Felinfach, Ceredigion

Pentref yn Nyffryn Aeron yng nghanolbarth Ceredigion yw Felinfach ("Cymorth – Sain" ynganiad ), hefyd Felin-fach.[1] Gorwedda ger y briffordd A482 fymryn i'r de o bentref Ystrad Aeron, tua hanner ffordd rhwng Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan. Mae yng nghymuned Llanfihangel Ystrad. Yn 2004 roedd ward Felinfach a 579 o bleidleiswyr. Mae'r rhan fwyaf o boblogaeth y pentref yn byw yn un o ddwy stâd Bro Henllys a Bryn Salem.

Felinfach, Ceredigion
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.178769°N 4.151346°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map
Am y pentref o'r un enw ym Mhowys, gweler Felin-fach, Powys.

Mae Felinfach yn nodedig am Theatr Felinfach, ac am y cysylltiad hir rhwng y pentre a'r diwydiant llaeth.

Saif Theatr Felinfach ar Gampws Felinfach ac yno hefyd ceir Y Ganolfan sef canolfan addysg Cyngor Sir Ceredigion. Yma mae swyddfeydd Cered: Menter Iaith Ceredigion, Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion a nifer o staff Adran Addysg Cyngor Sir Ceredigion. Ceir yma hefyd nifer o ystafelloedd cyfarfod poblogaidd.

Cyn sefydlu Campws Felinfach roedd y safle arfer bod yn gartref i Goleg Addysg Broffesiynol Felinfach. Mae'r ystafelloedd sydd yn awr yn cael eu defnyddio fel swyddfeydd ac ystafelloedd cyfarfod arfer bod yn ystafelloedd darlithio, llyfrgell, gweithdai ayyb.

Siop y Pentref ac Ysgol Gynradd Felinfach

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU

Dolenni allanol golygu