Francisco Jiménez de Cisneros

Esgob a gwleidydd Sbaenaidd oedd Francisco Jiménez de Cisneros (14368 Tachwedd 1517) a fu ddwywaith yn rhaglyw Coron Castilla, ym 1506 ac o 1516 i 1517.[1]

Francisco Jiménez de Cisneros
Portread o'r Cardinal Francisco Jiménez de Cisneros.
Ganwyd1436 Edit this on Wikidata
Torrelaguna Edit this on Wikidata
Bu farw8 Tachwedd 1517 Edit this on Wikidata
Roa, Burgos Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCastilla
Galwedigaethgwleidydd, ysgrifennwr, esgob Catholig Edit this on Wikidata
SwyddArch-chwilyswr Castille, cardinal, Primacy of the Diocese of Toledo, rhaglyw, Roman Catholic Archbishop of Toledo Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed Gonzalo Jiménez de Cisneros yn Torrelaguna, Castilla, yn fab i gasglwr trethi o hidalgo. Astudiodd ym Mhrifysgol Salamanca. Wedi iddo gael ei ordeinio, treuliodd y cyfnod o 1459 i 1466 yn Rhufain, ac yno daeth yn gyfarwydd â syniadau dyneiddiol newydd. Nid oedd yn hoff o'r dyneiddwyr yn Llys y Pab, er iddo edmygu eu dysg. Derbyniodd ganiatâd oddi ar y Pab Pawl II i feddu'r swydd gyntaf ar gael yn Archesgobaeth Toledo. Gwrthod y llythyr hwnnw wnaeth yr Archesgob Alfonso de Carillo, a chafodd Jiménez ei garcharu o 1473 i 1479 am fynnu ei hawl. Ym 1482 penodwyd Jiménez yn ficer cyffredinol Sigüenza gan y Cardinal Pedro González de Mendoza, ond ym 1484 ymddiswyddodd Jiménez ac aeth yn fynach yn Urdd Sant Ffransis yn San Juan de los Reyes, Toledo, gan gymryd yr enw Fray Francisco.

Ym 1492, ar gyngor Mendoza, penodwyd Jiménez yn gyffeswr i'r Frenhines Isabel I, ac enillai dylanwad fel cynghorydd crefyddol a gwleidyddol yn y llys brenhinol. Ym 1495 fe olynodd Mendoza yn Archesgob Toledo, ac yn ei swydd aeth ati i ddiwygio'r glerigiaeth yn Sbaen. Datganodd sawl gorchymyn yn Synodau Alcalá (1497) a Talavera (1498), a gyhoeddasant ar ffurf holwyddoreg syml, gan orfodi clerigwyr i fyw yn eu plwyfi, i fynychu'r gyffes, ac i bregethu'r efengyl bob Sul, ac yn gwahardd yr arfer o ordderchaeth. Gorfodwyd hefyd i'r urddau mynachaidd lynu at eu diofrydau. Digiodd yr uchelwyr eglwysig wrth y diwygiadau hyn, ac apeliasant at y Frenhines Isabel ac at Rufain am ymyrraeth. Ffoes 400 o fynachod o Andalucía i Ogledd Affrica, gyda'u gordderchwragedd, a throesant yn Fwslimiaid. Yn y pen draw, enillai'r rheolau newydd eu plwyf ym mywyd eglwysig Sbaen. Penderfynodd Jiménez y byddai'n gorfodi'r Morisgiaid yn Granada i droi'n Gristnogion, yn groes i gyngor yr Archesgob Hernando de Talavera i roi addysg Gristnogol iddynt a'u cristioneiddio felly. Nid oedd y Morisgiaid yn fodlon â'r drefn newydd, a bu gwrthryfel ganddynt ym 1499–1500. Dechreuodd Jiménez gynllunio ar gyfer prifysgol yn Alcalá de Henares ym 1498 i ddiwygio bywyd deallusol yr eglwys yn Sbaen. Agorwyd y brifysgol o'r diwedd ym 1508, gyda diwinyddion yn darlithio ar bynciau Tomistiaeth, Scotyddiaeth, ac enwoliaeth yn ogystal ag ieithoedd y Dwyrain.

Yn sgil marwolaeth y Frenhines Isabel ym 1504, cefnogodd Jiménez hawl ei gŵr gweddw, Ferdinand II, brenin Aragón, i Goron Castilla. Er gwaethaf hyn, bu'n rhan o Gytundeb Salamanca, a ddatganodd Philip, Dug Bwrgwyn yn Frenin Castilla. Wedi marwolaeth Philip ym 1506, pan oedd Ferdinand yn Napoli, sefydlwyd llywodraeth yng Nghastilia dan raglywiaeth Jiménez er mwyn atal yr uchelwyr a oedd yn dymuno rhoi'r goron i'r Ymerawdwr Maximilian I. Ym 1507, penodwyd Jiménez yn Uchel Chwilyswr ac yn gardinal gan y Brenin Ferdinand. Anogodd Jiménez ymgyrchoedd milwrol yng Ngogledd Affrica (1505–10), gan ddarparu arian o bwrs yr archesgobaeth, a chipiwyd sawl porthladd, gan gynnwys Oran, gan luoedd Castilla. Er hynny, tynnwyd sylw Ferdinand gan ymgyrchoedd yn yr Eidal, a gwrthododd y brenin gefnogi cynllun Jiménez i orchfygu Gogledd Affrica gyfan drwy groesgad.

Yn sgil marwolaeth Ferdinand ym 1516, roedd Jiménez yn rhaglaw unwaith eto ar Goron Castilla, a bu'n rhaid iddo gyflafareddu rhwng diddordebau'r uchelwyr a'r dinasoedd, a'r Castiliaid a'r Aragoniaid. Gweithiodd Jiménez i ennill cydnabyddiaeth i hawl Siarl, Dug Bwrgwyn i'r goron. Bu farw Jiménez yn Roa de Duero, wedi iddo sicrhau yr olyniaeth.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Francisco Jiménez de Cisneros. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Mawrth 2021.