Roedd Fidel Castro ( audio)(13 Awst 1926 - 25 Tachwedd 2016) yn wleidydd o Ciwba. Roedd e'n brif weinidog ar ei wlad o 1959 hyd 1976 ac yn arlywydd o 1976 tan 2008.

Fidel Castro
GanwydFidel Alejandro Castro Ruz Edit this on Wikidata
13 Awst 1926 Edit this on Wikidata
Birán Edit this on Wikidata
Bu farw25 Tachwedd 2016 Edit this on Wikidata
La Habana Edit this on Wikidata
Man preswylSantiago de Cuba Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCiwba Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Havana
  • Belen Jesuit Preparatory School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithiwr, partisan, newyddiadurwr, chwyldroadwr, gwladweinydd Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Ciwba, First Secretary of the Communist Party of Cuba, Prif Weinidog Ciwba, Secretary General of the Non-Aligned Movement, Secretary General of the Non-Aligned Movement Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolCommunist Party of Cuba, Party of the Cuban People – Orthodox, 26th of July Movement, Integrated Revolutionary Organizations, United Party of the Cuban Socialist Revolution Edit this on Wikidata
TadÁngel Castro y Arguíz Edit this on Wikidata
MamLina Ruz González Edit this on Wikidata
PriodMirta Díaz-Balart, Dalia Soto del Valle Edit this on Wikidata
PartnerNatalia Revuelta Clews, Dalia Soto del Valle Edit this on Wikidata
PlantAlina Fernández, Fidel Ángel Castro Diaz-Balart Edit this on Wikidata
Gwobr/auArwr yr Undeb Sofietaidd, Urdd Lenin, Medal Jiwbilî "30 Mlynedd o Fuddugoliaeth yn y Rhyfel Mawr Gwladgarol 1941-1945", Urdd y Chwyldro Hydref, Coler Urdd y Llew Gwyn, Star of the Socialist Republic of Romania, Urdd Georgi Dimitrov, Uwch Groes Urdd Polonia Restituta, Order of Jamaica, Urdd Teilyngdod, Urdd Karl Marx, Uwch Groes Urdd Eryr yr Aztec, Urdd Klement Gottwald, Order of Merit of Duarte, Sanchez and Mella, Grand Collar of the Order of Good Hope, Grand Cross of the National Order of Mali, Urdd Tywysog Yaroslav Gall, Dosbarth 1af, Urdd dros ryddid, Gwobr Urdd y Goron a'r Frenhiniaeth, Maleisia, Urdd y Quetzal, Gwobr Cymdeithion O. R. Tambo, Seren Cyfeillgarwch y Bobl, Confucius Peace Prize, Gwobr hawliau Dynol Al-Gaddafi, Gwobr Heddwch Lennin, Urdd y Weriniaeth, Urdd Teilyngdod, Dosbarth 1af, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Genedlaethol San Marcos, Urdd Lenin, Order of Timor-Leste, Order of Ho Chi Minh, Order of Omar Torrijos Herrera, Order of Agostinho Neto, Order of Belize, Order of the Nile, Urdd Seren Mawr Iwgoslafia, Bintang Mahaputera Adipurna, Urdd José Martí, Q109986273, Urdd Lenin, Order of Eduardo Mondlane, 1st class Edit this on Wikidata
llofnod

Moncada golygu

Fe'i ganwyd yn fab i berchennog planhigfa siwgr cyfoethog yn 1926. Daeth i wrthwynebu polisïau a llywodraeth gormesol Fulgencio Batista. Ar 26 Gorffennaf 1953 arweiniodd ymosodiad aflwyddiannus ar faracs Moncada a chafodd ei garcharu hyd 1955.

Granma golygu

Treuliodd gyfnod o alltudiaeth yn Mecsico gyda'i frawd Raoul lle cyfarfu â Che Guevara. Yn 1956 hwyliodd o Fecsico ar y llong fach Granma gyda'i gyd-chwyldroadwyr arfog, gan gynnwys Che Guevara. Ar ôl cyfnod hir o wrthryfela ym mryniau coediog y Sierra Madre, llwyddodd i ddisodli llywodraeth Batista pan gipiodd Havana ar 1 Ionawr, 1959.

Argyfyngau golygu

Sefydlodd lywodraeth sosialaidd yn Ciwba ac enillodd ddicter yr Unol Daleithiau (oherwydd ei raglen o drosglwyddo tir y tirfeddianwyr cyfoethog i'r werin) ac am ei gefnogaeth agored i fudiadau chwyldroadol eraill yn Ne a Chanolbarth America. Ceisiodd yr Unol Daleithiau gael gwared o Castro a'i lywodraeth a gosodwyd embargo economaidd ganddynt ar y wlad. Y canlyniad fu i Castro droi fwyfwy at yr Undeb Sofietaidd am gymorth. Penllanw'r cyfnod cythryblus hwnnw oedd goresgyniad y Bay of Pigs ac Argyfwng Taflegrau Ciwba.

Ar lwyfan y byd golygu

Ar ddiwedd y 1960au ac yn ystod y 1970au ceisiodd Castro, gyda pheth llwyddiant, chwarae rôl ehangach ar y llwyfan ryngwladol fel un o arweinwyr y Gwledydd Amhleidiol (Non-Aligned Countries).

Heddiw golygu

Yn 2006 cafodd salwch a threuliodd gyfnod yn yr ysbyty. Daeth ei frawd Raoul yn arlywydd yn 2008. Bu farw ar 25 Tachwedd 2016.[1][2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Cuba's Fidel Castro dies aged 90". BBC News. 26 Tachwedd 2016. Cyrchwyd 25 Tachwedd 2016.
  2. Zabludovsky, Karla (26 Tachwedd 2016). "Fidel Castro, Longtime Cuban Leader, Dead At Age 90". BuzzFeed. Cyrchwyd 25 Tachwedd 2016.


  Eginyn erthygl sydd uchod am Nghiwba. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato