Evan Evans (Evans Bach Nantyglo)

gweinidog gyda'r Annibynwyr ac awdur

Roedd Evan Evans (Evans Bach Nantyglo) (8 Mawrth, 180429 Hydref, 1886) yn weinidog gyda'r Annibynwyr ac awdur Cymreig.[1]

Evan Evans
Ganwyd8 Mawrth 1804 Edit this on Wikidata
Llanddewi Brefi Edit this on Wikidata
Bu farw29 Hydref 1886 Edit this on Wikidata
Curtis Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, ysgrifennwr, athro Edit this on Wikidata
PlantBeriah Gwynfe Evans Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Evans yn ffermdy o'r enw Gellillyndu, Llanddewibrefi, Ceredigion yn blentyn i Evan Davies ac Elinor Daniel, ei wraig. Roedd y teulu yn un efo gwreiddiau dwfn yn hanes Anghydffurfiaeth Gymreig. Roedd y ddau riant wedi bod yn aelodau o gynulleidfa Daniel Rowlands ac roedd ei daid tadol wedi mynychu'r gyfeillach gyntaf erioed a gynhaliwyd gan Rowlands yn eglwys Llangeitho. Daeth teulu ei fam dan ddylanwad Piwritaniaeth trwy weinidogaeth Walter Caradog yn gynnar yn y 17 ganrif.[2] Pan oedd Evans yn faban ifanc cafodd y frech wen a achosodd iddo golli golwg mewn un llygad. Ac eithrio dysgu darllen cartref ac yn yr ysgol Sul ni chafodd unrhyw addysg ffurfiol, er hynny bu yn ddarllenwr medrus o oedran ifanc iawn, bu hynny'n moddion iddo hunan addysgu. Ymunodd â Eglwys Llangeitho pan oedd yn wyth mlwydd oed.

Gyrfa golygu

Yn ôl arfer y dyddiau cyn daeth mynychu ysgol yn orfodol, dechreuodd Evans gynorthwyo ar fferm ei dad o'i blentyndod. Ym 1824, pan oedd yn 20 ymadawodd a'r fferm deuluol gan symud i Bont-y-pŵl i gadw ysgol. Dim ond flwyddyn bu yno cyn i afiechyd difrifol ei orfodi i ddychwelyd adref i gael adferiad. Tra ei fod adref bu gweinidogion y cylch yn ymweld ag o yn rheolaidd, rhag ofn ei fod yn ei gystudd olaf, ac yn synnu o gwrdd â dyn ifanc heb addysg ffurfiol a oedd yn ddigon hunan addysgedig i gynnal ysgol. Awgrymwyd iddo y dylid defnyddio ei ddoniau naturiol i bregethu. Dechreuodd bregethu yn Llangeitho tua 1825.

Wedi adferiad ei iechyd symudodd Evans yn ôl i Went gan ail agor ei ysgol yn y Goetre Fawr, lle fu tua dwy flynedd cyn symud ei ysgol i Nant-y-glo. Ychydig wedi symud i Nant-y-glo derbyniwyd Evans yn aelod o Gymdeithasfa Methodistiaid Calfinaidd Sir Fynwy ym 1830.

Roedd Evans yn gefnogwr brwd i fudiad yr ysgol Sul ac i roi addysg ddyddiol i blant, gan olygu'r cyhoeddiad misol, Cyfaill Plant, o 1835. Ar ôl 1830 daeth yn un oedd yn llwyr ymwrthod a'r ddiod gadarn ac roedd yn eiriolwr pwerus dros yr achos dirwest gan ddioddef erledigaeth gan rai oherwydd ei farn.[3]

