Francis Lewis

un o'r rhai a arwyddodd Datganiad Annibyniaeth, U.D.A.

Roedd Francis Lewis (21 Mawrth 1713 - 31 Rhagfyr 1802) yn llofnodydd Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau fel cynrychiolydd Efrog Newydd.[1]

Francis Lewis
Ganwyd21 Mawrth 1713 Edit this on Wikidata
Llandaf Edit this on Wikidata
Bu farw30 Rhagfyr 1803, 31 Rhagfyr 1802 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru Baner UDA UDA
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
TadWilliam Lewis Edit this on Wikidata
MamNn Pettingall Edit this on Wikidata
PriodElizabeth Annesley Edit this on Wikidata
PlantMorgan Lewis, Francis Lewis, Ann Lewis Edit this on Wikidata
llofnod

Bywyd Cynnar golygu

Cafodd Lewis ei eni yn Llandaf, yn unig blentyn Morgan Lewis ac Anne Pettingale. Roedd ei dad a'i daid mamol yn offeiriaid Anglicanaidd [2]. Bu farw ei rieni pan oedd tua 5 mlwydd oed ac aeth i fyw gyda modryb yn yr Alban lle cafodd addysg elfennol a lle dysgodd siarad Gaeleg yr Alban,[3] wedyn aeth yn ddisgybl i ysgol Westminster Llundain. Wedi ymadael a'r ysgol cafodd Lewis ei brentisio i dŷ masnachol yn Llundain.

Teulu golygu

Priododd Francis a Lewis Elizabeth Annesley, chwaer iau ei bartner, ar 15 Mehefin, 1745. Bu iddynt saith o blant, ond bu pedwar ohonynt farw yn eu babanod.

Gyrfa golygu

Pan gyrhaeddodd 21 mlwydd oed cafodd Lewis reolaeth ar eiddo a etifeddodd trwy ewyllys ei dad. Gwerthodd yr eiddo a phrynodd nwyddau i'w hallforio i America a hwyliodd gyda'i nwyddau i Efrog Newydd tua 1734.[4]

Gadawodd gyfran o'r nwyddau yn Efrog Newydd i'w werthu gan ei bartner busnes, Edward Annesley, ac aeth a'r gweddill i Philadelphia, lle bu'n byw am ddwy flynedd cyn dychwelyd i Efrog Newydd. Yno roedd yn ymwneud â mordwyo a masnach dramor, gan wneud nifer o deithiau masnachu trawsiwerydd.

Roedd busnes Lewis yn darparu arfwisgoedd i'r lluoedd Prydeinig a oedd yn ymladd yn erbyn lluoedd Ffrainc a'r brodorion cynhenid yn America ar y pryd. Roedd Lewis yn Fort Oswego garsiwn Prydeinig yn Nhalaith Efrog Newydd, ym mis Awst 1756 yn gwerthu ei nwyddau pan ymosodwyd ar y gaer gan luoedd Ffrengig dan orchymyn y Cadfridog Montcalm a'u cynghreiriaid Indiaid. Ildiodd y gaer i Montcalm o dan sicrwydd diogelwch, ond caniataodd y cadfridog i'w gynghreiriaid Indiaid i ddethol 30 o garcharorion i wneud â hwy fel y mynnont. Roedd Lewis ymhlith y 30 a ddewiswyd, gan wynebu naill ai farwolaeth neu gaethiwed. Yn ffodus, canfu Lewis fod iaith Frodorol America yn debyg i'r iaith Gymraeg ac yn gallu siarad â nhw (gweler nodyn 1 isod).[3] Rhyddhawyd Lewis a'i danfon yn ôl i Montreal, gan ofyn iddo gael ei ddychwelyd i'w deulu. Yn lle hynny, anfonwyd Lewis i Ffrainc fel carcharor. Yn y pen draw, dychwelodd i'r trefedigaethau Americanaidd mewn cyfnewid carcharorion yn 1763.[5]

Rhoddodd llywodraeth Prydain iddo 5,000 erw o dir yn Efrog Newydd fel iawndal am y saith mlynedd y bu'n garcharor.[6] Ailsefydlodd Lewis ei hun mewn busnes a gwnaeth ffortiwn fawr a oedd yn ei alluogi i ymddeol o fusnes ym 1761 yn 52 mlwydd oed. Ym 1771 helpodd Lewis i'w fab, Francis, i sefydlu busnes nwyddau sych o'r enw Francis Lewis & Mab, a throsglwyddodd rheolaeth ei fusnesau iddo. Yn 1775 symudodd Lewis a'i deulu i ystâd a gafodd yn Whitestone, Efrog Newydd.

