Ewias

cwmwd canoloesol ac arglwyddiaeth yn ne-ddwyrain Cymru

Cwmwd canoloesol ac arglwyddiaeth yn ne-ddwyrain Cymru oedd Ewias (Ewyas mewn ffynonellau Saesneg; Ewias Lacy yn nes ymlaen). Mae ei hanes cynnar yn dywyll ac mae barn haneswyr yn rhanedig, ond mae'n bosibl y bu'n un o deyrnasoedd cynnar Cymru. Mae rhai haneswyr yn dadlau y cafodd Ewias ei sefydlu fel mân deyrnas ar ddiwedd cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru, sef tua dechrau'r 5g OC, ond barn y mwyafrif yw mai is-deyrnas neu arglwyddiaeth o fewn teyrnas Gwent oedd Ewias o'r cychwyn cyntaf. Erbyn yr Oesoedd Canol roedd Ewias yn gwmwd - yn cynrychioli tiriogaeth llai na'r deyrnas wreiddiol dybiedig efallai, a dan reolaeth teyrnas Gwent. Roedd y cwmwd yn cynnwys Dyffryn Ewias (yn Sir Fynwy heddiw) ac ardal helaethach, i'r dwyrain, sy'n gorwedd yn Swydd Henffordd yn Lloegr heddiw: roedd yr ardal olaf yn cynnwys pentrefi Ewyas Harold ac Ewyas Lacy yn Swydd Henffordd, sy'n cadw enw'r hen gwmwd.

Ewias
Mathcwmwd, teyrnas, Teyrnasoedd Cymru Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 5 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolTeyrnas Gwent Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaErging Edit this on Wikidata

Hanes cynnar a thraddodiadau golygu

Mae rhai ffynonellau, yn cynnwys achrestrau diweddarach a siarteri canoloesol, yn awgrymu fod yr hen Ewias wedi cynnwys rhan o deyrnas Gwent ac Ergyng. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o haneswyr yn amharod i dderbyn hyn fel tystiolaeth ddibynadawy. Awgrym arall yw y bu Ewias dan reolaeth neu ddylanwad teyrnas Powys yn y cyfnod cynnar.

Yn ei ffug-hanes enwog Historia Regum Britanniae, rhydd Sieffre o Fynwy chwedl Eudaf, "Iarll Ewyas ac Ergyng", gan honni ei fod yn un o ddisgynyddion Caradog, arweinydd y Silwriaid yn erbyn y Rhufeiniaid. Yn ôl Sieffre, daeth Udaf yn "Uchel Frenin Ynys Prydain" ar ôl curo Trahaearn, brawd Coel Hen, ond does dim tystiolaeth hanesyddol o gwbl i ategu hynny.[1]

Mae un o siarteri Llandaf, sy'n dyddio o'r 8g, yn enwi un Clydog, "brenin yn Ewias", ac yn dweud iddo gael ei lofruddio tra'n hela; codwyd creirfa iddo ym Merthyr Clydog (Clodock, Swydd Henffordd).[2]

I'r gogledd o bentref Longtown (Swydd Henffordd heddiw), sefydlwyd clas yn perthyn i St. Beuno yn Llanfeuno (Llanveynoe, Swydd Henffordd, heddiw), lle ceir Croes Geltaidd sy'n dyddio o tua 600 OC. Mae'n bosibl hefyd y sefydlwyd clas yn Llanddewi Nant Hodni lle codwyd priordy yn yr Oesoedd Canol.[3]

Yr Oesoedd Canol golygu

Erbyn y 10g yr oedd saith cantref Morgannwg yn cynnwys Ewias. Tua 1046 cododd Osbern Pentecost, un o ddeiliaid Normanaidd Edward y Cyffeswr, gastell mwnt a beili yn Ewyas Harold, yn nwyrain Ewias, un o'r rhai cynharaf o'i fath ym Mhrydain. Ar ôl y Goresgyniad Normanaidd, roedd Ewias dan reolaeth arglwydd Cymreig lleol o'r enw Rhydderch ap Caradog, efallai fel deiliad i Wilym Goncwerwr, a gipiodd goron Lloegr yn 1066.

Pasiodd i ddwylo'r Normaniad Walter de Lacy ac o hynny allan tueddwyd i gyfeirio ato fel "Ewias Lacy". Pan ysgrifennwyd Llyfr Dydd y Farn yn 1086, cofnodir Ewias fel ardal ymreolaethol yn cael ei diffinio gan y Mynydd Du i'r gorllewin, Craig Syfyrddin i'r de, y "Dyffryn Euraidd" i'r dwyrain, a bryniau Iager a Chefn i'r gogledd, ger pentref Clifford, Swydd Henffordd, ger Y Gelli Gandryll.[4] Cofnodir fod yn Alfred o Marlborough yn dal "castell Ewias" yn enw'r brenin Eingl-Normanaidd; Castell Pentecost efallai.[3] Roedd y tir o gwmpas Castell Ewias Lacy yn nwylo'r de Lacys.

Daeth Ewias yn un o arglwyddiaethau'r Mers, yn lled annibynnol ar Goron Lloegr. Codwyd cestyll mwnt a beili ychwanegol yn Walterstone, Llancilo, Rowlestone and Cludog, ac yna yn 1216 Castell Longtown, canolfan bwrdeistref newydd Longtown. Daeth llinach y de Lacys i ben yn 1241 a rhanwyd arglwyddiaeth Ewias Lacy.

Cyfnod Modern golygu

Yn sgil y "Deddfau Uno", cymerodd y ffin rhwng Swydd Henffordd a de-ddwyrain Cymru ei ffurf bresennol, fwy neu lai, a rhoddwyd Ewias Lacy yn Swydd Henffordd. Arosodd yr ardal yn Gymraeg ei hiaith er hynny. Ymgorfforwyd gorllewin Ewias yn Sir Fynwy, a greuwyd yn 1536, fel cantref Y Fenni. Hyd 1852 bu Ewias yn uned eglwysig o fewn Esgobaeth Tyddewi, ond yn y flwyddyn honno rhoddwyd plwyfi Ewias Lacy i esgobion Henffordd. Aeth plwyfi gorllewin Ewias – Llanddewi Nant Hodni, Cwm-iou a'r Hencastell - o Dyddewi i Esgobaeth Llandaf.[5]

Iarll Ewias ac Ergyng golygu

  • Cyllin(Coellyn) ap Caradog
  • Owain ap Cyllin(Coellyn)
  • Meirchion Fawd-Filwr ap Owain
  • Cwrrig Fawr ap Meirchion
  • Gorddwfn ap Cwrrig
  • Einydd Wledig ap Gorddwfn (-328)
  • Eudaf Hen ap Einydd
  • Caradog ap Einydd
  • Arthfael ap Einydd
  • Gereint ap Einydd
  • Gruffydd ap Einydd
  • Gwrgant ap Arthfael
  • Meirchion ap Gwrgant
  • Meurig ap Meirchion

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Brut Dingestow, gol. Henry Lewis (Caerdydd, 1942), t.228
  2. 'The History of Ewyas Lacy'
  3. 3.0 3.1 'Archenfield Archaeology - Longtown and Clodock'
  4. Ewyas Harold yn Llyfr Dydd y Farn (Domesday Book)
  5. "Hereford.uk.com - 'Herefordshire History'". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-01. Cyrchwyd 2008-11-26.