Hanesydd Eidalaidd a dyneiddiwr yng nghyfnod y Dadeni Dysg oedd Flavio Biondo (Lladin: Flavius Blondus; 13924 Mehefin 1463).[1]

Flavio Biondo
Ganwyd1388, 1392, 1392 Edit this on Wikidata
Forlì Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mehefin 1463 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Galwedigaethhanesydd, archeolegydd, daearyddwr, dyneiddiwr y Dadeni Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadStrabo Edit this on Wikidata

Ganed yn Forlì yn rhanbarth Romagna, dan awdurdod Taleithiau'r Babaeth. Derbyniodd addysg dda a fe'i hyfforddwyd yn ysgrifennydd a chopïwr llawysgrifau. Gweithiodd yn notari, gwas sifil, a sgrifellwr yn Fenis. Ym 1433 symudodd Biondo i Rufain ac enillodd ffafr y Pab Eugenius IV. Cafodd ei benodi yn ysgrifennydd apostolaidd yn Llys y Pab ym 1434. Aeth i Fenis ar genhadaeth ddiplomyddol ac ymwelodd â'r condottiere Francesco Sforza, a fe'i danfonwyd i Gyngor Eglwysig Ferrara-Fflorens (1438–45). Collodd Biondo ffafr dan deyrnasiad y Pab Niclas V.

Mae ei brif waith, Historiarum ab inclinatione Romanorum libri ("Y hanes ers cwymp Rhufain"; 1453), yn ymwneud â hanes yr Eidal o 410 i'r 1440au. Biondo a fathai'r enw "Yr Oesoedd Canol" i ddisgrifio'r cyfnod rhwng yr Henfyd a'r Dadeni. Ymhlith ei weithiau eraill mae De Roma instaurata (3 cyfrol, 1444–46) ar bwnc topograffeg Rhufain hynafol a De Roma triumphante (1459) sydd yn trafod yr hen drefn Rufeinig yn fodel ar gyfer sefydliadau gweinyddol a milwrol. Cyfrannodd Biondo yn sylweddol at wladgarwch Rhufeinig, parch at yr Henfyd yn ystod y Dadeni, a'r syniad o'r Eglwys Gatholig yn olynydd i'r Ymerodraeth Rufeinig.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Flavio Biondo. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Awst 2020.