FC Vaduz

clwb Pêd-droed Vaduz, Liechtenstein

Fussball Club Vaduz (Cymraeg: Clwb Pêl-droed Vaduz) ym mhrifddinas Liechtenstein, Vaduz, sy'n chwarae yng Nghyngrair Bêl-droed Swistir. Mae'r clwb yn chwarae yn stadiwm genedlaethol y wlad, sef y Rheinpark Stadion, sydd â chapasiti o 5,873 seddi gyda llefydd sefyll ychwanegol ar ochr ogleddol a deheuol y maes gan roi cyfanswm o dorf posib o 7,838.[1] Mae'r clwb yn chwarae yn system gynghrair y Swistir. Mae sefyllfa Vaduz yn unigryw (er yn debyg i'r hen sefyllfa yng Nghymru parthed timau fel Caerdydd, Abertawe a Wrecsam) lle maent yn cynrychioli eu gwlad, Liechtenstein, yng Nghynghrair Europa UEFA os byddant yn ennill Cwpan Liechtenstein tra eu bod yn chwarae mewn cynghrair gwlad arall (Swistir). Mae'r sefyllfa yma'n bodoli oherwydd nad oes gan Liechtenstein gynghrair ei hun oherwydd diffyg arian a diddordeb domestig.

Vaduz
Enw llawnFussball Club Vaduz
LlysenwauResidenzler (Preswylydd)
Fürstenverein (clwb y tywysog)
Stolz von Liechtenstein (Balchder Liechtenstein)
Enw byrFCV
Sefydlwyd14 Chwefror 1932
MaesRheinpark Stadion
Vaduz, Liechtenstein
(sy'n dal: 7,584 (5,873 seated))
PerchennogTeulu Brenhinol Leichtenstein
CadeiryddRuth Ospelt
RheolwrRoland Vrabec
CynghrairCynghrair Sialens y Swistir
Swiss Challenge League
2022/238.
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref
Lliwiau Trydydd dewis

Yn hanesyddol mae nifer fawr o chwaraewyr Vaduz yn dod o'r wlad, a sawl un wedi cynrychioli Tîm Bêl-droed Genedlaethol Liechtenstein, ond mae nifer o'r chwaraewyr brodorol bellach yn chwarae y tu allan i'r Dysywogaeth a nifer o dramorwyr yn chware i Vaduz.

Hanes golygu

Sefydlwyd Fussball Club Vaduz ar 14 Chwefror 1932 yn Vaduz, prifddinas Tywysogaeth annibynnol Liechtenstein, gwlad fechan iawn tebyg o ran maint i ddyffryn yr afon Tâf ym Morgannwg, rhwng Awstria a'r Swistir. FC Vaduz yw'r unig dîm proffesiynnol yn Liechtenstein. Chwaraewyd eu tymor gyntaf o dan adain Cymdeithas Bêl-droed Vorarlberg yn Awstria yn nhymor 1932–33. Yn 1933, dechreuodd Vaduz chwarae yn y Swistir. Mae'r tîm wedi chwarae mewn amryw o gynghreiriau a safon o fewn strwythur bêl-droed y Swistir. Maent hefyd yn cystadlu yn unig gystadleuaeth ddomestig Liechtenstein, sef y Cwpan Bêl-droed Liechtenstein gan ennill y cwpan gyntaf a gynhaliwyd yn 1949.

Bu'n ofynnol i Vaduz dalu ffî flynyddol o oddeutu £150,000 i Gymdeithas Bêl-droed y Swistir er mwyn cystadlu fel clwb tramor. Bu galwadau i ddod â'r trefniant yma i ben, ond wedi trafodaethau daethpwyd i drefniant y bydd cynrychiolydd o Liechtenstein yn cael cymryd rhan yn y Gynghrair Her a'r Super League yn y dyfodol.[2]

Mae Vaduz wedi chwarae yn is-gynghreiriau'r Stwistir gan lwyddo i chwarae ar y lefel uchaf, yn y Super League yn 2008-09 gan gwympo nôl i'r Gynghrair Her (yr hen Nationalliga B) cyn ail-esgyn wedi pum mlynedd i'r Super League.

Yn 1992 llwyddodd Vaduz i chwarae yn Ewrop am y tro cyntaf gan gystadlu yn Cwpan Enillwyr Cwpanau UEFA fel enillwyr Cwpan Bêl-droed Leichtenstein er iddynt golli i FC Chornomorets Odesa o Iwcrain yn y rownd ragbrofol. Yn 1996, aeth Vaduz drwodd i'r rown gyntaf llawn wedi iddynt gael ei buddudoliaeth gyntaf yn Ewrop gan guro FK Jelgava o Brifysgol Riga yn Latfia, 5-3 ar giciau o'r smotyn wedi dwy gêm a sgôr o 2-2. Collon nhw yn drwm yn yr gêm nesa, 7-0 i Paris Saint-Germain F.C. o Ffrainc.

Wedi diddymiad Cwpan Enillwyd Cwpanau Ewrop mae Vaduz wedi cystadlu yn flynyddol yn Cynghrair Europa UEFA o ganlyniad i ennill Cwpan Bêl-droed Liechtenstein bob blwyddyn ers 1988. Ond dydynt erioed wedi camu'n bellach na'r gêm gyntaf, er iddynt ddod o fewn dim mewn gêm yn erbyn Livingstone FC o'r Alban yn 2002 pan sgoriwyd gôl yn yr eiladau olaf ond i'r reffari ddweud fod y gêm ar ben.

Ymddangosodd Vaduz yn gêm gyfrifiadurol FIFA 17.

