Evan Richards

chwarewr rygbi'r unded

Roedd Evan Sloane Richards (23 Ionawr 1862 - 19 Ebrill 1931) yn flaenwr rygbi rhyngwladol Cymreig a chwaraeodd rygbi clwb i Abertawe, gan wasanaethu fel capten ar y clwb trwy dri thymor yn ystod yr 1880au.

Evan Richards
Enw llawn Evan Sloane Richards
Dyddiad geni (1862-01-23)23 Ionawr 1862
Man geni Abertawe
Dyddiad marw 19 Ebrill 1931(1931-04-19) (69 oed)
Lle marw Llandaff
Gwaith Peiriannydd Mwyngloddio
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle Blaenwr
Clybiau amatur
Blynyddoedd Clwb / timau
Clwb Rygbi Abertawe
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
1885-1887 Cymru 2 (0)

Cefndir golygu

Tad Richards oedd Aelod Seneddol Ceredigion, Evan Matthew Richards. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Clifton, Bryste. Wrth ei waith pob dydd roedd yn beiriannydd mwyngloddio ac yn rheolwr a chyfarwyddwr cwmnïau pwll glo. Ym 1899 priododd Catherine Margaret Morgan merch Mathew Wayne Morgan, Pontypridd.[1]

Gyrfa rygbi golygu

Daeth Richards i amlygrwydd gyntaf yn y byd rygbi fel chwaraewr clwb i Abertawe. Cyn cael ei ddewis i gynrychioli tîm Cymru, fe’i gwnaed yn gapten Abertawe yn nhymor 1883/84. Y tymor nesaf cafodd Richards ei gapio dros Gymru yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Gwledydd Cartref, 1885 yn erbyn Lloegr.[2] O dan gapteniaeth Charlie Newman o Gasnewydd, collodd Cymru’r ornest o dri chais a chollodd Richards ei le ar gyfer y gêm nesaf.

Bu Richards eto'n gapten Abertawe yn nhymor 1886/87, a dyfarnwyd ei ail gap a'i olaf iddo yng ngêm yr Alban ym Mhencampwriaeth y Gwledydd Cartref 1887. Curwyd Cymru’n drwm mewn gêm unochrog, a chollodd Richards ei le i Edward Alexander. Byddai Richards yn gapten ar Abertawe yn nhymor 1887/88, ac yn ystod 1888, bu'n ddyfarnwr mewn dwy gêm yn nhaith tîm Māori Seland Newydd o amgylch Ewrop sef y gemau yn erbyn Caerdydd a Chasnewydd.

 
Tîm Cymru v Lloegr 1885 efo Richards yn sefyll yn y rhes gefn

Gemau rhyngwladol wedi'u chwarae golygu

Cymru [3]

Yn ogystal â chwarae rygbi bu Richards hefyd yn chware criced i dimau Clifton (Caerdydd) ac Abertawe, ac yn chware tenis.

Llyfryddiaeth golygu

  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau golygu

  1. "AFashionableWeddingatrid - Glamorgan Free Press". Glamorgan Free Press. 1899-09-23. Cyrchwyd 2019-08-16.
  2. "THEWELSHFOOTBALLTEAM - South Wales Echo". Jones & Son. 1885-01-12. Cyrchwyd 2019-08-16.
  3. Smith (1980), pg 471.