Felin-fach, Powys

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Felin-fach,[1] weithiau Felinfach. Saif yn ardal Brycheiniog yn ne-ddwyrain y sir, ger y briffordd A470 i'r gogledd-ddwyrain o Aberhonddu.

Felin-fach
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth673 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd5,491.66 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.99087°N 3.32534°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000272 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map
Am y pentref o'r un enw yng Ngheredigion, gweler Felinfach, Ceredigion.

Heblaw pentref Felin-fach, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Llanfilo, Tredomen, Llandyfalle a Llandyfaelog Tre'r-graig. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 585.

Dywedir fod y Tywysog Siarl yn ymweld yn gyson a phlasdy ger Felin-fach, a bod y ffordd osgoi ar yr A470 wedi ei hadeiladu i sicrhau ei breifatrwydd.[angen ffynhonnell]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[3]

Canol Felin-fach

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Felin-fach, Powys (pob oed) (673)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Felin-fach, Powys) (70)
  
10.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Felin-fach, Powys) (412)
  
61.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Felin-fach, Powys) (67)
  
24.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolen allanol golygu