Francesco Bartolomeo Rastrelli

Roedd Francesco Bartolomeo Rastrelli (Rwseg: Франческо Бартоломео (Варфоломей Варфоломеевич) Растрелли) (1700 ym Mharis Deyrnas Ffrainc - 29 Ebrill 1771 yn St Petersburg, Ymerodraeth Rwsia) yn bensaer Eidalaidd a weithiodd yn bennaf yn Rwsia. Datblygodd arddull hawdd ei adnabod o Faróc Hwyr a oedd yn ysblennydd a mawreddog. Mae ei waith mawr, gan gynnwys Palas y Gaeaf yn St Petersburg a Phalas Catherine yn Tsarskoye Selo yn enwog am eu moethusrwydd ac addurn anhygoel.[1]

Francesco Bartolomeo Rastrelli
Ganwyd1700 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Bu farw29 Ebrill 1771 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
St Petersburg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia Edit this on Wikidata
Galwedigaethpensaer Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Academi Ymerodrol y Celfyddydau Edit this on Wikidata
Adnabyddus amRundāle Palace, Saint Andrew's Church, Anichkov Palace, Vorontsov Palace, Palas Gaeaf, Smolny Cathedral, Catherine Palace, Stroganov Palace, St Petersburg, Moscfa, Tsarskoye Selo Edit this on Wikidata
MudiadBaróc Edit this on Wikidata
TadCarlo Bartolomeo Rastrelli Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ym 1716, symudodd Bartolomeo i St Petersburg, Rwsia, ynghyd â'i dad, y cerflunydd Eidalaidd Carlo Bartolomeo Rastrelli (1675-1744). Ei uchelgais oedd cyfuno ffasiwn pensaernïol diweddaraf yr Eidal gyda thraddodiadau arddull Baróc Moscow. Daeth y comisiwn pwysig cyntaf ym 1721 pan ofynnwyd iddo adeiladu palas i'r Tywysog Demetre Cantemir cyn-reolwr Moldavia.

Fe'i penodwyd i swydd uchel bensaer y llys ym 1730. Cafodd ei waith ei ffafrio gan bendefigion benywaidd ei gyfnod, felly cadwodd ei swydd trwy gydol teyrnasiad yr ymerodresau Anna (1730-1740) ac Elizabeth (1741-1762).

Prosiect olaf a mwyaf uchelgeisiol Rastrelli oedd y Convento Smolny yn St Petersburg lle bu'r Ymerodres Elizabeth yn treulio gweddill ei bywyd. Bwriadwyd i dŵr clochdy'r conventio bod yr adeilad talaf yn St Petersburg a Rwsia i gyd. Ond daeth marwolaeth Elizabeth ym 1762 a gobeithion Rastrelli i gyflawni'r dyluniad mawreddog hwn i ben heb ei gwblhau.

Bu'r i'r ymerodres newydd, Catherine II ymwrthod a phensaernïaeth Faróc gan ei ddisgrifio fel hufen chwisg hen ffasiwn", a bu rhaid i'r pensaer oedrannus ymddeol i Courland lle bu'n goruchwylio cwblhau ac addurno'r palasau dugol.

Treuliwyd ei flynyddoedd diwethaf mewn masnach di nod gyda chrefftwyr Eidaleg. Fe'i hetholwyd i Academi'r Celfyddydau Ymerodraethol ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth. Mae'r sgwâr o flaen y Convento Smolny wedi dwyn enw Rastrelli ers 1923. Mae'n destun y cyfansoddiad cerddorol, Rastrelli yn St Petersburg, a ysgrifennwyd yn 2000 gan y cyfansoddwr Eidalaidd Lorenzo Ferrero.

Deg adeilad gan Rastrelli sydd dal i fodoli golygu

# Delwedd Enw Lleoliad Dyddiad
1   Palas Rundāle Pilsrundāle ger Bauska
  Latfia
1736—1740
1764—1767
2   Palas Jelgava Jelgava
  Latfia
1738—1740
1763—1772
3   Palas Peterhof Peterhof ger St. Petersburg
  Rwsia
1747—1755
  Capeli Palas Peterhof Peterhof ger St. Petersburg
  Rwsia
1747—1751
4   Eglwys San Andreas Kiev Kiev
  Wcráin
1748—1767
5   Cwfaint Smolny St. Petersburg
  Rwsia
1748—1764
6   Palas Vorontsov St. Petersburg
  Rwsia
1749—1757
7   Palas Catherine Tsarskoe Selo (Pushkin)
  Rwsia
1752—1756
  Pafiliwn y Feudwyfa Tsarskoe Selo (Pushkin)
  Rwsia
1749
8   Palas Mariyinsky Kiev
  Wcráin
1752
1870
9   Palas Stroganov St. Petersburg
  Rwsia
1753—1754
10   Palas y Gaeaf St. Petersburg
  Rwsia
1754—1762[2]

Adeiladau a dymchwelwyd golygu

# Delwedd Enw Nodiadau Lleoliad Dyddiad
1   Annenhof Adeiladwyd o goed, wedi'i ddisodli gan Balas Catherine (Moscow) Moscow
  Rwsia
1731
2   Palas gaeaf Anna Wedi'i ddisodli gan Balas y Gaeaf Saint Petersburg
  Rwsia
1732—1735
dymchwelwyd 1754
3   Palas yr haf Adeiladwyd o goed, dymchwelwyd i wneud lle i Gastell Saint Michael Saint Petersburg
  Rwsia
1741—1744
dymchwelwyd 1797
4   Palas gaeaf y Kremlin dymchwelwyd i wneud lle i Balas Mawr y Kremlin Kremlin Moscfa
  Rwsia
1747—1756
ailadeiladwyd 1798
dymchwelwyd 1837

Cyfeiriadau golygu