Mae fertigo yn gyflwr meddygol ble mae'r person yn teimlo fel pataen nhw neu'r gwrthrychau o'u cwmpas yn symud pan nad ydynt.[1] Mae'n aml yn teimlo fel symudiad o droelli neu siglo. Gall hyn fod yn gysylltiedig â chyfog, chwydu, chwysu, neu anhawster cerdded. Fel arfer, mae'n gwethygu wrth symud y pen. Pendro yw'r math mwyaf cyffredin o bendro.

Fertigo
Delwedd:Vertigo 08018.jpg, Vertigo in objects.jpg
Enghraifft o'r canlynolsymptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Matharwydd meddygol, pendro Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Y clefydau mwyaf cyffredin sy'n achosi fertigo yw fertigo lleoliadol paroxysmaidd diniwed, clefyd Ménière, a labyrinthitis. Mae achosion llai cyffredin yn cynnwys strôc, tiwmorau yr ymenydd, anaf i'r ymenydd, sclerosis ymledol, meigrynau, trawma, a phwysedd afreolaidd rhwng y clustiau canol.[2][3] Gall fertigo ffisiolegol ddigwydd ar ôl bod yn agored i symudiad am gyfnod hir megis ar long neu droelli gyda'r llygaid ar gau.[4][5] Gall achosion eraill gynnwys dod i gysylltiad â thocsinau megis carbon monocsid, alcohol, neu aspirin.[6] Mae fertigo yn broblem mewn rhan o'r system gynteddol. Mae achosion eraill o bendro yn cynnwys presyncope, diffyg cydbwysedd, a phendro amhenodol.[7]

Mae fertigo lleoliadol paroxysmaidd diniwed yn fwy tebygol yn rhywun sy'n cael achosion cyson o fertigo gyda symudiad ac sydd fel arall yn normal rhwng yr achosion hyn. Dylai'r achosion o fertigo barhau am llai nag un munud. Mae'r prawf Dix-Hallpike fel arfer yn achosi cyfnod o symudiad cyflym yn y llygad sy'n cael ei alw'n nystagmus yn y cyflwr hwn. Mewn clefyd Ménière's disease ceir tinitws yn aml, nam ar y clyw, a gall y pyliau o fertigo barhau am dros ugain munud. Gyda labyrinthitis daw'r fertigo yn sydyn ac mae'r nystagmus yn digwydd heb symudiad. Yn y cyflwr hwn gall fertigo barhau am ddyddiau. Dylid ystyried achosion mwy dwys hefyd.[8] Mae hyn yn arbennig o wir os ceir problemau eraill fel gwendid, cur pen, golwg dwbl, neu ddiffrwythdra.

Mae pendro yn effeithio ar tua 20–40% o bobl ar rhyw adeg neu'i gilydd, tra bod tua 7.5–10% yn cael fertigo.[9] Mae tua 5% yn cael fertigo o fewn blwyddyn. Mae'n dod yn fwy cyffredin gydag oedran ac yn effeithio ar fenywod ddwy i dair gwaith yn fwy aml na dynion. Mae fertigo yn gyfrifol am tua 2–3% o ymweliadau i'r uned frys yn y byd datblygedig.[10]

Cyfeiriadau golygu

  1. Post, RE; Dickerson, LM (2010). "Dizziness: a diagnostic approach". American Family Physician 82 (4): 361–369. PMID 20704166. http://www.aafp.org/afp/2010/0815/p361.html.
  2. Wicks, RE (January 1989). "Alternobaric vertigo: an aeromedical review.". Aviation, Space, and Environmental Medicine 60 (1): 67–72. PMID 2647073.
  3. Buttaro, Terry Mahan; Trybulski, JoAnn; Polgar-Bailey, Patricia; Sandberg-Cook, Joanne (2012). Primary Care - E-Book: A Collaborative Practice (yn Saesneg) (arg. 4). Elsevier Health Sciences. t. 354. ISBN 0323075851.
  4. Falvo, Donna R. (2014). Medical and psychosocial aspects of chronic illness and disability (arg. 5). Burlington, MA: Jones & Bartlett Learning. t. 273. ISBN 9781449694425.
  5. Wardlaw, Joanna M. (2008). Clinical neurology. London: Manson. t. 107. ISBN 9781840765182.
  6. Goebel, Joel A. (2008). Practical management of the dizzy patient (arg. 2nd). Philadelphia: Lippincott Williams & Wilkins. t. 97. ISBN 9780781765626.
  7. Hogue, JD (June 2015). "Office Evaluation of Dizziness.". Primary Care: Clinics in Office Practice 42 (2): 249–258. doi:10.1016/j.pop.2015.01.004. PMID 25979586.
  8. Kerber, KA (2009). "Vertigo and dizziness in the emergency department". Emergency Medicine Clinics of North America 27 (1): 39–50. doi:10.1016/j.emc.2008.09.002. PMC 2676794. PMID 19218018. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2676794.
  9. von Brevern, M; Neuhauser, H (2011). "Epidemiological evidence for a link between vertigo & migraine". Journal of Vestibular Research 21 (6): 299–304. doi:10.3233/VES-2011-0423. PMID 22348934.
  10. "Vertigo: epidemiologic aspects". Seminars in Neurology 29 (5): 473–81. November 2009. doi:10.1055/s-0029-1241043. PMID 19834858.