Evan James Williams

gwyddonydd

Ffisegydd o Gwmsychbant ger Llanwenog, Ceredigion, oedd Evan James Williams (8 Mehefin 190329 Medi 1945). Codwyd cofeb iddo ar y tŷ lle'i ganed gan y Sefydliad Ffiseg. Aeth i'r coleg i Abertawe, a'i ddoethuriaeth wedyn ym Manceinion gan ymchwilio i wasgariad Pelydr-X. Yn ôl Syr John Meurig Thomas Williams oedd "un o'r bobl mwyaf galluog a gynhyrchodd Cymru erioed".

Evan James Williams
Ganwyd8 Mehefin 1903 Edit this on Wikidata
Cwmsychbant Edit this on Wikidata
Bu farw1945 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethffisegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Yn Labordy Cavendish bu'n gweithio gydag Ernest Rutherford. Cyflwynodd dystiolaeth o ragdybiaethau theori cwantwm. Fe'i penodwyd i Brifysgol Lerpwl ac yn 1938 daeth yn Athro Ffiseg yn Aberystwyth. Yn dilyn datblygiadau pwysig ym maes ffiseg gronynnau, ac yn dilyn darganfod y pi-on gan Hideki Yukawa, ceisiodd Williams brofi eu bodolaeth. Yn 1940 profodd fod y gronyn yn dadelfennu (ac mae'n cael ei adnabod bellach fel 'mwon'). Cynhaliwyd yr arbrofion hyn mewn seler yn yr Hen Goleg, Aberystwyth.

Yn ystod y rhyfel arbrofodd gyda dyfnder ffrwydro bomiau llongau tanfor.

Bu farw o gancr yn ddim ond 42 oed.