Ffarmers

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref yng nghymuned Cynwyl Gaeo, Sir Gaerfyrddin, Cymru, ydy Ffarmers.[1][2] Fe'i lleolir ger Llanbedr Pont Steffan. Cafodd ei enwi ar ôl tafarn y "Farmers' Arms", ond mae'r dafarn ei hun wedi cau ers blynyddoedd. Mae'r pentref ar hen ffordd rhufeinig (o'r enw Sarn Helen), ac roedd pobl yn pasio trwy'r pentref wrth fynd â'u gwartheg i farchnadoedd Lloegr.

Ffarmers
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCynwyl Gaeo Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.0845°N 3.9723°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN649445 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAdam Price (Plaid Cymru)
AS/auJonathan Edwards (Annibynnol)
Map

Mae'r afonydd bychain Afon Twrch ac Afon Fanafas yn llifo ger y pentref, tuag at y de, ac yn ymuno ag Afon Tywi rhwng Llandeilo a Chaerfyrddin.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Hydref 2021