F.C. Sheriff Tiraspol

clwb pêl-droed, Tiraspol, Transnistria, Moldofa

Mae clwb pêl-droed Fotbal Club Sheriff Tiraspol (Rwseg: ФК Шериф Тирасполь), a elwir yn gyffredin fel Sheriff Tiraspol neu yn syml Sheriff, yn glwb pêl-droed Moldofaidd wedi'i leoli yn Tiraspol, dinas sydd wedi'i lleoli yng Ngweriniaeth di-statws, Pridnestrovia (Transnistria). Fe'i sefydlwyd ym 1997 dan yr enw Tires Tiraspol a'i ailenwi y flwyddyn ganlynol yn Sheriff, mae wedi sefydlu ei hun yn gyflym ym mhêl-droed Moldofia.

Sheriff Tiraspol
Enw llawnFotbal Club Sheriff
Llysenwau
  • Zholto-chornyye (The Yellow-Blacks)
  • Osy (Y Cacwn/Gwenyn Meirch)
Sefydlwyd
  • 1997; 27 blynedd yn ôl (1997)
    as Tiras Tiraspol
MaesSheriff Stadium
(sy'n dal: 12,746[1])
PerchennogSheriff
PresidentVictor Gușan
Head CoachYuriy Vernydub
CynghrairDivizia Națională
2022–231.
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref
Tymor cyfredol

Hanes golygu

Sefydlwyd y clwb ym 1997 gan gwmni Sheriff. Mae wedi dominyddu pêl-droed Moldofa ers 2001, gan ennill mwyafrif helaeth y pencampwriaethau o hynny tan heddiw (2021). Sheriff oedd pencampwr Cwpan Cymanwlad y Wladwriaethau Annibynnol yn 2003, y clwb Moldofaidd cyntaf i gyflawni hyn.

Sefydlwyd y gymdeithas ym 1996 dan yr enw Tiras Tiraspol. Dechreuwyd y gêm yn Divizia B, y drydedd adran uchaf ym Moldofa. Ar unwaith cawsant eu dyrchafu i'r Divizia A ail-adran a dechreuodd y clwb y tymor o dan yr enw newydd Sheriff Tiraspol. Gyda 21 pwynt ar y blaen i Energhetic Dubasari, Tiraspol oedd pencampwyr yr ail adran a llwyddodd i orymdeithio drwodd i glwb pêl-droed Moldofaidd, y Divizia Națională. Rhwng 2001 a 2010 roedd y clwb yn bencampwyr cenedlaethol Moldofa ddeg gwaith yn olynol.

Yn nhymor 2009/10, aeth y tîm ymlaen i gemau ail gyfle Cynghrair y Pencampwyr UEFA. Collodd Sheriff Tiraspol yn erbyn y clwb Groegaidd, Olympiacos Piraeus (0: 2 a 0: 1). O ganlyniad, methwyd â chamu ymlaen i grŵp Cynghrair y Pencampwyr, ond llwyddodd Sheriff i gyrraedd grŵp yng nghystadleuaeth newydd ail-haen UEFA, sef Cynghrair Europa UEFA. Gydag hynny, daeth Sheriff y clwb Moldofaidd cyntaf i'w wneud yn gam grŵp cystadleuaeth UEFA.

Mae cwestiynau dros ariannu Sheriff a rhesymau dros ei llwyddiant yn destun sawl erthygl a eitem newyddion. Nodir bod cwmni Sheriff yn chwarae rhan tra-arglwyddiaethol o fewn tiriogaeth ddi-statws Transnistria a holir os yw'r clwb yn rhan o ymdrech 'pŵer meddal' Rwsiaidd.[2][3]

Noddwyr golygu

Prif noddwr a pherchennog y gymdeithas yw'r cwmni Tiraspol Sheriff. Mae'r cwmni yn hollbresenol ym Moldofa ac yn rhedeg sawl diwydiant yn rhanbarth Transnistria.

Stadiwm golygu

 
Stadiwm Sheriff yn Tiraspol

Mae'r clwb yn chwarae ei gemau cartref yn Stadiwm Sheriff, sy'n cynnwys 14,300 sedd, ac a adeiladwyd yn 2002. Yn ogystal â bod yn gartref i glwb Sheriff, mae'r stadiwm hefyd wedi cynnal gemau ar gyfer F.C. Tiraspol a thîm cenedlaethol Moldofa.

Ar wahân i brif arena Sheriff Sports Complex, mae stadiwm 8,000 sedd hefyd, Malaya Sportivnaya Arena, hefyd wedi'i leoli yn yr un complecs, ynghyd ag wyth maes hyfforddi, canolfan hyfforddi dan do, tai i'r chwaraewyr, coleg i fyfyrwyr a gwesty pum seren.[4]

2021-22: Cynghrair Pencampwyr UEFA golygu

Daeth Sheriff i enwogrwydd byd-eang yn dilyn eu camp yng Nghynghrair Pencampwyr UEFA 2021-22, pan daeth y Sheriff y tîm Moldofaidd cyntaf i gymhwyso ar gyfer rownd grŵp y gystadleuaeth ar ôl curo Dinamo Zagreb 3-0 dros y ddau gymal.[5] Fe'i gosodwyd yng Ngrŵp D i wynebu F.C. Inter Milan, Real Madrid C.F. a Shakhtar Donetsk. Ar 15 Medi 2021, enillodd y Sheriff ei gêm cymal grŵp gyntaf, 2-0 yn erbyn Shakhtar Donetsk,[6] cyn parhau â buddugoliaeth syfrdanol 2-1 oddi cartref dros Real Madrid yn y Estadio Santiago Bernabéu ar 28 Medi 2021, gyda gôl gan Sébastien Thill yn yr 89fed munud.[7] Achosodd y canlyniad sioc ar draws Ewrop a diddordeb newydd yn y clwb, gan chwarae ar ddiffyg statws ryngwladol i diriogaeth Tiraspol, cyhoeddoedd Deutsche Welle erthygl dan y teitl, 'Sheriff Tiraspol: The Champions League club without a country but now in dreamland'.[8]

Cyd-destun Coeglyd i'r Clwb golygu

Achosodd camp Sheriff i fynd i'r cymal nesaf yn y gystadleuaeth, ddiddordeb fawr. Ar 26 Awst 2021, ceisiodd un person, Slava Malamud, a fagwyd yn agos i faes Sheriff esbonio hanes a chyd-destun y clwb mewn ffrwd Twitter.[9] Cafodd un sylw coeglyd yn ei ffrwd, "Never let anyone tell you not to dream big, kids. There is nothing, NOTHING, that positivity, hard work, a secret nation-building KGB plot and an international gun-trafficking ring can't accomplish" dros 2,700 o hoffis.

Anrhydeddau golygu

2001, 2002, 2003, 2004, 2005, 2006, 2007, 2008, 2009, 2010, 2012, 2014, 2016, 2016/17, 2017, 2018, 2019, 2021, 2022, 2023

  • Cwpan pêl-droed Moldofa (9):

1999, 2001, 2002, 2006, 2008, 2009, 2010, 2015, 2016/17

  • Cwpan Cymanwlad y Wladwriaethau Annibynnol (2):

2003, 2009

Cyfeiriadau golygu

  1. "Stadium capacity". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 September 2021.Nodyn:Cbignoresheriff-sport.com
  2. https://www.youtube.com/watch?v=mOMbLovVNiA
  3. https://inews.co.uk/sport/football/sheriff-tiraspol-real-madrid-champions-league-moldova-transnistria-1224494
  4. "Sport complex". fc-sheriff.com. FC Sheriff Tiraspol. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 September 2021. Cyrchwyd 21 Rhagfyr 2016.Nodyn:Cbignore
  5. https://www.uefa.com/uefachampionsleague/match/2032637--dinamo-zagreb-vs-sheriff/
  6. https://www.espn.com/soccer/report/_/gameId/618783
  7. https://www.bbc.co.uk/sport/football/58705912
  8. https://www.dw.com/en/sheriff-tiraspol-the-champions-league-club-without-a-country-but-now-in-dreamland/a-59177975
  9. https://twitter.com/SlavaMalamud/status/1430939451069509639

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.