FK Partizani Tirana

clwb pêl-droed yn Tirana, Albania

Mae FK Partizani Tirana, neu fel rheol, Partizani Tirana yn glwb pêl-droed yn Tirana, prifddinas, Albania. Mae Partizani yw un o'r clybiau mwyaf llwyddiannus ac wedi ennill 15 pencampwriaeth Kategoria Superiore, 15 Cwpan Albania a Super Cup Albania. Llysenw'r clwb yw Demat e kuq ("Y Teirw Coch" - diddorol yw nodi fod y gair Cymraeg, 'coch' a'r Albaneg 'kuq' yn dod o'r un gwraidd Lladin, coccinus sy'n golygu coch llachar).[1]

Partizani Tirana
Enw llawnFutboll Klub Partizani Tiranë
LlysenwauDemat e kuq (Y Teirw Coch)
SefydlwydChwefror 4, 1946; 78 o flynyddoedd yn ôl (1946-02-04)
MaesStadiwm Selman Stërmasi
CadeiryddGazmend Demi
HyfforddwrSkënder Gega
CynghrairKategoria Superiore
2020/21Kategoria Superiore, 3.
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref
Tymor cyfredol

Hanes golygu

Sefydlwyd y clwb yn 1946 fel Ushtria Kombetare Tirane[2] a gan, ddilyn traddodiad y gwledydd Comiwnyddol o roi timau yn ôl adrannau o'r llywodraeth neu'r lluoedd, dyma oedd tîm fyddin. Ffurfiwyd Ushtria ("byddin" yn Albaneg) o chwaraewyr dau dîm o filwyr oedd eisoes yn bodoli, Liria Korçë a Shkodër Ylli yn 1945.[3] Symudwyd y chwaearwyr gorau o Liria Korçë a Shkodër Ylli i chwarae i Ushtria. Ar 4 Chwefror 1946 sefydlwyd y clwb chwaraeon (gan gynnwys pêl-droed) newydd fel Partizani er cof a dathlu y lluoedd comiwnyddol a ryddhaodd Albania o'r Natsiaid wedi'r rhyfel. Chwaraewyd y gêm gyntaf ar y 4 Chwefror. Oddi ar hynny, mae Partizani wedi bod yn un o glybiau mwyaf Ffederasiwn Pêl-droed Albania.

Yn ei flwyddyn gyntaf bu'r clwb ond yn chwarae gemau cyfeillgar yn erbyn timau eraill Albaniaid. Ond y flwyddyn ganlynol ymunodd clwb â'r gynghrair, gan ennill y gynghrair wrth ennill 14, 1 gêm gyfartal a cholli 1.[2]

Ynghyd â Dinamo Tirana, Partizani oedd sêr y bencampwriaeth cenedlaethol yn y 50au a'r 60au. Ymhlith y chwaraewyr mwyaf cynrychiol oedd yr Refik Resmja, a enillodd y bencampwriaeth 9 gwaith gan sgorio 59 gôl mewn 24 gêm yn y Kategoria e Pare 1951, sef y chwarawr i sgorio y mwayf o goliau mewn tymor.

Ym 1962 chwaraeodd y tîm am y tro cyntaf mewn cystadlaethau Ewropeaidd ac yn 1970 enillon nhw Cwpan y Balcan, sef cystadleuaeth i dimau clwb o wledydd y Balcanau. Dyma'r unig dwrnamaint rhyngwladol i'w hennill gan dîm o Albania.

Yn dilyn cwymp Comiwnyddiaeth yn 1989 ac yna cwymp yr Undeb Sofietaidd yn 1991 daeth hi'n gynyddol anodd cynnal tîm oedd wedi ei seilio ar y fyddin a gallu'r fyddin i orfodi neu cymell chwaraewyr timau eraill i chwarae iddynt. Er iddynt ennill y dwbl yn 1993 cafwyd cyfnod o ddisgyn allan o'r Kategoria Superiore ac i'r Adran is. Maent bellach (2018-19) yn chwarae yn y Kategoria Superiore.

Cit golygu

 
 
 
 
 
 
Original kit of FK Partizani
Cartref - Crys, trwsus, sannau coch
Oddi Cartref - Crys, trwsus, sannau gwyn

Cefnogwyr golygu

Mae gan y Partizani gefnogaeth gref gan gynnwys ei Ultras eu hunain, y Ultras Guerrils 08-09 a sefydlwyd drwy uno dau grŵp, Brigada e Kuqe 08 a'r Komandos Ultras. Er gwaethaf eu henw a lliw (coch) does dim cefnogaeth wleidyddol gan yr Ultras i unrhyw garfan wleidyddol. Cefnogir yr Ultras gan nifer o bobl a symudodd i'r brifddinas wedi cwymp Comiwnyddiaeth. Ceir grŵp arall o ultras, y Garda 15. Maent yn trefnu digwyddiadau tiffo fel rhan o'i cefnogaeth i'r clwb.

Prif Wrthwynebwyr golygu

Prif wrthwynebwyr y clwb yw KF Tirana a elwir hefyd yn 'Tirona'. Gelwir hwn y darbi Tirana gwreiddiol. Gwelir Partizani fel tîm y maestrefi ac FK Tirana fel tîm canol y ddinas. KF Tirana yw tîm mwyaf llwyddiannus Albania, gyda Partizani yn drydydd tu ôl Dinamo Tirana. Y gêm darbi arall, yn erbyn Dinamo, yw prif gystadleuwyr eraill Partizani.

Gwobrau golygu

Kategoria Superiore a ffurf ar Brif Gynghrair Albania golygu

Enillwyr - (17): 1947, 1948, 1949, 1954, 1957, 1958, 1959, 1961, 1962–63, 1963–64, 1970–71, 1978–79, 1980–81, 1986–87, 1992–93, 2018-19, 2022/23
Ail (21): 1950, 1951, 1952, 1953, 1955, 1956, 1960, 1964–65, 1965–66, 1968, 1969–70, 1972–73, 1973–74, 1982–83, 1988–89, 1989–90, 1990–91, 1991–92

Cwpan Albania golygu

Enillwyr (15): 1948, 1949, 1957, 1958, 1961, 1963–64, 1965–66, 1967–68, 1969–70, 1972–73, 1979–80, 1990–91, 1992–93, 1996–97, 2003–04
Ail (8): 1950, 1951, 1953, 1954, 1973–74, 1984–85, 1987–88, 1988–89

Supercup Albania golygu

Enillwyr (1): 2004
Ail (1): 1991

Dwbl golygu

Cynghrair a Chwpan Albania (6): 1948, 1949, 1957, 1958, 1961, 1963–64, 1992–93

Cwpan y Balcan golygu

Enillwyr (1): 1970

FK Partizani yn Ewrop golygu

As of 12 July 2018

Season Competition Round Club Home Away Aggregate
1962–63 UEFA European Cup 1R   IFK Norrköping 1–1 0–2 1–3  
1963–64 UEFA European Cup 1R   Spartak Plovdiv 1–0 1–3 2–3  
1964–65 UEFA European Cup 1R   1. FC Köln 0–0 0–2 0–2  
1968–69 European Cup Winners' Cup 1R   Torino 1–0 1–3 2–3  
1970–71 UEFA Cup Winners' Cup QR   Åtvidabergs FF 2–0 1–1 3–1  
1R   Tirol Innsbruck 1–2 2–3 3–5  
1971–72 UEFA European Cup 1R   CSKA Sofia 0–1 0–3 0–4  
1979–80 UEFA European Cup 1R   Celtic 1–0 1–4 2–4  
1980–81 European Cup Winners' Cup 1R   Malmö FF 0–0 0–1 0–1  
1981–82 UEFA European Cup 1R   Austria Wien 1–0 1–3 2–3  
1987–88 UEFA European Cup 1R   Benfica w/o 0–4 0–4  
1990–91 UEFA Cup 1R   Universitatea Craiova 0–1 0–1 0–2  
1991–92 European Cup Winners' Cup 1R   Feyenoord 0–0 0–1 0–1  
1993–94 UEFA Champions League QR   IA Akranes 0–0 0–3 0–3  
1995–96 UEFA Cup QR   Fenerbahçe 0–4 0–2 0–6  
2002–03 UEFA Cup QR   Hapoel Tel Aviv 1–4 0–1 1–5  
2003 UEFA Intertoto Cup 1R   Maccabi Netanya 2–0 1–3 3–3  
2R   Dacia Chișinău 0–3 0–2 0–5  
2004–05 UEFA Cup 1QR   Birkirkara 4–2 1–2 5–4  
2QR   Hapoel Bnei Sakhnin 1–3 0–3 1–6  
2006 UEFA Intertoto Cup 1R   Ethnikos Achnas 2–1 2–4 4–5  
2008–09 UEFA Cup 1QR   Široki Brijeg 1–3 0–0 1–3  
2015–16 UEFA Europa League 1QR   Strømsgodset 0–1 1–3 1–4  
2016–17 UEFA Europa League 1QR   Slovan Bratislava 0–0 1 N/A
2016–17 UEFA Champions League 2QR2   Ferencváros 1–1 1–1 2–2 (3–1p)  
3QR   Red Bull Salzburg 0–1 0–2 0–3  
2016–17 UEFA Europa League PO   FC Krasnodar 0–0 0–4 0–4  
2017–18 UEFA Europa League 1QR   Botev Plovdiv 1–3 0–1 1–4  
2018–19 UEFA Europa League 1QR   Maribor 0−1 0–2 0–3  

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. http://www.gwales.com/goto/biblio/cy/9781784611354/?session_timeout=1 The Red Dragon, The - Story of the Welsh Flag Siôn T. Jobbins, Gwasg Y Lolfa, 2016
  2. 2.0 2.1 http://www.giovanniarmillotta.it/albania/calcio/alba47.html
  3. http://www.shkodrasport.com/?option=com_content&view=article&id=5478%3Aloro-borici-kollosi-i-futbollit-shqiptar&catid=45%3Apersonazhe&Itemid=108