F.C. Barcelona

clwb pêl-droed yn Barcelona, Sbaen

Mae Futbol Club Barcelona, yn glwb chwaraeon yn ninas Barcelona, Catalonia, Sbaen. Ystyrir y tîm pêl-droed yn un o'r goreuon yn Sbaen ac yn y byd. Ffurfiwyd y tîm pêl-droed yn 1899 gan nifer o ddynion o'r Swistir, Lloegr a Chatalonia ei hun. Arwyddair y clwb yw Més que un club (Mwy na chlwb mewn Catalaneg). Yr oeddynt yn un o'r timau gwreiddiol ym mhrif adran Sbaen, La Liga yn 1928, ac nid ydynt erioed wedi bod allan o'r adran gyntaf.

FC Barcelona
Enw llawn Futbol Club Barcelona
(Clwb Pêl-droed Barcelona)
Llysenw(au) Azulgranas
Sefydlwyd 29 Tachwedd 1899
(fel Foot-Ball Club Barcelona)
Maes Camp Nou
Cadeirydd Baner Sbaen Josep Maria Bartolomeu
Rheolwr Baner Sbaen Luis Enrique
Cynghrair La Liga
2021-2022 2.
Y Camp Nou
Dathlu llwyddiant ar strydoedd Barcelona

Eu stadiwm yw'r Camp Nou, ac adwaenir y cefnogwyr fel y culés (penolau) - dywedir fod y sawl oedd yn sefyll tu allan i'w hen stadiwm flynyddoedd yn ôl yn gweld rhes o benolau. Yn y tymor 2005-06 amcangyfrifwyd fod FC Barcelona yr ail glwb cyfoethocaf yn y byd, gydag incwm o €259.1 miliwn. Mae cystadleuaeth ffyrnig rhwng Barcelona a Real Madrid.

Cawsant gyfnod llwyddiannus iawn dan Johan Cruijff fel rheolwr, gan ennill La Liga bedair gwaith rhwng 1991 a 1994 ac ennill Cwpan Ewrop yn 1992. Dan Frank Rijkaard enillwyd La Liga yn 2005 a 2006, a churo Arsenal F.C. yn 2006 i ddod yn bencampwyr Ewrop am yr ail dro. Daeth Josep Guardiola yn rheolwr ar ddechrau tymor 2008-09, ac enillodd y clwb Gwpan Sbaen, La Liga a Chwpan Ewrop.

  • Pencampwyr La Liga (21)
    • 1929, 1945, 1948, 1949, 1952, 1953, 1959, 1960, 1974, 1985, 1991, 1992, 1993, 1994, 1998, 1999, 2005, 2006, 2009, 2010, 2011, 2013
  • Cwpan y Brenin (25)
    • 1910, 1912, 1913, 1920, 1922, 1925, 1926, 1928, 1942, 1951, 1952, 1953, 1957, 1959, 1963, 1968, 1971, 1978, 1981, 1983, 1988, 1990, 1997, 1998, 2009, 2012
  • Cwpan Ewrop/Cynghrair Pencampwyr UEFA (4)
    • 1992, 2006, 2009, 2011
  • Cwpan Enillwyr Cwpan UEFA (4)
    • 1979, 1982, 1989, 1997

Chwaraewyr enwog golygu

Y tîm presennol golygu

Nodyn: Diffinnir y baneri cenedlaethol o dan reolau FIFA. Gall y chwaraewyr, felly, fod o fwy nag un cenedl.

Rhif Safle Chwaraewr
  Marc-André Ter Stegen
  Héctor Bellerín
  Jules Koundé
  Ronald Araújo
  Sergio Busquets (capten)
  Gavi
  Ousmane Dembelé
  Pedri
  Robert Lewandowski
  Ansu Fati
  Ferran Torres
  Eric García
Rhif Safle Chwaraewr
  Iñaki Peña
  Alejandro Grimaldo
  Andreas Christensen
  Nico González
  Pedro Porro
  Alejandro Balde
  Marc Cucurella
  Hugo Novoa
  Frenkie De Jong
  Raphinha Belloli

Dolennau allanol golygu