Ffontygari

pentref a chymuned ym Mro Morgannwg
(Ailgyfeiriad o Ffont-y-gari)

Pentref yng nghymuned Y Rhws, Bro Morgannwg, Cymru, yw Ffontygari[1] neu Ffont-y-Gari[2] (llurguniad Saesneg: Fontegary). Gorwedd y pentref ar yr arfordir i'r gorllewin o'r Rhws, ger Maes Awyr Caerdydd, prif faes awyr y wlad. I’r gogledd mae Ffwl-y-mwn a Chastell Ffwl-y-mwn.

Ffont-y-gari
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBro Morgannwg Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.3853°N 3.3654°W Edit this on Wikidata
Cod OSST052664 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJane Hutt (Llafur)
AS/auAlun Cairns (Ceidwadwr)
Map

Mae tarddiad yr enw yn ansicr, ond yn 1587, roedd e wedi ei gofnodi fel “Fundygary”.

Nid oes llawer yn y pentref bychan heblaw tai, gwersyllfa gwyliau a thraeth caregog. Ar Ddydd Sul, mae yna arwerthiant cist ceir yn y wersyllfa gwyliau. Mae chwarel segur rhwng Ffont-y-gari ac Aberddawan.

Yn 1928 roedd Ffontygari yn lle poblogaidd i gael picnic, ac yn 1943, cafodd ei ddisgrifio fel “cyrchfa haf dymunol gyda thraeth hyfryd ar gyfer ymdrochfa, yn ymyl elltydd ysgithrog sydd yn creu cefndir hyfryd - a hefyd lle cyfleus i nofiwr newid ei ddillad.” Mae’r traeth creigiog a’r elltydd yn hynod ac mae yna ogof fawr o’r enw Ogof Ffont-y-gari. Yn y 1960au, darluniodd Francis Lymburner arfordir Ffontygari yn ei luniau pen ac inc o Gymru. Aeth yr actores Susan George ar ei gwyliau i'r wersyllfa gwyliau fel plentyn.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Alun Cairns (Ceidwadwr).[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru", Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 26 Ebrill 2023
  2. British Place Names; adalwyd 22 Tachwedd 2021
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU