Falkirk (etholaeth seneddol y DU)

Mae Falkirk yn etholaeth sirol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 2005 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon. Mae rhan o'r etholaeth o fewn Falkirk a Gorllewin Lothian, ac mae wedi'i lleoli i'r de o Afon Forth. Mae'r etholaeth yn cynnwys Falkirk, sy'n rhoi iddi ei henw, a hefyd yn cynnwys: Denny, Stenhousemuir, Bonnybridge, Polmont, Larbert a Banknock.

Falkirk
Etholaeth Sirol
ar gyfer Tŷ'r Cyffredin
Outline map
Ffiniau Falkirk yn Yr Alban.
Etholaeth gyfredol
Ffurfiwyd2005
Aelod SeneddolJohn McNally SNP
Nifer yr aelodau1
Gorgyffwrdd gyda:
Etholaeth Senedd EwropYr Alban

Cynrychiolir yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan John McNally, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1]

Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017, daliodd ei gafael yn y sedd. Gwnaeth yr un peth yn 2019.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015|