Roedd bod yn aelod o Gymdeithasfa yn caniatáu i bregethwr mynd ar deithiau pregethu y tu allan i'w fro ei hun. Galliasai teithiau pregethu bod yn gostus ofnadwy. Roedd rhaid talu am gadw a bwydo ceffyl ac, oni bai bod dyn ag incwm annibynnol neu'n eiddo ar fusnes teuluol megis fferm neu siop, roedd rhaid cael arian i dalu am gadw teulu. Roedd disgwyl i gefnogwyr, capeli a chymdeithasfaoedd yr ardaloedd ymwelodd pregethwr iddi ddigolledu'r pregethwyr. Oherwydd nad oedd gan Evans incwm neu fodd i godi arian yn annibynnol tra ar daith, bu anghydfod aml rhyngddo a chynrychiolwyr y capeli am faint ei dreuliau, gyda rhai yn ei gyhuddo o dwyllo wrth wneud hawliadau am ddigolledon.[4] Bu hefyd cyhuddiadau yn ei erbyn o gam drin eiddo'r gymdeithasfa at ei fuddion ei hun.[5]

Wedi cael llond bol o gwynion am dreuliau fel pregethwr teithiol, ymadawodd Evans a'r Methodistiaid ac ymuno â'r Annibynwyr. Ymunodd ag Eglwys yr Annibynwyr yng Nghendl, Sir Frycheiniog ym 1847. Ym 1852 derbyniodd alwad i fod yn weinidog cyflogedig yn Llan-giwg, ger Pontardawe. Symudodd i fod yn weinidog ar gynulleidfaoedd Rhisga a Machen, rhwng 1857 a 1860, a oedd yn cwrdd mewn annedd dai. Goruchwyliodd adeiladu capel newydd ar eu cyfer. Wedi sicrhau agor y capel newydd aeth yn ôl i ddysgu llawn amser yn Nant-y-glo, yn bennaf er mwyn rhoi cyfle i'w meibion dod yn ddisgybl athrawon (athrawon dan hyfforddiant mewn ysgol) iddo.[6]

Ym 1837 aeth tad a rhai o frodyr a chwiorydd Evans i America. Gan fod ei blant bellach wedi tyfu fyny a mynd allan i'r byd penderfynodd Evans i ymuno â hwy ym 1869.[7] Sefydlodd ei hun yn Oak Hill, Ohio. Wedi cyrraedd cafodd cynnig bod yn weinidog ar gapel mawr y ddinas a chapeli eraill yn Jackson County, ond gwrthododd derbyn y cyfan, er hynny bu'n teithio i bregethu yng nghapeli pob enwad anghydffurfiol yn y sir a llefydd cyfagos.

Yn Oak Hill bu Evans yn byw drws nesaf i Margaret ei ferch a'i gŵr, John Hutchings (Carodog Gwent), baswr lled enwog yn ei fro.[8] Symudodd y teulu Hutchings i Curtis, Clark County, Arkansas tua diwedd y 1870au. Ym 1881 aeth gwraig Evans yn ddifrifol wael a symudodd y cwpl i Curtis er mwyn i Margaret roi gofal iddi. Gan nad oedd capel Cymraeg yn Nhalaith Arkansas, sefydlodd Evans un yn Curtis a fu'n weinidog arni hyd ei farwolaeth.

Cyhoeddiadau golygu

Bu Evans yn gyfrannwr cyson i'r cylchgronau Cymraeg yng Nghymru a'r America. Cyhoeddodd hefyd nifer o lyfrau gan gynnwys:

  • 1833 Y Cyfammod Gweithredoedd
  • 1833 Rhodd Mam i'w phlentyn
  • 1842 Ffordd Duw yn y Cyssegr a'r Môr, crynhoad o amryw bregethau
  • 1843 Tystiolaeth Ostyngedig i Ddaioni a Thoster Duw, cyfieithiad o lyfr gan John Owen, D.D.
  • 1845 Corff Duwinyddiaeth sef Golwg Gryno ar Grefydd Naturiol a Datguddiedig, cyfieithiad o A compendious view of Natural and Revealed Religion, John Brown
  • 1847 Arweinydd i iawn ddeall ymadroddion Duw neu Allwedd i'r Bibl, cyfieithiad o A brief concordance to the Holy Scriptures, John Brown
  • 1847 Prawf o Gynnydd y Cristion, cyfieithiad o The Tryall of a Christian's Growth, Thomas Goodwin
  • 1849 Codiad a Chwymp Pabyddiaeth, cyfieithiad o The Rise and Fall of Papacy, Robert Fleming
  • 1862 Crefydd Gymdeithasol, cyfieithiad o Social Religion exemplify'd, Mathias Maurice,
  • 1865 a 1866 Athrawiaeth a Dyledswydd, dwy gyfrol o bregethau

