Darlledwraig, awdur a chyn-was sifil yw Ffion Hague (ganwyd 1968) a ddaeth yn adnabyddus fel gwraig y gwleidydd ceidwadol William Hague. Ganwyd Ffion Jenkins yng Nghaerdydd ac mae'n siarad Cymraeg. Daeth i'r amlwg yn gyntaf pan cafodd ei dewis i ddysgu'r Gymraeg i'w darpar ŵr pan oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae'n chwaer iau i Manon Antoniazzi, sy'n ferch i gyn-drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol Emyr Jenkins.[1][2]

Ffion Hague
Ganwyd21 Chwefror 1968 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Man preswylRichmond Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyflwynydd radio, cofiannydd Edit this on Wikidata
PriodWilliam Hague Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Mynychodd Ysgol Gyfun Glantaf, lle'r oedd yn perthyn i Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru a'r Côr Cenedlaethol Ieuenctid. Wedi gadael yr ysgol aeth yn ei blaen i astudio Saesneg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, ac ymunodd â'r Gwasanaeth Sifil ar ôl graddio.[2]

Bywyd personol golygu

Cyfarfu William Hague yn 1995 pan ddaeth yn ysgrifennydd preifat yn y Swyddfa Gymreig. Oherwydd yr embaras a achoswyd gan yr ysgrifennydd Cymru blaenorol (John Redwood) a fethodd ganu'r Anthem Genedlaethol, penderfynodd ei olynydd, Hague, ddechrau dysgu geiriau'r Anthem. Dewiswyd Ffion i wneud hynny, a phriododd y ddau ym 1997 ac ar hyn o bryd["pan?"] maent yn byw ym Mhowys.[3]

Darlledwraig ac awdures golygu

Mae Ffion wedi cyhoeddi bywgraffiad o David Lloyd George o dan y teitl Y Boen a Braint. a chyflwynodd gyfres o raglenni ar gyfer S4C: Mamwlad (2012),Tri Lle (2010) a Dwy Wraig Lloyd George (2009). Mae hi hefyd wedi cyflwyno rhaglenni ar gyfer BBC Radio 3 a BBC Radio 4.[4]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Archipelago, World. "Ffion Hague". HarperCollins UK. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-12-20. Cyrchwyd 2016-12-08.
  2. 2.0 2.1 "BBC News | UK | Ffion Jenkins: a passionate Welsh patriot". news.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2016-12-08.
  3. "My Yorkshire: Ffion Hague". www.yorkshirepost.co.uk. Cyrchwyd 2016-12-08.
  4. "S4C Factual - Mamwlad". www.s4c.cymru. Cyrchwyd 2016-12-08.