Ffalaffel

byrbryd o ffa neu chickpeas o'r Dwyrain Canol

Saig draddodiadol boblogaidd yw ffalaffel (yn Arabeg فلافل ffalāffil, yn Hebraeg פלאפל ffalaffel); daw o'r o'r Dwyrain Canol. Mae'n belen o wycbys wedi ei ffrïo a chaiff ei weini yn draddodiadol ag iogwrt neu saws tahina, yn ogystal â salad fel byrbryd mewn bara pita neu fel saig ddechreuol ar gyfer pryd.

Peli ffelaffel mewn bara pita, fel y'i bytir yn aml
Peli ffelaffel mewn bara pita, fel y'i bytir yn aml

Tarddiad ac Etymoleg golygu

Daw'r gair "ffalaffel" o'r gair Arabeg فلفل (filfil), sy'n golygu pupur, ond dywed eraill fod y gair yn tarddu o'r Arabeg mlaff sy'n golygu 'wedi ei becynnu' (gan gyfeirio at y brechdan o fara pita y gweinir y peli ffelaffel ynddi.[1].

Cynnwys a Choginio golygu

 
Er gwaethaf y ffrio, mae tu fewn y ffelaffel yn feddal

Mae'r ffelaffel wedi'i wneud gyda gwycbys, ffa neu gyfuniad o'r ddau gynhwysyn.

Ceir amrywiad yn yr Aifft a Swdan, o'r enw ta`miyya (طعمية), gan ddefnyddio ffa yn unig, tra bod amrywiadau eraill yn defnyddio gwycbys yn unig. Fe'i bwytir yn aml fel pryd amser brecwast.[2]

Caiff y gwycbys eu rhoi mewn dŵr nes eu bod yn cael eu troi ac yna eu malu wedi'u cymysgu â garlleg a phersli yn bennaf, ac yna eu ffurfio'r beli a'u ffrïo mewn olew poeth. Weithiau gellir defnyddio blawd gwycbys i roi mwy o gysondeb i'r gymysgedd. Y dyddiau hyn, gellir eu prynu wedi'u rhewi mewn sawl sefydliad yn Ewrop.

Ar hyn o bryd, y ffelaffel o wycbys sydd fwyaf poblogaidd ar draul rhai a wneir o ffa. Defnyddir gwycbys ar draws y Dwyrain Canol ac maent wedi dod yn boblogaidd diolch i ymfudwyr o'r Dwyrain Canol ar draws y byd. Cysylltir y ffelaffel gan mwayf â Libanus, Syria, Twrci, Palesteina ac Israel.[3]

Ffelaffel mewn Diwylliant golygu

Hunaniaeth Israeli Ffelaffel golygu

Mae'r ffelaffel yn hynod o boblogaidd yn Israel lle'i gwerthir (fel mewn gwledydd eraill) fel byrbryd rhad, sydyn ac iachus. Mae wedi ei hyrwyddo yn hunanymwybodol fel 'pryd cenedlaethol'; testun trafodaeth yw dilysrwydd yr honiad hwn ac unigrwywedd y ffelaffel i Israel.[4][5]

Er bod coginio rhyw fath o bryd sydyn gyda gwycbys neu ffa yn sicr yn hen, ceir trafodaeth ar ba mor hen mae'r ffelaffel yn ei ffyrf gysoes, adnabyddus. Noda'r Athro Shaul Stampfer yn ei lyfr, 'Jews and their Foodways – Studies in Contemporary Jewry' (Oxford University Press, 2015) nad oedd bara pita ar ei ffurf gyfoes yn bosib nes ddiwedd 19g ac y byddai ffrio bwyd mewn sosban llawn olew wedi bod yn rhy ddrud i'r mwyafrif helaeth o bobl hyn nes yr un cyfnod. Nodir nad oes sôn am y ffelaffel gyfoes yn yr Aifft nes ddiwedd y 19g ond bod y ffelaffel wedi dod yn gyffredin yn ninas Beirut ac ym Mhalesteina adeg y Mandad Prydeinig yn yr 1930au ac yn boblogaidd yn dilyn annibyniaeth Israel yn 1949.[5]

Ffilm golygu

Rhyddhawyd ffilm gomedi Awstralaidd, 'He Died with a Felafel in His Hand' yn 2001.[6] Mae'r ffilm yn seiliedig ar nofel di-ffuglen, John Birmingham, a gyhoeddwyd yn 1994 ac sy'n seiliedig ar ei atgofion mewn amryw o rannu tai yn ninas Brisbane. Addaswyd y nofel yn ddrama cyn ei gwneud yn ffilm. Nid oes rhan ganolog i'r ffelaffel yn y stori ond mae'n adlewyrchiad o natur rhan a phoblogaidd y byrbryd.

Barddoniaeth golygu

Cyfeirir at y ffelaffel mewn englyn gan Osian Rhys Jones yng nghyfres boblogaidd, BBC Radio Cymru, Talwrn y Beirdd mewn ymaten i gerdd ar thema, 'Bwydlen'.[7]

Ei ffelaffel a hoffaf, a'i hwmws
A'i gwymon goruchaf,
Ond drwy'r ŵyl yn daer holaf,
A oes sglods a sgods a gaf?

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu