Ffrwydradau Marathon Boston

Ymosodiad terfysgol yn ystod ras Farathon Boston yn 2013 gan y brodyr Tamerlan a Dzhokhar Tsarnaev oedd ffrwydradau Marathon Boston. Ar 15 Ebrill 2013, ffrwydrodd ddau fom yn agos i linell derfyn y marathon ar Boylston Street ger Copley Square yn Boston, Massachusetts, UDA, am 2:50 p.m. EDT (18:50 UTC).[1] Bu farw tri, a chafodd nifer o bobl eraill yn y dorf eu hanafu'n ddifrifol a cholli coesau. Cafodd mwy na 260 eu hanafu i gyd. Y diwrnod wedi'r ffrwydradau, datganodd yr Arlywydd Barack Obama bod yr FBI yn ei drin fel ymosodiad terfysgol.[2]

Ffrwydradau Marathon Boston
Enghraifft o'r canlynolffrwydrad, ymosodiad terfysgol, ymosodiad gyda bom Edit this on Wikidata
Dyddiad15 Ebrill 2013 Edit this on Wikidata
LladdwydEdit this on Wikidata
LleoliadBoston Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifMassachusetts Institute of Technology Libraries Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthBoston, Cambridge, Watertown, Massachusetts Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Tridiau wedi'r ffrwydradau, cafodd heddwas ei saethu'n farw ar gampws MIT a chafodd cerbyd ei gipio a'i yrru i faestref Watertown, Boston. Dilynai'r car a chafwyd ysgarmes rhwng yr heddlu a Tamerlan a Dzhokhar Tsarnaev. Llwyddodd Dzhokhar i ddianc yn y car, ond anafwyd Tamerlan a bu farw yn yr ysbyty ar 19 Ebrill. Cyhoeddid lockdown swyddogol yn y rhan fwyaf o'r ddinas wrth i'r heddlu mynd o ddrws i ddrws yn chwilio am yr ail frawd. Daeth un o drigolion Watertown o hyd i Dzhokhar yn cuddio yn ei gwch yn ei ardd. Cafodd ei arestio, ac yn 2015 cafwyd yn euog o 30 o droseddau'n ymwneud â ffrwydradau'r marathon a'i ddedfrydu i farwolaeth. Islamiaeth eithafol oedd cymhelliad y brodyr Tsarnaev, ond nid oes tystiolaeth o gysylltiadau rhyngddynt a grwpiau terfysgol. Yn hytrach, roeddent wedi "hunan-radicaleiddio".[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Arsenault, Mark (16 Ebrill 2013). 3 killed, more than 140 hurt by bombs at Marathon. The Boston Globe. Adalwyd ar 16 Ebrill 2013.
  2. (Saesneg) Liptak, Kevin (16 Ebrill 2013). Obama calls attack 'terror'. CNN. Adalwyd ar 16 Ebrill 2013.
  3. (Saesneg) Boston Marathon bombing of 2013. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Mawrth 2017.
     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes yr Unol Daleithiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.