yn Lissadell House. Hi a'i brodyr a'i chwiorydd, Josslyn Gore-Booth (1869–1944), Constance Georgine Gore-Booth (1868–1927), Mabel Gore-Booth (1874–1955), a Mordaunt Gore-Booth (1878–1958), oedd y trydydd cenhedlaeth o Gore-Booths yn Lissadell. Adeiladwyd y tŷ ar gyfer ei thaid tad-cu, Syr Robert Gore-Booth, 4ydd Barwnig, rhwng 1830 a 1835, ac roedd tair cenhedlaeth o Gore-Booths yn byw yno yn ystod plentyndod Eva, gan gynnwys ei thad-cu a'r Foneddiges Frances Hill.

Roedd gan Eva a Constance sawl governess drwy gydol eu plentyndod, y mwyaf dylanwadol oedd Miss Noel a gofnododd y rhan fwyaf o'r hyn sy'n hysbys am fywyd cynnar Eva. Dysgodd Ffrangeg, Almaeneg, Lladin a Groeg a datblygodd gariad at farddoniaeth a fagwyd ynddi gan ei mam-gu. Cafodd Eva ei brifo gan y gwrthgyferbyniad llwyr rhwng bywyd breintiedig ei theulu a'r tlodi y tu allan i Lissadell, yn enwedig yn ystod gaeaf y Newyn Iwerddon (1879) pan fyddai tenantiaid newynog yn dod i'r tŷ yn ymbilio am fwyd a dillad. Yn ddiweddarach, dywedodd Esther Roper fod Eva "yn dioddef dioddefaint y byd a bod ganddi deimlad chwilfrydig o gyfrifoldeb am ei anghydraddoldebau a'i anghyfiawnderau."[7]

Roedd tad Eva yn fforiwr Arctig nodedig ac yn ystod cyfnod opan oedd yn absennol o'r ystâd yn y 1870au, sefydlodd ei mam, yr Arglwyddes Georgina, ysgol wnio i fenywod yn Lissadell. Cafodd y merched eu hyfforddi mewn gwaith crosio, brodwaith a thrwsio ac roedd gwerthu eu nwyddau yn eu galluogi i ennill cyflog o 18 swllt yr wythnos. Cafodd y fenter hon ddylanwad mawr ar Eva a'r merched, etholfraint ac ar undebaeth lafur.

Teithio golygu

Ym 1894, ymunodd Eva â'i thad ar ei deithiau o amgylch Gogledd America ac India'r Gorllewin. Cadwodd ddyddiaduron a dogfennodd y teithiau i Jamaica, Barbados, Cuba, Florida, New Orleans, St Louis, San Francisco, Vancouver, Toronto, Niagara, Montreal a Quebec. Ar ôl dychwelyd i Iwerddon cyfarfu â'r bardd W. B. Yeats am y tro cyntaf. Y flwyddyn dychwelodd ar gwch i Ewrop, gyda'i mam, ei chwaer Constance, a'i ffrind Rachel Mansfield ond yn Fenis, bu'n sâl gydag anhwylder yr ysgyfaint. Yn 1896, wrth ail-wella yn y fila yr awdur George MacDonald a'i wraig yn Bordighera, yr Eidal, cyfarfu ag Esther Roper, y fenyw o Loegr a fyddai'n dod yn gydymaith gydol oes iddi.

Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Fyddin Dinasyddion Iwerddon.

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o'r Undeb Cenedlaethol dros yr Hawl i Fenywod Bleidleisio am rai blynyddoedd. [8]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gore-Booth, Eva, The one and the many, London: Longmans, Green & Co., 1904. Copy with hand-painted illustrations by Constance Markievicz [née Gore-Booth] held in the Manuscripts & Archives Research Library, The Library of Trinity College Dublin. Available in digital form on the Digital Collections website.
  2. Cyffredinol: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  3. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  4. Dyddiad geni: "Eva Gore-Booth". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Eva Gore-Booth". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/. "Eva Selina Gore- Booth".
  5. Dyddiad marw: "Eva Gore-Booth". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Eva Gore-Booth". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Eva Selina Laura Gore-Booth". The Peerage. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/. "Eva Selina Gore- Booth".
  6. Mam: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
  7. James, Dermot (2004). The Gore-Booths of Lissadell. Dublin: Woodfield Press. tt. 205. ISBN 978-0-9534293-8-7.
  8. Galwedigaeth: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.