Statws Gyfreithiol golygu

Mae FC Vaduz yn aelod o Gymdeithas Bêl-droed Liechtenstein Vaduz yn un o sawl clwb trawsffiniol yn Ewrop sy'n cynnwys Clwb Pêl-droed Abertawe, Clwb Pêl-droed Caerdydd sy'n chwarae yng Nghyngrair Lloegr; AS Monaco FC sy'n chwarae yn Ffrainc a San Marino Calcia sy'n chwarae yn yr Eidal. Y gwahaniaeth rhwng Vaduz a'r clybiau uchod yw mai tîm 'gwadd' yw Vaduz - ni all gystadlu yng Nghwpan y Swistir a nid all gynrychioli'r Stwistir yn Ewrop hyn yn oed petai yn ennill y Gynghrair.

Rheinpark Stadion golygu

Stadiwm Rheinpark yn Vaduz yw stadiwm genedlaethol Liechtenstein yn ogystal â maes chwarae FC Vaduz. Gorwedd y stwdiwm ar lannau'r afon Rhein, namyn metrau o'r ffin â'r Swistir. Mae'n dal 7,584 (eistedd a sefyll) a costiodd oddeutu 19 miliwn Ffranc Swistir i'r hadeiladu.

Agorwyd y stadiwm yn swyddogol ar 31 Gorffennaf 1998 gyda gêm rhwng FC Vaduz ac 1. FC Kaiserslautern, pencampwyr Bundesliga yr Almaen ar y pryd. Enillodd Keiserslautern y gêm 8-0.

 
Rheinpark Stadion

Anrhydeddau golygu

Cynghraur golygu

Enillwyr (1): 1936
Enillwyr (3): 2003, 2008, 2014
Ail (2): 2004, 2005
Enillwyr (2): 2000, 2001
Ail (2): 1984, 1999

Cwpannau golygu

  (49) (Record y Byd[3])     : 1949, 1952, 1953, 1954, 1956, 1957, 1958, 1959, 1960, 1961, 1962, 1966, 1967, 1968, 1969, 1970, 1971, 1974, 1980, 1985, 1986, 1988, 1990, 1992, 1995, 1996, 1998, 1999, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004, 2005, 2006, 2007, 2008, 2009, 2010, 2011, 2013, 2014, 2015, 2016, 2017, 2018, 2019, 2022, 2023
  (13): 1946, 1947, 1948, 1950, 1951, 1955, 1972, 1977, 1984, 1987, 1991, 1997, 2012
Cystadleuaeth Gemau E C C GF GA +/-
UEFA Cup Winners' Cup 10 0 2 8 4 40 −36
UEFA Cup / Cynghrair Europa UEFA 52 16 12 24 63 75 −12
Cyfanswm 62 16 14 32 67 115 −48

Buddugoliaeth fwyaf mewn Gêm UEFA:

Season Gêm Sgôr
UEFA Cup / UEFA Europa League
2006–07   Újpest FC –   FC Vaduz 0–4
2014–15   FC Vaduz –   College Europa 3–0
2015–16   S.P. La Fiorita –   FC Vaduz 0–5
2015–16   FC Vaduz –   S.P. La Fiorita 5–1

Recordiau golygu

Rancio UEFA golygu

As of 6 June 2017[4]

Ranc Tîm Pwyntiau
280   FC Neman Grodno 4.475
281   FC Naftan Novopolotsk 4.475
282   FC Vaduz 4.450
283   Jagiellonia Białystok 4.450
284   Zawisza Bydgoszcz 4.450

Rancio ers 2009 golygu

Year Rank Points
2009–10   312 1.900
2010–11   313 2.300
2011–12   286 3.300
2012–13   312 3.200
2013–14   319 3.650
2014–15   321 3.450
2015–16   271 4.850
2016–17   282 4.450

| width="50%" align="left" valign="top" |

Ranc ymysg Clybiau'r Byd golygu

As of 12 June 2017

Rank Team Points
536   Piast Gliwice 1222
537   OB Odense 1221
538   FC Vaduz 1219
539   Nea Salamis Famagusta FC 1216
540   Philadelphia Union 1216

|}

Y Swistir Hanes yn Super League y Swistir golygu

Season Pos Pld W D L GF GA Pts Att.[5]
2008–09 10  36 5 7 24 28 85 22 2,177
2014–15 9 36 7 10 19 28 59 31 4,152
2015–16 8 36 7 15 14 44 60 36 4,006
2016–17 10  36 7 9 20 45 78 30 4,086
Total 144 26 41 77 145 282 119 3,606

Cyn-chwaraewyr golygu

Nodyn:Main article

Clwb Rygbi FC Vaduz Red Pride golygu

Ar 12 Mawrth 2012 sefydlwyd clwb newydd FC Vaduz Rugby. Mae'r clwb rygbi'r undeb yn dechrau ar lawr gwlad gan mai gêm gymharol fychan yw rygbi yn Leichtenstein a byr yw hanes Rygbi'r Undeb Liechtenstein. Mae gan y Dywysogaeth gorff llywodraethol genedlaethol, Undeb Rygbi Liechtenstein ond daw llawer gemau ei thimau o dan adain Ffederasiwn Rygbi y Swistir.

Cyfernodau golygu

  1. Facts & Figures Archifwyd 2010-06-30 yn y Peiriant Wayback. FC Vaduz
  2. "FCV is still playing in Swiss League (German)". Volksblatt. 23 December 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-27. Cyrchwyd 23 December 2009.
  3. http://www.rsssf.com/miscellaneous/cuprec.html
  4. "UEFA Team Ranking 2015 (http://kassiesa.home.xs4all.nl/bert)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-12. Cyrchwyd 2017-06-22. External link in |title= (help)
  5. Attendance data at World Football

Dolenni allanol golygu

Nodyn:Swiss Super League Nodyn:Liechtenstein Football Clubs

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: