Bardd o Wladwriaeth Palesteina oedd Fadwa Tuqan (Arabeg: فدوى طوقان‎; Fadwa Tuqan; 1917 - 12 Rhagfyr 2003), a oedd yn adnabyddus am iddi wrthwynebu hawl Israel i feddiannu tiroedd y Palesteiniaid, a hynny drwy farddoniaeth Arabaidd gyfoes. Weithiau, cyfeirir ati fel "Bardd Palesteina".[1][2]

Fadwa Tuqan
Ganwyd1 Mawrth 1917 Edit this on Wikidata
Nablus Edit this on Wikidata
Bu farw12 Rhagfyr 2003 Edit this on Wikidata
Nablus Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Palesteina Palesteina
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Magwraeth ac addysg gynnar golygu

Fe'i ganed yn Nablus i'r teulu cyfoethog Palesteinaidd Tuqan sy'n adnabyddus am eu cyflawniadau mewn sawl maes. Derbyniodd addysg tan oedd yn 13 oed pan orfodwyd hi i roi'r gorau i'r ysgol yn ifanc oherwydd salwch. Cymerodd un o'i brodyr, Ibrahim Tuqan, a elwir hefyd fel 'Bardd Palestina', gyfrifoldeb o'i haddysgu, rhoddodd lyfrau iddi ddarllen a dysgodd Saesneg iddi. Ef hefyd oedd yr un a'i cyflwynodd i farddoniaeth.[3] Mynychodd Fadwa Tuqan Brifysgol Rhydychen, lle bu’n astudio Saesneg a llenyddiaeth.[3]

Brawd hynaf Fadwa Tuqan yw Ahmad Toukan, sy'n gyn-Brif Weinidog Gwlad yr Iorddonen.

Barddoni golygu

Mae barddoniaeth Tuqan yn nodedig am iddi groniclo ddioddefaint ei phobl, y Palesteiniaid, yn enwedig y rhai sy'n byw yn y tiroedd sydd dan feddiant Israel.[3] Cyfrannodd i'r cyfnodolyn blaengar Bahraini, Sawt al-Bahrain, yn y 1950au cynnar.[4]

Cyhoeddodd Tuqan wyth casgliad o farddoniaeth, a gyfieithwyd i lawer o ieithoedd ac a dderbyniodd enw da ledled y Byd Arabaidd.[3] Canolbwyntiodd ei llyfr, Alone With the Days, ar y caledi sy'n wynebu menywod yn y byd Arabaidd lle mae dynion yn rheoli.[3] Ar ôl y Rhyfel Chwe Diwrnod, canolbwyntiodd barddoniaeth Tuqan ar galedi bywyd dan feddiant milwrol Israel ee disgrifiodd un o'i cherddi mwyaf adnabyddus, "The Night and the Horsemen," fywyd o dan lywodraeth filwrol Israel.

Bu farw Tuqan ar 12 Rhagfyr 2003 yn ystod anterth yr Ail Intifada'r Palesteiniaid,, tra bod ei thref enedigol o Nablus dan warchae ac ymosodiadau milwrol[1][5] Roedd y gerdd Wahsha: Moustalhama min Qanoon al Jathibiya (Hiraeth: Wedi'i Ysbrydoli gan Gyfraith Disgyrchiant) yn un o'r cerddi olaf a ysgrifennodd.[1]

Mae Tuqan yn cael ei hystyried drwy'r byd fel symbol ddioddefaint a hyder Palesteina ac yn "un o ffigurau mwyaf nodedig llenyddiaeth Arabeg fodern." [1][3] Gosodir ei barddoniaeth gan Mohammed Fairouz yn ei Drydedd Symffoni.[6]

Llyfryddiaeth golygu

  • Fy Mrawd Ibrahim (1946)
  • Alone With The Days (1952)
  • I Found It '(1957)
  • Rhowch Gariad i Ni (1960)
  • O flaen Drws Caeedig (1967)
  • The Night And the Horsemen (1969)
  • Ar ei ben ei hun ar Uwchgynhadledd y Byd (1973)
  • Gorffennaf A'r Peth Arall (1989)
  • The Last Melody (2000)
  • Hiraeth a Ysbrydolwyd gan Gyfraith Disgyrchiant (2003)
  • Tuqan, Fadwa: Hunangofiant: A Mountainous Journey, Gwasg Graywolf, Saint Paul, Minnesota, UDA (1990),ISBN 1-55597-138-5, gyda rhan dau wedi'i gyhoeddi ym 1993

Cyfeiriadau golygu

 

Dolenni allanol golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "Fadwa Touqan". Words Without Border. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 June 2007. Cyrchwyd 15 April 2007.
  2. "Palestinian poet Fadwa Tuqan dies". Al Jazeera. 20 December 2003. Cyrchwyd 12 June 2020.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 Lawrence Joffe (15 December 2003). "Obituary". The Guardian. Cyrchwyd 15 July 2007.
  4. Wafa Alsayed (1 July 2020). "Sawt al-Bahrain: A Window onto the Gulf's Social and Political History". London School of Economics. Cyrchwyd 22 April 2021.
  5. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 December 2007. Cyrchwyd 16 July 2007.CS1 maint: archived copy as title (link)
  6. Thomas Moore. (12 September 2010), Mohammed Fairouz: An Interview, Opera Today, Retrieved 19 April 2011