Ffederasiwn Frenhinol Pêl-droed Sbaen

corff llywodraethol pêl-droed Sbaen

Ffedersasiwn Frenhinol Pêl-droed Sbaen yn Sbaeneg, Real Federación Española de Fútbol neu RFEF yw'r corff sy'n gyfrifol am reoleiddio clybiau pêl-droed a threfnu cystadlaethau cenedlaethol a gemau rhyngwladol Tîm pêl-droed cenedlaethol Sbaen. Mae gan y Gymdeithas 671,581 o ddeiliaid trwyddedau pêl-droed yn 2008[3], ond mae bron i ddyblu'r nifer hynny yn chwarae futsal, h.y. tua 1,200,000 o chwaraewyr trwyddedig[4]. Lleolir ei phencadlys yn La Ciudad del Fútbol, Las Rozas ger y brifddinas, Madrid.

Ffederasiwn Frenhinol Pêl-droed Sbaen
UEFA
[[File:|150px|Association crest]]
Sefydlwyd14 Hydref 1909 (fel Federación Española de Clubs de Football)[1]
29 Medi 1913[2]
Aelod cywllt o FIFA1904
Aelod cywllt o UEFA1954
LlywyddLuis Rubiales
Gwefanrfef.es
Ciudad del Fútbol, Pencadlys yr RFEF
Copa Federación

Hanes golygu

Bu cyfnod cychwynnol sefydlu strwythur wladwriaethol i bêl-droed yn Sbaen gydag ymgiprys rhwng dau gorff am fod gynrychioli a rheoli'r gêm o fewn y frenhiniaeth. Sefydlwyd Cymdeithas Clybiau Pêl-droed Sbaen Federación Española de Clubs de Football yn madrid ar 14 Hydref 1909. Y prif glybiau sefydlu oedd: Foot-Ball Club Barcelona, el Vigo Foot-Ball Club, el Tarragona Foot-Ball Club, el Pamplona Foot-Ball Club, la Sociedad Gimnástica Española, el Irún Sporting Club, el Real Club Fortuna de Vigo y el Español Foot-Ball Club de Madrid. Ond trodd clybiau eraill eu cefnau ar y Gymdeithas newydd, yn eu mysg, y clybiau a ddaeth maes o law i fod yn Real Sociadad Bilbao, Real Madrid a Real Sociadad San Sebastian.

Yn y pendraw, cadwyd cymodi wedi ffeinal Copa del Rey (Cwpan y brenin) yn 1911, a sefydlwyd y Ffederasiwn ei hun yn 1913.

Fodd bynnag, ystyrir hi yn aelod sylfaenol o FIFA yn 1904 o ganlyniad i ymwneud clybiau Sbaeneg yn ei sefydlu. Mae'r Ffederasiwn yn aelod o UEFA ers ei greu yn 1954.

Canmlwyddiant y Ffederasiwn Sbaeneg Dathlwyd 14 Tachwedd, 2009 gyda gêm gyfeillgar ym Madrid (Vicente Calderon Stadiwm) rhwng Sbaen a'r Ariannin (2-1 i Sbaen).

Trefniadaeth golygu

Mae'r Ffederasiwn yn gweinyddu cystadlaethau, yn ganolog neu dwy is-gyrff:

Rhanbarthau golygu

 
Cymunedau Sbaen sy'n sail i wahanol ffederasiynau lleol yr RFEF

Mae'r RFEF yn cynnwys 19 ffederasiwn rhanbarthol sy'n seiliedig ar Gymunedau ymreolaethol Sbaen.

Llywyddion RFEF golygu

Llywydd Teyrnasiad
Francisco García 1913–1916
Gabriel Maura 1916–1920
David Ormaechea 1921–1923
Gabriel Maura 1923–1924
Julián Olave 1924–1926
Antonio Bernabéu 1926–1927
Pedro Díez de Rivera (Marqués de Someruelos) 1927–1931
Leopoldo García 1931–1936
Julián Troncoso 1939–1940
Luis Saura 1940–1941
Javier Barroso 1941–1946
Jesús Rivero 1946–1947
Armando Muñoz 1947–1950
Manuel Valdés 1950–1952
Sancho Dávila 1952–1954
Juan Touzón 1954–1956
Alfonso de la Fuente 1956–1960
Benito Pico 1960–1967
José Luis Costa 1967–1970
José Luis Pérez-Paya 1970–1975
Pablo Porta 1975–1984
José Luis Roca 1984–1988
Ángel María Villar 1988–2017
Juan Luis Larrea 2017–2018
Luis Rubiales 2018–

Cyfeiriadau golygu

  1. "Le quiere quitar cuatro títulos históricos al Madrid y uno al Barcelona". Marca. 2010-03-07. Cyrchwyd 2010-12-04.
  2. "Adidas presentó la nueva equipación de España". Real Federación Española de Fútbol. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-08. Cyrchwyd 2010-12-04. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  3. [1]
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-08. Cyrchwyd 2018-09-20.

Dolenni golygu