Mae'r iaith Fepseg (enw brodorol: vepsän kelʹ, vepsän keli, neu vepsä) yn iaith sy'n perthyn i'r Fepsiaid, cangen ogleddol ieithoedd Baltig-Ffinneg o gangen Ffinno-Ugrig teulu'r ieithoedd Wralaidd. Y perthnasau agosaf i Fepseg yw ieithoedd fel Careleg, Ffinneg, Estoneg, Izhoreg a Fodieg.[2][3]

Fepseg
Enghraifft o'r canlynoliaith, iaith fyw Edit this on Wikidata
Mathieithoedd Ffinneg Edit this on Wikidata
Enw brodorolvepsän kel' Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr 
  • 1,640 (2010)[1]
  • cod ISO 639-3vep Edit this on Wikidata
    GwladwriaethRwsia Edit this on Wikidata
    RhanbarthKarelia, Oblast Leningrad, Oblast Vologda, Oblast Kemerovo, Oblast Irkutsk Edit this on Wikidata
    System ysgrifennuyr wyddor Ladin, Veps writing Edit this on Wikidata
    Corff rheoleiddioLlywodraeth Gweriniaeth Karelia Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

    Yn ôl lleoliad y bobl, mae'r iaith wedi'i rhannu'n dair prif dafodiaith: Fepseg Gogleddol (yn Llyn Onega i'r de o Petrozavodsk, i'r gogledd o afon Svir, gan gynnwys hen Fepseg Cenedlaethol Volost), Fepseg Canolog (yn y Oblast Leningrad a Fologda), a Fepseg y De (yn Oblast Leningrad hefyd). Mae tafodiaith y Gogledd yn ymddangos yn unigryw ymhlith y tair; fodd bynnag, mae'n dal i fod yn ddealladwy i siaradwyr y ddwy dafodiaith arall. Mae siaradwyr tafodiaith y Gogledd yn galw eu hunain yn "Ludi" (lüdikad) neu y lüdilaižed. Siaredir Fepseg yn bennaf yn rhanbarthau Gweriniaeth Carelia, Oblast Leningrad a Fologda yn Ffederasiwn Rwsia.[2][4][5]

    Am gyfnod hir roedd hi'n iaith anysgrifenedig. Dim ond yn gynnar yn yr 1990au y cafodd yr iaith ei hadfywio mewn ffurf ysgrifenedig. Ar hyn o bryd, cyhoeddir papur newydd misol yn yr iaith Fepseg “Kodima” (“Y famlwad”) yn Petrozavodsk. "Kodima“ yw'r unig bapur newydd sy'n defnyddio'r Fepseg.[6] Mae'r iaith Fepseg dan fygythiad difodiant, gan fod mwyafrif y siaradwyr brodorol yn perthyn i'r genhedlaeth hŷn; go brin bod y plant medru siarad yr iaith. Mae pob un o'r Fepsiaid yn Rwsia yn siarad Rwsieg fel eu mamiaith. Mae'r iaith Fepseg wedi'i chynnwys yn Llyfr Coch ieithoedd pobloedd Rwsia ac fe'i hystyrir yn iaith â thraddodiad ysgrifenedig.[4][7] Yn Rwsia, mewn 5 ysgol yn genedlaethol, mae dros 350 o blant yn astudio'r iaith Fepseg.[8] Yn ôl ystadegau Sofietaidd, roedd 12,500 o bobl yn Fepsiaid ethnig hunan-ddynodedig ar ddiwedd 1989.[9], yn ôl Ethnologue roedd yna dim ond 3,160 o siaradwyr Fepseg yn 2010.[10]

    Ieithoedd Ffino-Ugrig

    Cyfeiriadau golygu

    1. (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas, Texas: SIL International, 21 Chwefror 2022, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/
    2. 2.0 2.1 "VEPSÄN KEL. openduzkirj täuz kaznuzilе. Piter Piterin Vepsän sebr PDF Скачать Бесплатно". docplayer.ru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-01. Cyrchwyd 2020-12-24.
    3. "ВЕПССКИЙ ЯЗЫК • Большая российская энциклопедия - электронная версия". web.archive.org. 2019-07-16. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-16. Cyrchwyd 2020-12-24.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
    4. 4.0 4.1 "Вепсский корпус". web.archive.org. 2019-01-15. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-15. Cyrchwyd 2020-12-24.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
    5. "З. И. Строгальщикова. Вепсы в этнокультурном пространстве Европейского Севера". avtor.karelia.ru. Cyrchwyd 2020-12-24.
    6. "ЕДИНСТВЕННАЯ В МИРЕ ГАЗЕТА НА ВЕПССКОМ ЯЗЫКЕ "KODIMA" ОТПРАЗДНОВАЛА ДВАДЦАТИЛЕТНИЙ ЮБИЛЕЙ". Nazaccent.ru.
    7. "VEPSÄN KEL. openduzkirj täuz kaznuzilе. Piter Piterin Vepsän sebr PDF". web.archive.org. 2019-07-01. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-01. Cyrchwyd 2020-12-24.
    8. "09.12.2004 - The Vepsian Culture Society in Karelia celebrates its 15th anniversary". gov.karelia.ru.
    9. "About: Veps language". dbpedia.org. Cyrchwyd 2020-12-24.
    10. "Veps". Ethnologue (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-12-24.