Ffiseg mater cyddwysedig

Cangen o ffiseg yw ffiseg mater cyddwysedig sy'n ymwneud â chasgliadau enfawr o ronynnau fel crisialau neu electronau mewn metelau. Yn fras, gellir ei rhannu mewn i ddau isddosbarth, sef mater cyddwysedig caled, sy'n ymdrin â systemau yn y cyflwr solet fel crisialau, a mater cyddwysedig meddal, sy'n ymdrin â ffiseg systemau megis proteinau a hylifau actif. Er mwyn disgrifio'r systemau yma, rhaid defnyddio dulliau o sawl maes gwahanol mewn ffiseg, e.e. thermodynameg a mecaneg ystadegol, mecaneg cwantwm a mecaneg maes cwantwm, a hydrodynameg. Un o'r syniadau mwyaf pwysig a dadleuol i ddod o'r maes yma o ffiseg yw'r syniad o ymddangosiad, sef y tueddiad i systemau cymhleth datblygu nodweddion newydd sydd yn absennol yn eu cyfansoddion.

Eginyn erthygl sydd uchod am ffiseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.