Ffibrosis yr ysgyfaint

nifer o wahanol gyflyrau sy’n achosi i feinwe greithiol hel yn yr ysgyfaint

Mae ffibrosis yr ysgyfaint yn derm sy’n disgrifio llawer o wahanol gyflyrau sy’n achosi i feinwe greithiol hel yn yr ysgyfaint. "Ffibrosis" yw’r enw ar y casgliad hwn o feinwe greithiol, sy’n gwneud eich ysgyfaint yn llai ystwyth. Mae ffibrosis yr ysgyfaint yn fath o glefyd interstitaidd yr ysgyfaint (ILD). Ystyr "interstitaidd" yw bod y clefyd yn effeithio ar yr intersitiwm, sef rhwydwaith o feinwe tebyg i les sy’n cynnal y codenni aer yn eich ysgyfaint. Mae dros 200 o wahanol glefydau interstitaidd yr ysgyfaint. Rydym yn gwybod beth yw achos rhai mathau o ffibrosis yr ysgyfaint. Ond nid oes modd dod o hyd i achos pendant i lawer o fathau eraill. Gyda chlefydau interstitaidd yr ysgyfaint, efallai bod creithiau neu lid yn eich ysgyfaint. Mae rhai clefydau interstitaidd yn achosi creithio gan mwyaf, ac eraill yn achosi llid gan mwyaf. Ond, yn aml, bydd cyfuniad o’r prosesau hyn yn digwydd.

Ffibrosis yr ysgyfaint
Enghraifft o'r canlynolcyflwr meddygol, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathclefyd interstitaidd yr ysgyfaint, clefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Effaith ar anadlu golygu

Mae ffibrosis yr ysgyfaint yn creithio eich ysgyfaint ac felly ni fyddwch yn anadlu mor effeithlon. Mae’r creithio yn achosi i’r ysgyfaint fynd yn fwy anystwyth a cholli ei hyblygrwydd, sy’n golygu ei bod yn anoddach iddo symud a chymryd ocsigen i mewn o’r aer yr ydych yn ei anadlu. Wrth anadlu i mewn, rydych chi’n tynnu aer i mewn i’ch trwyn neu’ch ceg, i lawr drwy eich gwddw ac i mewn i’ch pibell wynt, sydd hefyd yn cael ei alw’n tracea. Mae eich pibell wynt yn rhannu’n ddau diwb aer llai, o’r enw bronci, sy’n mynd i’ch ysgyfaint. Mae’r aer yn pasio i lawr y bronci, sy’n rhannu eto ac eto yn filoedd o bibellau gwynt bach o’r enw bronciolau.

Yn y bronciolau, mae llawer o godenni aer bach, o’r enw alfeoli. Yn y codenni aer, bydd ocsigen yn symud ar draws waliau trwch papur i’r capilarïau – llestri gwaed bychain – ac i mewn i’ch gwaed. Mae’r codenni aer yn codi’r gwastraff nwy, sef carbon deuocsid, o’ch gwaed yn barod i chi ei anadlu allan.

Gyda ffibrosis yr ysgyfaint, mae’r creithio yn effeithio ar y codenni aer yn eich ysgyfaint. Mae rhwydwaith o feinwe tebyg i les yn cynnal y codenni aer yn eich ysgyfaint. Mae’r creithiau yn llenwi’r bylchau rhwng y codenni aer ac o’u cwmpas ac yn cyfyngu ar faint o ocsigen sy’n mynd i mewn i’r gwaed.

Gyda mwy o greithio, nid yw eich ysgyfaint yn gallu ymestyn cystal i adael chi gymryd anadl ddofn i mewn, a gall lefel yr ocsigen yn eich gwaed ddechrau disgyn. Gall anadlu deimlo’n fwy llafurus ac efallai y bydd gwneud pethau pob dydd, fel mynd am dro, yn gwneud i chi deimlo’n fyr eich gwynt.

Achosion golygu

Mewn nifer bach o achosion o ffibrosis yr ysgyfaint, mae modd adnabod yn union beth sydd wedi’i achosi. Dyma rai achosion:

  • Anadlu mathau arbennig o lwch – gan gynnwys llwch metel neu asbestos
  • Anadlu alergenau – fel plu adar neu lwydni
  • Sgil effaith cyffur

Bydd rhai mathau o ffibrosis yr ysgyfaint yn digwydd pan fydd gennych gyflwr arall fel crydcymalau gwynegol (rheumatoid arthritis) neu scleroderma. Mewn ambell i achos, gall dau aelod neu fwy o’r teulu ddatblygu ffibrosis yr ysgyfaint. Ond yn ôl yr ymchwil diweddaraf, mae geneteg clefyd interstitaidd yr ysgyfaint yn gymhleth ac nid oes tuedd etifeddol glir i ddatblygu ffibrosis yr ysgyfaint. Ni ellir dod o hyd i’r union achos gyda’r rhan fwyaf o fathau o ffibrosis yr ysgyfaint. Ffibrosis idiopathig yr ysgyfaint (IPF) yw un o’r mathau o ffibrosis a welir amlaf. Mae’r gair idiopathig yn golygu nad ydym yn gwybod beth yw’r achos.

Clefydau interstitaidd yr ysgyfaint yn ôl grŵp golygu

Yn ddiweddar, mae ymchwilwyr wedi grwpio rhai mathau cyffredin o glefyd interstitaidd yr ysgyfaint, yn ôl beth sy’n eu hachosi – edrychwch ar y diagram cyferbyn. Nid yw pob meddyg yn cytuno ar hyn, ac mae llawer o waith ymchwil ar y gweill i wella ein dealltwriaeth o’r achosion.

Clefydau interstitaidd Achosion
Anhwylderau idiopathig
  • Ffibrosis idiopathig yr ysgyfaint (IPF)
  • Niwmonia interstitaidd aciwt (AIP)
  • Niwmonia interstitaidd idiopathig amhenodol (NSIP)
  • Sarcoidosis
Clefyd meinwe gysylltiol ac awtoimiwn
  • Scleroderma/sclerosis systemig graddol
  • Erythematosus lwpws systemig (Lwpws)
  • Crydcymalau gwynegol
  • Polymyositis/dermatomyositis
Galwedigaethol ac Amgylcheddo
  • Llwch anorganig
  • Llwch organig
  • Nwyon a mwg
  • Ymbelydredd
A achosir gan gyffuriau
  • Cyfrwng cemotherapiwtig
  • Therapi ymbelydredd
  • Cyffuriau gwrthafreolaidd
  • Gwrthfiotigau
  • Cyffuriau gwrthgyffylsiwn
Heintiau
  • Heintiau feirol
  • Heintiau bacterol
Genetig / Wedi’i etifeddu
  • Ffibrosis ysgyfaint teuluol
  • Syndrom Hermansky-Pudlak

Symptomau golygu

Y symptom cyntaf y bydd llawer o bobl yn sylwi arno yw eu bod nhw’n colli’u gwynt wrth wneud rhywbeth, fel mynd fyny allt neu ddringo’r grisiau. Ond efallai eich bod chi’n fyr eich gwynt drwy’r adeg, nid yn unig wrth symud. Bydd amryw o ffurfiau o ffibrosis yr ysgyfaint fel arfer yn digwydd ar ôl i bobl droi’n 60 oed, felly efallai y byddwch chi’n meddwl eich bod chi’n colli’ch gwynt oherwydd nad ydych chi mor ifanc ag yr oeddech chi’n arfer bod. Heb ei drin, gwaethygu wnaiff y diffyg anadl hwn dros amser. Efallai bydd cyflyrau hirdymor eraill hefyd yn effeithio ar eich diffyg anadl, fel clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD), clefyd y galon a bod dros eich pwysau.

Mae peswch na allwch gael gwared arno a theimlo’n flinedig drwy’r amser yn ddau symptom arall o ffibrosis yr ysgyfaint. Gall rhai pobl sydd â’r cyflwr hefyd gael gwres, colli pwysau neu gael poen yn eu cyhyrau a’u cymalau. Gall cyflwr ar yr ysgyfaint effeithio ar eich bysedd a’ch traed hefyd, ond yn aml mae hyn yn arwydd nodweddiadol o ffibrosis yr ysgyfaint. Clybio yw’r enw arno, ac efallai y sylwch chi bod eich ewinedd yn teimlo’n rhy feddal neu fel petaen nhw’n dod yn rhydd, bod siâp eich ewinedd yn newid, neu bod blaenau eich bysedd neu’ch bodiau yn bochio allan. Gall clybio ddigwydd efo amrywiol gyflyrau eraill ar yr ysgyfaint ac o ganlyniad i glefyd y galon neu’r afu.

Cyfeiriadau golygu


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r British Lung Foundation.

Am wybodaeth lawn gweler yr erthygl wreiddiol gan y British Lung Foundation neu am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!