Ar adeg ei farwolaeth roedd ar ganol ysgrifennu hunangofiant Adgofion Pedwar Ugain Mlynedd. Cyhoeddwyd yr hyn roedd wedi llwyddo gwneud yng nghylchgrawn ei fab Cyfaill yr Aelwyd.[9]

Teulu golygu

Ym mis Mawrth 1830 priododd Evans a Mary William Valentine, y Goetre, bu iddynt saith o blant. Mab iddynt oedd Beriah Gwynfe Evans yr awdur, dramodydd, newyddiadurwr a gwleidydd.[10]. Eu mab ieuengaf oedd y traethodydd Joshua Evans (Alltud Gwent).[11]

Marwolaeth golygu

Bu farw Mary Evans yn Curtis, Arkansas ym mis Ionawr 1886 a bu Evan Evans marw ychydig ar ei hôl ym mis Hydref yr un flwyddyn.[12]

Cyfeiriadau golygu

  1. EVANS, EVAN (1804 - 1886), gweinidog gyda'r Annibynwyr ac awdur. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 7 Meh 2020
  2. "Y DIWEDDAR BARCH EVAN EVANS NANT-Y-GLO - Y Dydd". William Hughes. 1886-11-26. Cyrchwyd 2020-06-06.
  3. Evans, Evan (called Evans Bach Nantyglo) (1804-1886), Congregational minister. Oxford Dictionary of National Biography. Adalwyd 6 Mehefin 2020
  4. Y Tyst a'r Dydd 19 Tachwedd 1886 - Ymyl y Ffordd - Y Parch Evan Evans, Nantyglo adalwyd 7 Mehefin 2020
  5. Seren Gomer Cyf. XXXII - Rhif. 403 - Ebrill 1849 EVAN EVANS, NANTYGLO, A'R TREFNYDDION CALFINAIDD (llythyr gan Evans yn amddiffyn ei hun rhag y cyhuddiadau) adalwyd 7 Mehefin 2020
  6. "Y DIWEDDAR BARCH EVAN EVANS NANT-Y-GLO - Y Dydd". William Hughes. 1886-12-03. Cyrchwyd 2020-06-07.
  7. "Y PARCH EVAN EVANS - Y Dydd". William Hughes. 1869-11-12. Cyrchwyd 2020-06-07.
  8. Cyfrifiad yr UD ar gyfer 1870 Census Place: Jefferson, Jackson, Ohio; Roll: M593_1226; Page: 110A; Family History Library Film: 552725
  9. Cyfaill yr aelwyd papyr wythnosol at wasanaeth orieu hamddenol y teulu Cyf. V Rhif. 12 - Medi 1885 ADGOFION PEDWAR UGAIN MLYNEDD GYFNEWIDIADAU YN Y BYD CELFYDDYDOL, CYMDEITHASOL, A CHREFYDDOL gan Y PARCH. EVAN EVANS (NANTYGLO). adalwyd 7 Mehefin 2020
  10. Evans, Beriah Gwynfe (1848 - 1927), newyddiadurwr a dramodydd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 7 Meh 2020
  11. "DEATH OF ALLTYD GWENT AT LLANELLY - The Cambrian". T. Jenkins. 1908-06-26. Cyrchwyd 2020-06-07.
  12. "DEATH OF EVANS NANTYGLO - South Wales Echo". Jones & Son. 1886-11-19. Cyrchwyd 2020-06-07.