Fayzabad (Affganistan)
- Mae hon yn erthygl am y ddinas yn Affganistan. Gweler hefyd Faizabad (India) a Faizabad (Tajicistan).
Fayzabad (neu Feyzabad neu Faizabad) yw dinas fwyaf a phrifddinas talaith Badakhshan yng ngogledd-ddwyrain Affganistan, gyda phoblogaeth o tua 50,000 o bobl. Mae'r mwyafrif yn farsiandiwyr neu ffermwyr.
Math | anheddiad dynol |
---|---|
Poblogaeth | 44,421 |
Cylchfa amser | UTC+04:30 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Badakhshan |
Gwlad | Affganistan |
Arwynebedd | 7 km² |
Uwch y môr | 1,210 metr |
Cyfesurynnau | 37.1219°N 70.5833°E |
Mae'r ddinas yn gorwedd ar uchder o 3,920 troedfedd. Saif ar lan dde Afon Kokcha, sy'n llifo mewn gwely cul a syrth. Mae bryniau yn codi tua 2,000 troedfedd i fyny y tu ôl i'r dref. Mae'r hinsawdd yn boeth iawn yn yr haf ac yn oer yn y gaeaf.
Hanes golygu
Cafodd Fayzabad ei dinistrio'n llwyr gan Murad Beg yn 1829. Ailgodwyd y ddinas gan Faiz Muhammad Khan, tra'n llywodraethwr y dalaith, yn 1865.[1]
Codwyd maes awyr milwrol ar gyrion y ddinas gan y Rwsiaid; fe'i defnyddir bellach gan lluoedd arfog rhyngwladol yn Affganistan.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Imperial Gazeteer of India: Affganistan and Nepal (Calcutta, 1908; adargraffiad, Delhi Newydd, 1989).