F.C. Progrès Niederkorn

clwb pêl-droed, Lwcsembwrg

Mae Football Club Progrès Niederkorn, neu, fel rheol Progrès Niederkorn yn glwb pêl-droed yn nhref Niederkorn, yn ne-orllewin Lwcsembwrg.

Progrès Niederkorn
Enw llawnFootball Club Progrès
Niederkorn
Sefydlwyd1919; 105 blynedd yn ôl (1919)
MaesStade Jos Haupert, Niederkorn
(sy'n dal: 4,830)
CadeiryddFabio Marochi
RheolwrThomas Gilgemann
HyfforddwrRoland Vrabec
CynghrairUwch Gynghrair Lwcsembwrg
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref

Hanes golygu

Sefydlwyd Progrès ar 14 Awst 1919 o dan yr enw Cercle Sportif. Roedd y cit yn cynnwys crys coch gyda chylch brest gwyn a llewys gwyn a throwsus gwyn. Ar 15 Mawrth 1922, newidiwyd y lliwiau yn crys streipiog du a melyn ac ychydig yn ddiweddarach newidiwyd y trwsus yn ddu.

Erbyn 1923 roedd Progrès wedi esgyn i'r ail adran ac yn 1926 i Uwch Gynghrair Lwcsembwrg sef yr Erste Division fel y gelwyd ar y pryd ac yna'r Nationaldivision. Yn 1933 enillodd Progrés Gwpan Lwcsembwrg (Coupe de Luxembourg) gan ennill 4-1 yn erbyn Union Luxembourg. Dyma oedd anrhydedd gyntaf y clwb.

Yn y cyfnod ble roedd yr Almaen wedi meddiannu Lwcsembwrg yn ystod yr Ail Ryfel Byd, chwaraeodd y clwb yn y Gauliga Moselland (sef cynghrair talaith newydd oedd yn cynnwys rhannau o'r Almaen) o dan enw FK Niederkorn, pan orffennodd yn ail yn 1942–43, y tu ôl i'r pencampwyr TuS Neuendorf.

Gan ennill y gynghrair ddomestig dair gwaith, cyfnod mwyaf llwyddiannus y clwb oedd diwedd y 1970au a dechrau'r 1980au. Nid ydynt wedi ennill unrhyw dlws mawr ers ennill y gynghrair ym 1981.

Yn nhymor 2005-06, daeth Niederkorn yn ail yn ail adran Lwcsembwrg. Wrth i'r adran uchaf, y Nationaldivison, ehangu o ddeuddeg tîm i bedwar ar ddeg, cafodd Niederkorn eu dyrchafu ynghyd â Differdange 03.

Yn nhymor 2016–17 y Nationaldivison, denodd Progrès Niederkorn dorf fwyaf y gynghrair y flwyddyn honno: 1,820. Eu torf gartref, ar gyfartaledd, oedd 710.[1]

Ar 4 Gorffennaf 2017, curodd Progrès F.C. dîm enwog Rangers F.C. o'r Alban yn rownd gymhwyso gyntaf Cynghrair Europa UEFA 2017–18. Gwnaethant golli 0-1 yn Ibrox yn y cymal cyntaf, ac yna ennill 2-0 yn y Stade Jozy Barthel. Y fuddugoliaeth hon hefyd oedd buddugoliaeth gyntaf erioed y clwb mewn pêl-droed Ewropeaidd a'r tro cyntaf iddynt sgorio mwy nag un gôl mewn gêm.[2] Fe wnaethon nhw fwynhau ymgyrch gwell hyd yn oed yn Nghynghrair Europa UEFA 2018-19, gan guro CC FK Gabala a Budapest Honvéd i gyrraedd y trydydd rownd gymhwyso yn erbyn tîm Ufa o Rwsia. Roedd y tei ar fin mynd i amser ychwanegol ond sgoriodd Ufa gôl funud olaf.

Anrhydeddau golygu

  • Uwch Gynghrair Lwcsembwrg
Enillwyr (3): 1952–53, 1977–78, 1980–81
  • Cwpan Lwcsembwrg
Enillwyr (4): 1932–33, 1944-45, 1976–77, 1977–78

Gemau yn Ewrop golygu

Tymor Twrnament Rownd Gwrthwynebwyr Cartref Oddi cartref Cyfanswm
goliau
1977–78 Cwpan Enillwyr Cwpannau UEFA 1   Vejle Boldklub 0–1 0–9 0–10
1978–79 Cwpan Ewrop 1   Real Madrid 0–7 0–5 0–12
1979–80 Cwpan UEFA 1   Grasshopper Club Zürich 0–2 0–4 0–6
1981–82 Cwpan Ewrop 1   Glentoran 1–1 0–4 1–5
1982–83 Cwpan UEFA 1   Servette 0–1 0–3 0–4
2015–16 Cynghrair Europa UEFA Cymhwyso 1   Shamrock Rovers 0–0 0–3 0–3
2017–18 Cynghrair Europa UEFA Cymhwyso 1   Rangers 2–0 0–1 2–1
Cymhwyso 2   AEL Limassol 0–1 1–2 1–3
2018–19 Cynghrair Europa UEFA Cymhwyso 1   Gabala 0–1 2–0 2–1
Cymhwyso 2   Honvéd 2–0 0–1 2–1
Cymhwyso 3   Ufa 2–2 1–2 3–4
2019–20 Cynghrair Europa UEFA Rhagbrofol   Met Caerdydd 1–0 1−2 2–2 (g.o.c.)
Cymhwyso 1   Dinas Corc 1−2 2–0 3–2
Cymhwyso 2   Rangers 0–0 0−2 0–2

Tîm Menywod golygu

Mae gan y clwb dîm menywod syn chwarae yn y Dames Ligue 1. Mae'r tîm wedi ennill y gynghrair 15 gwaith ac felly, yn dal y record genedlaethol. Enillwyd y teitl ddiwethaf yn 2010-11 a galluogodd iddynt gystadlu yng Cynghrair Pencampwyr Menywod UEFA yn 2011-12.

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. http://www.european-football-statistics.co.uk/attn.htm
  2. Ostlere, Lawrence (4 July 2017). "Rangers suffer humiliating loss to Luxembourg side in Europa League qualifying". The Guardian. Cyrchwyd 6 July 2017.