Gyrfa wleidyddol golygu

Fel un a wnaeth ei ffortiwn yn masnachu efo'r fyddin Brydeinig roedd Lewis yn gefnogol i Goron Lloegr pan gychwynnodd yr alwad am annibyniaeth i'r America. Ond newidiodd ei farn wedi pasio Deddf Stamp 1765. Roedd y ddeddf yn mynnu bod deunydd wedi'i hargraffu yn y trefedigaethau yn cael eu cynhyrchu ar bapur wedi'i gynhyrchi yn Llundain a oedd yn cynnwys stamp refeniw (sef treth).[7]

Roedd y Ddeddf Stamp yn amhoblogaidd ymhlith y gwladychiaethwyr. Roedd mwyafrif o'r farn ei fod yn groes i'w hawliau fel deiliaid y Goron i gael eu trethu heb eu caniatâd. Roeddynt yn hawlio na ddylid codi trethi yn y trefedigaethau heb ganiatâd y deddfwrfeydd trefedigaethol.[8] Eu slogan oedd "Dim treth heb gynrychiolaeth". Cynhaliwyd Cyngres y Ddeddf Stamp i gyd drefnu ymateb i'r ddeddf newydd yn Ninas Efrog Newydd. Cyngres y Ddeddf Stamp oedd yr ymateb arwyddocaol trefedigaethol cyntaf i unrhyw fesur Prydeinig pan ddeisebodd y Senedd a'r Brenin i wrthwynebu'r ddeddf. Roedd Lewis ymysg y rhai a mynychodd Cyngres y Ddeddf Stamp. Roedd Lewis yn un o sylfaenwyr The Sons of Liberty, mudiad cudd a grëwyd i drefnu'r gwrthwynebiad i'r ddeddf stamp ac i gosbi'r sawl oedd yn cynorthwyo llywodraeth Prydain i weithredu'r ddeddf.

Ym mis Mai 1774, ffurfiwyd Y Pwyllgor o Hanner Cant ar gyfer protestio yn erbyn cau porthladd Boston. Ymunodd Lewis â'r grŵp hefyd, gan ei gwneud yn Bwyllgor o Bumdeg Un. Ehangwyd y pwyllgor ymhellach i greu'r Pwyllgor o Drigain. Bu'r pwyllgorau hyn yn gyfrifol am benderfynu pwy oedd i gynrychioli Trefedigaeth Efrog Newydd yn y Gyngres Gyfandirol, llywodraeth gysgodol ar gyfer America annibynnol. Etholwyd Lewis yn aelod o'r Gyngres ym 1775 a 1776.[4]

Ym 1775 llofnododd Lewis Deiseb y Gangen Olewydden, a oedd yn ymgais gan y Gyngres Gyfandirol i ddod i drafodaeth â llywodraeth Prydain er mwyn osgoi rhyfel rhwng y trefedigaethau a'r Ymerodraeth Brydeinig. Gwrthodwyd y ddeiseb ac erbyn 1776 gwnaed Datganiad o Annibyniaeth yn erbyn llywodraeth o Brydain. Pleidleisiwyd o blaid y Datganiad o Annibyniaeth gan y Gyngres Gyfandirol ar 2 Gorffennaf 1776, ond oherwydd trafferthion cyfathrebu methwyd cysylltu â chynrychiolwyr Efrog Newydd. Arwyddodd Lewis y Datganiad ar ran Efrog Newydd ar 2 Awst 1776.[4]

Ym 1778 arwyddodd Erthyglau'r Cydffederasiwn sef cyfansoddiad gyntaf yr America annibynnol.

Cafodd ei gartref, yn Whitestone, yn Queens, Efrog Newydd, ei ddinistrio yn y Rhyfel Annibyniaeth a dilynodd arwyddo'r Datganiad o Annibyniaeth gan luoedd Prydain ac aed a'i wraig yn garcharor.[7] Cafodd hi ei rhyddhau o gaethiwed ym 1779 ond roedd ei hiechyd wedi torri o ganlyniad i'w cham-drin yn y carchar a bu farw ychydig yn niweddarach.[9]

Ymneilltuodd Lewis o fywyd cyhoeddus ym 1781.

Marwolaeth golygu

 
cofeb Francis Lewis

Bu farw Lewis ar 31 Rhagfyr 1802 yn 90 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym Mynwent y Drindod Efrog Newydd mewn bedd heb ei farcio. Gosodwyd cofeb ger ei fedd ym 1947

Nodiadau golygu

1] Roedd yna gred bod rhai o lwythau brodorol yr America, megis y Mandan, yn ddisgynyddion i Madog ab Owain Gwynedd a hwyliodd i'r America tua 1170 a bod eu hiaith yn tarddu o'r Gymraeg. Mae sôn am nifer o Gymry Cymraeg yn ffoi o farwolaeth sicr o dan law Indiad wedi i'r Indiad deall eu gweddïau olaf yn y Gymraeg. Does dim sail hanesyddol na ieithyddol i'r myth.

Cyfeiriadau golygu